![]()
![]()
- Y Sêr: James Purefoy, Kate Mara, Paul Giamatti, Brian Cox, Charles Dance, Aneurin Barnard, Jason Flemyng, Mackenzie Crook, Rhys Parry Jones, Steffan Rhodri.
- Cyfarwyddo: Jonathan English.
- Sgrifennu: Jonathan English ac Erick Kastel.
- Hyd: 121 munud
Gwewyr a gwaed o 'Valleywood'
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Cyfaddefiad i gychwyn; doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at weld Ironclad. A dweud y gwir, nid chwilfrydedd a'm denodd rai dyddiau ar ôl ei hagor ond dyletswydd i weld y ffilm gynta i gael ei chynhyrchu yn "Valleywood", neu Dragon International Studios yn Llanilid ger Penybont.
Nid nad ydw i'n ffan o gynyrchiadau canoloesol - ro'n i wrth fy modd gyda Robin Hood a Centurion y llynedd a dwi'n dal i grinjio wrth gofio fy obsesiwn llwyr â Robin Hood: Prince of Thieves yn fy arddegau cynnar - ond am ryw reswm, cefais fy argyhoeddi gan ragfarn ryfedd mai B-Movie rad gwerth ei hosgoi fyddai hon.
Gadewch i mi ddweud yn blwmp ac yn blaen felly bod Ironclad yn ffilm ffantastig yr ydw i'n ysu i'w gweld am yr eildro, diolch i ddewis da o actorion gwahanol, stori gyffrous, brwydro bwystfilaidd a rhamant rhwystredig.
Ac ar ben hyn oll, mae Cymru yn edrych yn wych ynddi.
Y stori
Dyw hi ddim yn glasur, o bell ffordd ac mae iddi ddechrau go sigledig, wrth geisio cyflwyno mewn ffordd ddealladwy gefndir arwyddo'r Magna Carta - y siarter sy'n cyfyngu ar rymoedd y brenin a sicrhau rhyddid i'r dyn cyffredin - cyn i'r Brenin John wneud tro pedol a thalu am fyddin o Ddenmarc i ddod i drechu'r gwrthryfelwyr oedd yn gyfrifol am ei llunio, dan arweiniad y Barwn Albany (Brian Cox).
Pan ddaw Albany i glywed fod y brenin am ei waed aiff ati - gyda bendith Archegob Caergaint (Charles Dance) - i gasglu dyrnaid o ryfelwyr ynghyd, gan gychwyn gyda'i sgweiar ifanc a dibrofiad, Guy (Aneurin Barnard) a Thomas Marshall (James Purefoy) - un o Farchogion y Deml gafodd ei greithio gan gyflafan y Croesgadau - a phuteiniwr o fri o'r enw Beckett (Jason Flemyng), cyn troi at sêr y sgrin fach - Gareth o The Office (Mackenzie Crook), Dave Coaches Gavin a Stacey (Steffan Rhodri) a Llew Pobol y Cwm (Rhys Parry Jones) - i feddianu Castell Rochester, a'i amddiffyn rhag y gelyn nes y daw byddin Ffrainc i'w hatgyfnerthu a threchu'r brenin milain unwaith am byth.
Dod o hyd i ferch dlos
Unwaith caiff y dryswch cyfansoddiadol ei egluro, rydym ni a-wê. Deuddeg dyn yn erbyn llu o Lychlynwyr. A diolch i bach o hapchwarae â'r ffeithiau hanesyddol cyflwynir merch dlos ar ffurf Isabel, gwraig ifanc y Barwn Cornhill (Derek Jacobi) yng Nghastell Rochester - i ddrysur'r dwyfol farchog Marshall ymhellach gan ychwanegu cryn dipyn o gynnwrf rhywiol i frwydro gwaedlyd maes y gad.
