Ffilmio yng Nghymru

Rhys Ifans fydd Mr Neis

13 Ionawr 2010

Pethau Neis iawn i'w disgwyl - Lowri Haf Cooke yn edrych ymlaen at weld y ffilmiau a saethwyd yng Nghymru ar gyfer 2010

Lluchiwch eich llopanau a diosgwch yr hen wn wisgo flêr na. Ydy, mae hi'n oer ond does na'r unlle cynhesach yr adeg yma o'r flwyddyn na'ch sinema leol.

Mae Avatar yn dal i ddenu'r tyrfaoedd yn eu miloedd ond os nad yw gwibdaith i blaned bellennig Pandora yn apelio beth am fentro'n nes at adref oherwydd eleni bydd Cymru i'w gweld yn amlach nag erioed ar y sgrîn fawr.

Y cenhadwr cyffuriau

Tua diwedd Chwefror, cawn gyfle i weld sut siâp fydd ar Rhys Ifans fel Howard Marks, y cenhadwr cyffuriau o Fynydd Cynffig yn y biopic Mr Nice.

Mae'r treiler trawiadol eisoes wedi derbyn dros ddeng mil ar hugain o ymweliadau ar YouTube, sy'n profi bod na gynulleidfa eiddgar i weld yr actor, a'r cymeriad eiconig, ar y sgrîn fawr.

Ac mae'n wych gweld lleoliadau yng Nghaerdydd ac Abertawe yn cael cynrychiolaeth yn y cynhyrchiad hwn. Y gobaith sydd gen i yw y bydd Ifans, a'r ffilm, yn creu gwell argraff na The Boat That Rocked y llynedd ac na fydd y nostalgia trip hwn yn troi ar y gynulleidfa fel wnaeth y twrci hwnnw.

Mae gen i bob ffydd yn y Cymro carismatig, a byddai'n ffantastig gweld Ifans yn cyflwyno perfformiad mor drawiadol â'i ddehongliad o Peter Cook yn Not Only But Always, enillodd gymaint o wobrau yn 2004.

Dryswch y duwiau

Fis yn ddiweddarach, Mawrth 26, bydd Clash of the Titans i'w gweld ym Mhrydain - blocbyster cynta'r flwyddyn, gyda'r Awstraliad Sam Worthington (Terminator Salvation, Avatar) Liam Neeson a Ralph Fiennes yn arwain cast anferthol mewn stori am frwydr fawr rhwng y duwiau Groegaidd.

I unrhyw un wnaeth wirioni ar Gladiator a 300, dyma'r ffilm i chi.

Ffilmiwyd golygfeydd yn Chwarel Dinorwig ger Llanberis, Ynys Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch, Sir Fôn sy'n rheswm ychwanegol i ni Gymry fynd i'w gweld.

Amser a ddengys a fydd Clash of the Titans yn derbyn bendith ynteu melltith y duwiau, ond ag ystyried mai sain epig y band roc Muse fydd yn gefndir cerddorol i'r cynhyrchiad, mae'n argoeli'n gynhyrchiad uchelgeisiol - os nad unrhyw beth arall!

Crowe a Cate ym Mhenfro

Ddechrau mis Mai, cawn weld ffrwyth llafur un o'r cynyrchiadau mawrion hynny gadwodd ein gwasg genedlaethol yn brysur yr haf diwethaf - Robin Hood gyda Russell Crowe a Cate Blanchett.

Bu dros fil o bobl yn disgwyl am ran 'extra' yn Robin Hood

Pwy a ŵyr os oedd sail i'r sïon i'r prif actor gael ei hebrwng yn ddyddiol i'r set mewn hofrennydd o Windsor ond mae yn wir mai taith mewn hofrennydd ar hyd arfordir Cymru a berswadiodd y cyfarwyddwr, Ridley Scott, i leoli rhan helaeth o'r ffilmio yn Sir Benfro, a hynny bron i ddeng mlynedd ar hugain ar ôl i olygfa o weithfeydd dur Port Talbot liw nos ysbrydoli ei weledigaeth o'r ddinas ddystopaidd yn Blade Runner.

