
 |
 |
Llyfr
taith yn
'Nofel y Mis'
Anturiaethau
dau Gymro ar eu beics yn Nhibet |
O
Afallon i Shangri La gan Llion Iwan. Gwasg Gomer. £6.95.
Llyfr taith ffeithiol sydd yn darllen fel nofel yw Nofel y Mis
ar gyfer Chwefror.
Yr
awdur yw Llion Iwan ac y mae'n disgrifio yn O Afallon i Shangri
La daith feics yn un o ardaloedd mwyaf diffaith y byd yn Nhibet.
Yn ôl un o feirniaid y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol
yn Llanelli y llynedd, Angharad Dafis, hon oedd cyfrol orau y gystadleuaeth.
"Hon," meddai, "lwyddodd i estyn fy mhrofiad" gan ychwanegu fod yr
awdur "fel dewin yn ei allu i lithio gwlad bellennig ger ein bron
yn well nag unrhyw gerdyn post neu lun neu ffilm."
Canmol dawn brin
Ychwanegodd mai "dawn brin yw dawn o'r fath."
Gyda'r llyfr yn awr wedi ei gyhoeddi gan Wasg Gomer bydd cyfle i ddarllenwyr
Cymru brofi'r un wefr ag a gafodd hi a phenderfynu sut mae'r gyfrol
yn cymharu a'r un a wobrwywyd.
Doedd y beirniaid ddim yn unfryd eu canmoliaeth gyda beirniad arall,
Katie Gramich, yn dweud er bod yr awdur yn medru "sgrifennu brawddegau
graenus a disgrifiadau cofiadwy" na allai ddeall hoffter Angharad
Dafis o'r llyfr hyd yn oed wedi iddi hi ei ddarllen yr eildro.
Canmolodd y trydydd Beirniad, John Rowlands, y llyfr am beidio a bod
yn "dwristaidd" ei agwedd o gwbl,
"Mae'n frathog ei dafod am yr Americanwyr uchel eu cloch ond hefyd
am y y Tsieineaid a'u llywodraeth," meddai gan ganmol ei fedr i gyfleu
awyrgylch.
"Ac mae'i bum synnwyr yn finiog. Edmygais y dyddiadur hwn yn
fawr," meddai.
Yn sicr mae'r gyfrol yn brofiad gyda phob math o dameidiau difyr.
Trosedd mynd a beic i China
Datgelir ei bod yn drosedd mynd â beic i China.
Ond dyna’n union be wnaeth Llion Iwan a Dylan Griffiths, y ddau yn
gweithio i BBC Cymru. Er mai yn Tibet y bu’r ddau’n beicio, ond mae
Tibet yn rhan o China.
"Fe dynnon i’r beiciau’n ddarnau a’u rhoi mewn bagiau," meddai Llion.
"Doedd neb yn meddwl edrych yn ein bagiau. Peth arall oeddan ni fod
i wneud oedd cyflogi geid - plismyn oedd rheini a roedden nhw yno
i gadw llygad arnon ni.
"Ond bydden ni’n cychwyn yn gynnar iawn yn y bore cyn eu bod nhw o
gwmpas. Heblaw hynny roedd hi’n llawer iawn haws beicio yn y bore,
oherwydd byddai’r gwynt yn codi yn y prynhawniau. O edrych yn ôl roedd
o’n beth ychydig bach yn ffôl - ond fe gawson ni lot fawr o hwyl."
Fel beicio ar draeth!
Disgrifiodd y ffyrdd fel beicio ar draeth Dinas Dinlle - cerrig mân
a llwch.
"Doedd hynny ddim yn llawer iawn o hwyl." Eu ffordd o deithio oedd
cysgu allan ar fat ac mewn sach gysgu.
"Weithie pan fydden ni’n mynd drwy bentrefi, bydden ni’n aros yno
a chael ychydig bach o gysur. Ond ar y cyfan cysgu allan fydden ni."
Y gyfrol Seven Years In Tibet gan Heinrich Harrer, Almaenwr
yn sôn am ei brofiadau ar ffo yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd yr ysbrydoliaeth
i Llion a Dylan fynd ar eu taith, Yn ystod y nawdegau gwnaed ffilm
am y gyfrol hon ac fe’i hail-gyhoeddwyd.
Dair
blynedd yn ôl y bu’r ddau ar eu taith bump wythnos. Cadwodd Llion
ddyddiadur o’r daith a hwnnw anfonodd o i gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith
yn Llanelli.
Pwy wyr na fydd y gyfrol hon yn awr - fel un Heinrich Harrer - yn
ysbrydoliaeth i rywun arall rywdro fynd i Tibet mewn blynyddoedd i
ddod?
Holi'r
awdur - Llion Iwan
• Beth yw eich barn chwi am y llyfr hwn? Pa un o'r beirniaid
oedd yn iawn yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith?
Anfonwch atom i ddweud trwy glicio Yma
- a byddwn yn cyhoeddi eich sylwadau.
|
 |

|