Gŵyl Sŵn 2009

Rhodri ap Dyfrig o 'pictiwrs-com ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol 2009

27 Hydref 2009

  • Ar noson agoriadol Gŵyl Sŵn eleni dangoswyd rhaglen o ffilmie byrion Cymraeg gan gylchgrawn Tu Chwith a gwefan Pictwrs.Com. Dyma sylwadau Lowri Haf Cooke:

Y rheswm am y dangosiad oedd i gynnig rhagflas o ail DVD o ffilmiau byrion annibynnol fydd ar gael gyda rhifyn nesa Tu Chwith, a braf cael dweud iddi brofi'n noson lwyddiannus iawn, wrth i'r gynulleidfa fwynhau amrywiaeth ddifyr o ffilmie o safon uchel iawn.

Llond Bol o Jeli

Dechreuwyd y noson gyda chynhyrchiad byrraf y rhaglen - Llond Bol o Jeli, ffrwyth dychymyg disgyblion Uned Gyfeirio Brynffynnon yn y Felinheli gyda chymorth animeiddwyr fel Owen Stickler ac Aaron Evans a'r bardd Meirion Macintyre Huws.

Dyma un enghraifft o'r ffilmiau byrion sy'n cael eu cynhyrchu trwy brosiect cymunedol Galeri Caernarfon.

Mae'n ffilm gryno, drawiadol iawn, sy'n cyfuno geirie a delweddau difyr dros ben, wedi'u creu a'u hadrodd gan y plant, ac yn cynnig cyfuniad o wibdaith ryfeddol i rithfyd amryliw a rhybudd rhag gloddesta gormod ar felysfwyd wobli.

Fel y dwedodd Geraint Criddle o Pictwrs.Com yn dilyn y dangosiad o'r cynhyrchiad-cwta hynod greadigol, "Neis gweld plant yn gneud stwff mor swreal!"

Egin

Plant ychydig yn hŷn oedd yn gyfrifol am ail ffilm fer y noson, Egin - cydgynhyrchiad rhwng y sgwennwr Karl Luke, y gyfarwyddwraig Nerys Wyn Davies a disgyblion Ysgol Maes yr Yrfa, Sir Gaerfyrddin - sef sêr y ffilm, sy'n cyfosod poenau tyfu bachgen yn ei arddegau â phrosiect wyddoniaeth wahanol i'r arfer.

Creodd y cynhyrchiad o lai na deng munud argraff fawr mewn gŵyl ffilm ym Mhafiliwn Porthcawl y llynedd gan gipio nifer o wobrau.

A dwi'n synnu dim, gan fod y trysor hwn yn cynnig chwedl chwerw felys a pherfformiadau naturiolaidd gan gast o ddisgyblion disglair iawn.

O ddisgyblion ysgol i derfysgwyr diwylliannol Y Prosiect - trydedd ffilm y noson, a'r cynhyrchiad hiraf, oddeutu ugain munud o hyd.

Y dyn camera Rhys Edwards sy'n bennaf gyfrifol am y mad-cap mini-musical yma sy'n dilyn ymgais dyn ifanc o'r enw Dylan i hudo criw o Americanwyr i ecstrafagansa a hanner yng Nghastell Dolbadarn er mwyn cael stori i'w dweud wrth ei blant.

Cafodd y ffilm hon bremière yn Galeri rhyw flwyddyn yn ôl a da o beth ei gweld hi'n cael cynulleidfa eangach gan fod iddi stori bicaresg llawn gwrth arwyr boncyrs sy'n dychanu'r fersiwn o Gymru a werthir i dramorwyr.

Rhaid dweud fod Iago McGuire a Dewi Prysor yn mynd amdani go iawn fel y Don Quixote a Sancho Panza Cymraeg, ac er y byddai'n elwa o gael ei thynhau ryw fymryn mae'n gynhyrchiad llawn hwyl a gweledigaeth sy'n profi y gellid cynhyrchu ffilm fer hynod ddifyr ar gyllid isel iawn.