A sôn am waed. Rhaid canmol y tîm colur, prosthetigs ac effeithiau arbennig. Mae'n amlwg iddynt gael andros o hwyl ar greu rhai o'r delweddau mwyaf erchyll imi eu gweld ar y sgrîn fawr ers tro byd gan rwygo tafodau, diberfeddu, sleisio cyrff yn eu hanner a throi wynebau geirwon yn slwtsh pur - oll i danlinellu ffieidd-dra'r brenin yn erbyn ei bobol ei hun - heb sôn am y dulliau dyfeisgar ddefnyddia'r deuddeg dyn i drechu diawliaid Denmarc.
Perfformio trawiadol
Mae'r perfformiadau pawb yn drawiadol iawn ac yn ticio pob blwch gyda Paul Giamatti yn mynd amdani fel megalomaniac o deyrn, y trysorau cenedlaethol Derek jacobi, Charles Dance a Brian Cox yn hwyliog o hammy, Vladimir Kulich yn chwarae Tiberius fel cawr o elyn gwerth chweil a'r giang gadarn o wrthryfelwyr yn ennyn eiddigedd wrth iddynt fwynhau pob eiliad o'u hantur Boys Own.
Chwarae teg i Aneurin Barnard - y bachan o Benybont - yma'n chwarae rhan sylweddol fel un o'r arwyr terfynol.
Roedd yn ddewis perffaith fel y cyw filwr gyda'i gorff eiddil a'i lygaid llygoden yn magu hyder a gwrhydri dan oruchwyliaeth Marshall y marchog medrus.
A beth am James Purefoy, fel y mentor mud? Wel, rhowch hi fel hyn, o ystyried natur gwryw gyfeillgar y cynhyrchiad, chlywais i ddim un merch yn cwyno wrth wylio'r garwriaeth yn datblygu rhwng y cawr cyhyrog a Maid Mara.
Rhoi 'Google' ar waith
Os rhywbeth, roedd rhuthr fawr ar ddiwedd y ffilm i Gwglo'r seren golygus er mwyn darganfod pwy yn union yw e!
Ac, yn wir, mae'r actor Shakespearaidd wedi dilyn gyrfa amrywiol iawn hyd yma, gan roi blaenoriaeth i brosiectau difyr yn hytrach na chanolbwyntio ar 'ddod yn seren' - a chwarae teg, y mae ffilm fel Ironclad yn deillio o hynny.
Fel Michael Fassbender yn Centurion y llynedd, mae'n talu yn y pen draw i ddewis rhannau'n doeth, a does dim dwywaith gen i y gwelwn ni ragor gan yr hync o Wlad yr Haf.
A sôn am seren sy'n barod i ddringo i'r uchelfannau cafodd tirlun Cymru fodd i fyw yn y cynhyrchiad hwn gan fwynhau cyfleusterau trelar dipyn mwy na'r arfer ond mewn acen estron, eto fyth.
Mae'r ffaith mai ond $25m a wariwyd ar y ffilm yn rhyfeddol o ystyried safon y cynhyrchiad, sy'n adlewyrchu'n dda ar stiwdios Valleywood ac yn cymharu'n ffafriol iawn ag addasiad Ridley Scott o Robin Hood a ffilmiwyd yn rhannol ar draeth Freshwater West, a chostio dros gan miliwn o ddoleri yn fwy.
Cymru'n odidog
Yn wir, o gofio bod Ironclad wedi'i gosod ychydig flynyddoedd ar ôl i'r un Brenin John gael ei goroni yn Robin Hood Ridley Scott rhyfedd na fyddai'r hysbysebwyr wedi marchnata'r ffilm yn graffach a gwerthu Ironclad fel 'cyfaill gynhyrchiad' os nad yn fath o ddilyniant.
Ta waeth am strategaethau, roedd traeth Southerndown yn edrych yn fendigedig ar ddechrau'r ffilm, a bryniau Ogwr a Rhondda Cynon Taf yn gefnlen odidog i'r castell 'Seisnig'.
Ond siawns bod Cymru ei hun bellach yn barod am ei Close-Up. Beth amdani, Mr DeMille?



