Gwaith/Cartref - cyfres newydd ar S4C
top
15 Medi 2011
Adolygiad Joanna Davies o bennod gyntaf Gwaith/Cartref, drama gyfres newydd ar S4C, hydref 2011.
Yn ôl i'r ysgol
Gwelais bennod gyntaf cyfres ddrama newydd S4C ar gyfer yr hydref, Gwaith/Cartref, fydd yn cael ei darlledu o Fedi 18, 2011.
Pan glywais i ei bod wedi ei lleoli mewn Ysgol Uwchradd ac yn dilyn helyntion criw o athrawon, wnes i feddwl yn syth am gyfres boblogaidd Channel 4 yn ôl yn y 2000gau cynnar, Teachers.
Gwnaeth y gyfres honno jobyn go dda o ddangos treialon grŵp o athrawon ifanc cyn 'jwmpo'r siarc' wedi ymadawiad y prif actor, Andrew Lincoln ar ôl cwpwl o gyfresi.
Ta waeth, ar ôl gwylio'r bennod gyntaf o Gwaith/Cartref, des i'r casgliad fod yna debygrwydd yn sicr i'r ddwy gyfres, yn enwedig yn y portread o fywyd yr athrawon y tu allan i'r ysgol - wrth iddynt gymdeithasu a meddwi.
Mae cymeriad Huw Rhys sef Dan James, yr athro ifanc a 'cŵl' y mae'r plant yn dwli arno, hefyd yn debyg iawn i gymeriad Andrew Lincoln yn Teachers.
Ond mae Huw Rhys yn gwneud gwaith da iawn o'r rôl ac yn actor naturiol a hoffus.
I'r teulu
Ond fel y dywedodd prif awdur y gyfres, Roger Williams, (Caerdydd, Belonging, Pobol y Cwm), mae Gwaith/Cartref yn fwriadol mwy hygyrch i'r teulu oll na Teachers. Cytunaf gyda hyn ond dwi'n meddwl byddai'n addas i blant hŷn yn eu harddegau yn hytrach na phlant iau.
Ysgol ddychmygol sy'n y stori, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Taf yn y Brifddinas a chyda chast cryf yn cynnwys digon o wynebau cyfarwydd fel Catrin Fychan, Rhian Morgan, Richard Elis a Siw Hughes, mae yna dalentau ifanc a ffres yn cael rhan flaenllaw yn y gyfres hefyd fel Huw Rhys a Rhys ap Trefor.
Dyma beth da o ystyried bod S4C wedi cael ei chyhuddo'n ddiweddar o ddefnyddio'r 'un hen wynebau' yn ei rhaglenni.
Mae defnyddio actorion llai cyfarwydd hefyd yn ychwanegu at realaeth y gyfres ond mae'n handi cael cwpwl o 'hen stejars' yn dangos eu doniau.
Roeddwn yn falch o weld Richard Elis, (EastEnders, Nuts&Bolts), a rhan flaenllaw yn y ddrama fel yr athro anfodlon sydd eisiau dianc i swydd yn y Cyfryngau, gan fod gan yntau ddawn gomig gref
Cadw cownt!
Un feirniadaeth fach, roeddwn yn teimlo bod yna lawer o gymeriadau i ni ddod i'w hadnabod yn y bennod gyntaf ac o'r herwydd ychydig yn ddryslyd pwy oedd pwy o ran y gwragedd ifanc fel cymeriadau Beca a Grug er enghraifft.
A theimlais fod y gweryl rhwng y ddwy yma braidd yn contrived ar ddiwedd y bennod.
Mae'n well cael pedwar neu bump prif gymeriad dwi'n meddwl ar y cychwyn ac yna ehangu i ddatblygu'r is gymeriadau i osgoi dryswch a gormod o linynnau storïol.
Roeddwn yn ansicr hefyd o'r ymdriniaeth o'r fam ddi-Gymraeg 'bolshi' sy'n methu gweld drwg yn ei phlentyn cegog ac ymateb anfoesgar Emyr Tomos, (Lee Haven Jones), Pennaeth Adran y Gymraeg iddi.
Trwy gyfathrebu gyda'r Prifathro o'i blaen hi yn y Gymraeg am ei phlentyn anwadal, ef oedd yn edrych fel ffŵl rhagfarnllyd ac nid y hi.
Doeddwn i ddim yn siŵr os taw'r bwriad oedd beirniadu agwedd Emyr fel cymeriad (os hynny, da iawn!) neu ai'r fam oedd yn cael ei gwatwar am fethu deall Cymraeg...
Bywyd ac ysgol
Mae thema'r gyfres sy'n cael ei hadlewyrchu yn y teitl, 'Gwaith/Cartref', yn ffordd eitha clyfar o rannu'r ddrama rhwng bywyd ysgol a bywyd cartref yr athrawon.
Mae'n rhaid imi ddweud imi fwynhau y rhan gyntaf o'r bennod sef y bywyd ysgol yn fwy na'r bywyd cartref. Y rheswm am hyn, dwi'n meddwl, yw bod yna ddigonedd o ddrama yn digwydd yn arena'r ysgol, yn arbennig lle mae cymeriad Rhian Morgan, sy'n portreadu Pennaeth yr Adran Ddaearyddiaeth, Nerys Lloyd, yn y cwestiwn.
Wnâi ddim i sbwylio i chi, ond mae be sy'n digwydd iddi hi yn y bennod gyntaf yn mynd i roi sioc go iawn i'r gwyliwr ac yn argoeli'n dda am weddill y gyfres os yw'n dechrau gyda 'bang' fel hyn!
Soniodd Ed Thomas, y Cyfarwyddwr, na fyddai'r gyfres yn canolbwyntio'n ormodol ar 'issues' sebonllyd a diolch fyth am hynny ddywedai i!
Mae cyfresi fel Waterloo Road ac ati eisoes yn cyflawni hyn ac mae'n neis cael drama sy'n gwneud ei jobyn trwy gynnig straeon sy'n diddanu heb geisio bod yn 'worthy' a gor ddifrifol.
Mae yna gomedi ddigon yn y gyfres a'r 'usual suspects' megis cnewyllyn stori dyn priod sydd â dyheadau hoyw dirgel, yr athrawes 'stressed', y dyn ifanc gor uchelgeisiol ac ati yn ran o'r ddrama. Felly nid yw Gwaith/Cartref yn troedio tir newydd ond yn gwneud ymdrech go dda o gyflwyno nos Sul ddifyr o adloniant.
Joanna Davies