Parhawyd â'r thema gerddorol gyda dwy ffilm olaf gan Pete Telfer (Culture Colony/ Y Wladfa Newydd) yn cynrhychioli dau berfformiad gwahanol iawn gan ddau o arwyr y Sîn Roc Gymraeg.

Bob Delyn a'r Ebillion

Ffilm ddwetha'r noson oedd pwt o gig gan Bob Delyn a'r Ebillion yn perfformio yng ngŵyl Cerddoriaeth Ladin a Chymreig El Sueno ym Machynlleth eleni.

Llwyddwyd i gyfleu awyrgylch chwyslyd gig byw, ac ymateb lesmeiriol y canwr a'r gynulleidfa i wefr a chyfaredd y noson.

Llwch ar y Sgrin

Y film olaf ond un, fodd bynnag, aeth â'r wobr am gynhyrchiad cryno mwyaf trawiadol y noson, Llwch ar y Sgrin gan Pete Telfer (mewn cydweithrediad ag Ankst) sy'n cynnwys y recordiad olaf gan y band Datblygu - Cân y Mynach Modern.

Llun David R Edwards ar glawr ei gofiant a gyhoeddwyd gan Y Lolfa Hydref 2009

Cafodd hon hefyd ei dangosiad cyntaf y llynedd, ar adeg rhyddhau'r sengl honno mewn sesiwn arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.

Cofnodi mae sesiwn ola'r ddeuawd Pat Morgan a David R. Edwards yn stiwdio leol Fflach gan gynnwys y cyrraedd, y recordio a'r ymadael.

Daw'n amlwg yn fuan iawn mai dyma'r tro cyntaf iddynt gyd-recordio ers bron i bymtheng mlynedd yn dilyn cyfnod cythryblus ym mywyd yr athrylith o Aberteifi ac mae'r cynnwrf cyn y recordio a'r ymdeimlad o aduniad rhwng dau enaid hoff cytun yn amlwg o'r cychwyn cyntaf.

Cofnodir manylion bychain y stiwdio fechan, a phan ddaw'n amser i recordio'r gân gignoeth, gwneir hynny'n hollol ddi-ffwdan ond y cyfuniad o'r geirie plaen a'r piano atgofus yn ddirdynnol tu hwnt, ac wrth iddynt orffen a gadael, mae'r camera'n dewis aros yn y stiwdio yn gwrando'n fud ar adlais eu geiriau olaf.

Ymhlith y mân siarad a'r cyffro nerfus cychwynnol, dywed David y gallai fyw mewn stiwdio recordio ac mae'n amlwg o'r ffilm iddo gael diwrnod cathartig a dedwydd tu hwnt gyda'i hen fêts yn stiwdio Fflach y llynedd.

Rhaid dweud i'r ffilm rymus hon gydio ynof o'r eiliad gyntaf ac iddi aros gyda mi ymhell ar ôl i mi adael clwb y Toucan y noson honno, gan brofi'r wireb fod modd dweud mwy weithiau mewn ffilm fer nag mewn feature traddodiadol.

Mae hyn yn sicr yn wir wrth gymharu Llwch ar y Sgrin â'r rhaglen ddogfen awr o hyd a ddarlledwyd yn gynharach eleni ar S4C yn archwilio problemau iechyd meddwl David R Edwards.

Yn fy marn i, mae Llwch ar y Sgrin yn ffilm llawer mwy llwyddiannus; yn naturiol, mae hi'n gynilach gynhyrchiad, ond mae hi hefyd yn ffilm ddynol iawn llawer llai ymwthiol na'r astudiaeth ddiweddar ar gyfer y teledu.

Edrychaf ymlaen yn arw at brynu rhifyn nesaf Tu Chwith fis Chwefror 2010 pan gai'r cyfle i wylio'r rhain i gyd a nifer o ffilmiau byrion eraill.

  • Lansiwyd hunangofiant David R Edwards, Atgofion Hen Wanc mewn sesiwn arall yng nghlwb y Toucan yn ystod Gŵyl Sŵn. Cyhoeddir gan Y Lolfa. £6.95.

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.