Fel Clash Of the Titans, mae'r Robin Hood yma yn adwaith i ffilmiau cynharach ac yn gosod cefndir milwrol y cymeriad chwedlonol yn flaenllaw y tro hwn.

Y cwestiwn mawr, wrth gwrs, yw a fydd Matthew Macfadyen yn Sherriff of Nottingham mor gofiadwy ag Alan Rickman yn Robin Hood; Prince of Thieves?

Rhaid disgwyl tan Fai 10 - y dyddiad rhyddhau swyddogol, ar hyn o bryd.

Potter Penfro

Y ffilm arall i ddenu'r Papparazzi i'r Preseli (!) y llynedd oedd y ddiweddara yng nghyfres Harry Potter, Harry Potter and the Deathly Hallows, y caiff y rhan gyntaf o'r stori sylweddol hon ei rhyddhau fis Tachwedd.

Roedd hon yn shoot mwy na hyd yn oed Robin Hood mae'n debyg, ac oherwydd iddynt sefydlu eu hunain yn nhwyni tywod Freshwater West am gyhyd bu'n rhaid cael caniatâd arbennig i ffilmio ac adeiladu yno.

I'r rheiny ohonoch sy'n dilyn y gyfres hon, gwyliwch am fwthyn trawiadol a adeiladwyd o gregyn y traeth a hefyd Rhys Ifans fel cymeriad o'r enw Xenophilius Lovegood.

Ffilmiau eraill

Mae na lu o enghreifftiau o ffilmiau eraill a gynhyrchwyd yng Nghymru yn lled ddiweddar fydd i'w gweld ar y sgrin fawr eleni, gan gynnwys Ironclad, gyda Paul Giamatti a Brian Cox, y ffilm gyntaf i gael ei chynhyrchu yn stiwdios Dragon yn Llanharan ger Penybont ar Ogwr, a Round Ireland With Fridge, sy'n seiliedig ar lyfr y diddanwr Tony Hawks ac a ffilmiwyd yn Sir Benfro.

Ac nac anghofier cynyrchiadau llai amlwg, fel We Want Sex, am brotest gan ferched ffatri geir yn Dagenham ym 1968 a ffilmiwyd yn hen ffatri Hoover, Merthyr Tudfil gyda Rosamund Pike a Miranda Richardson, a gangster-movie o'r enw The Big I Am gydag un o ffefrynnau Tarantino, Michael Madsen - ffilm sy'n swnio'n drychinebus o wael yn ôl hanes arteithiol ei chyfnod ffilmio ger Caerdydd a Caldicot - ond pwy a ŵyr nes iddi gael ei rhyddhau Ebrill 8.

Yn y Gymraeg

O ran y Gymraeg, gobeithio wir y cawn weld Patagonia - cynhyrchiad hirddisgwyliedig Marc Evans, sy'n dilyn dwy daith drwy Gymru a Phatagonia, gyda Matthew Rhys a Nia Roberts ynghyd â'r gantores Duffy, ac y caiff Separado! , road-movie seicadelig a helfa deuluol hynod ddifyr Gruff Rhys, daith sylweddol o amgylch sinemâu lleol Cymru yn 2010.

Mae'r cynhyrchiad olaf hwn, gafodd bremier llwyddianus iawn yng ngŵyl Soundtrack 2009 - yn sicr yn haeddu cynulleidfa eang eleni, a dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy at brofi gweledigaeth ddiweddara un o gyfarwyddwr gore'r genedl, Marc Evans.

Dwi ddim yn rhagweld y bydd pob un o'r rhain yn haeddu pum seren ond rhaid cyfaddef fy mod, fel gwyliwr ac adolygydd yn ymfalchïo'n fawr o weld Cymru'n gefnlen i unrhyw ffilm ac yn llongyfarch gweithwyr diflino'r Asiantaeth Sgrin am lwyddo i berswadio cymaint o gynyrchiadau, bach a mawr, i wireddu eu gweledigaethau sinematig yng Nghymru.

Pob hwyl yn 2010.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.