La Casa di Dio

Golygfa o'r ffilm

Hanes rhyfeddol capel carcharorion rhyfel yng Ngheredigion

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Cyfarwyddo: Owain Llŷr

Sgwennu: Owain Llŷr

Hyd: 52 munud

Pedair seren

Mae'r ffilm ddogfen La Casa Di Dio yn cynnig portread tyner iawn o un o drysorau cuddiedig Cymru; eglwys fechan a sefydlwyd yng Ngwersyll Carcharorion Rhyfel - POW Camp 70 - ym mhentre Henllan, De Ceredigion, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ceir ôl ymchwil trylwyr gan y cyfarwyddwr lleol, Owain Llŷr, a chlywir hanesion sawl un a fu'n gysylltiedig â'r eglwys dros y blynyddoedd, gan gynnwys Cymry, Eidalwyr ac un Albanwr goleuedig o'r enw Bob Thomson.

Yn dal ar ei thraed

Yn wir, diolch i ofal yr un dyn dwad hwn, a fu farw'n lled diweddar, mae'r eglwys yn dal i sefyll fel cofnod o arhosiad dros fil o ddynion dwad eraill i'r ardal dros hanner canrif yn ôl.

Ond fel y datgelir gan nifer o gyfranwyr y cynhyrchiad, roedd y safle yn Henllan ymhell o gynrhychioli'r ddelwedd hunllefus arferol o wersyll POW yr Ail Ryfel Byd. Yn un peth, doedd y carcharorion rhyfel ddim fel pe byddent dan ormes y "gelyn" Prydeinig yno gan i'r rhan fwyaf o'r swyddogion a'r trigolion lleol estyn croeso i'r newydd ddyfodiaid ac fe ganiatawyd iddynt gynnal eu diwylliant bywiog eu hunain.

Sefydlwyd tîm pêl droed, côr, a cherddorfa ac, wrth gwrs, cawsant yr hawl i sefydlu eu haddoldy eu hunain yn un o'r cabanau prefab.

Yn ei ugeiniau

Ymhlith y 1,500 o garcharorion rhyfel Eidalaidd a gludwyd i Henllan o feysydd câd Gogledd Affrica, yr oedd milwr yn ei ugeiniau cynnar o'r enw Mario Ferlito, ac fel y carcharorion eraill, roedd disgwyl iddo gyfrannu llafur caled i'r diwydiant amaethyddol lleol.

Ond un diwrnod - ac yntau'n ddyn ifanc ystyfnig ac yn diodde o hiraeth am adre - gwrthododd ufuddhau i gyfarwyddiadau ei swyddog a chafodd ei ddedfrydu gan lys milwrol i wythnos o garchar o fewn y gwersyll.

Tra yno, dechreuodd ddarlunio ei weledigaeth ar gyfer yr eglwys fechan, a thros y tri mis nesa, aeth ati i lunio ffresco cywrain yn cynrhychioli'r Swper Olaf ar nenfwd grom y caban o blaster.

Diolch i gydweithrediad dyfeisgar carcharorion eraill llwyddwyd i ganfod deunyddiau amrywiol i liwio'r arlunwaith gan gynnwys moron, tybaco, a lliw o'r felin wlan leol, gan greu campwaith sydd yn dal i'w weld heddiw.

Fodd bynnag, fel y rhan fwyaf o'r carcharorion, dychwelyd i'r Eidal wnaeth Mario ddiwedd y rhyfel - ond diolch i'r caredigrwydd a ddangoswyd iddynt, penderfynodd ambell un ddychwelyd i Gymru i gychwyn ffermydd bychain a cheir cyfraniadau Cymraeg difyr gan ddau ddisgynydd yn ystod ail hanner y ffilm - Gino Vasami a Toni Sarracini.

Yr unig ferch

Cawn hefyd glywed profiad yr unig ferch i weithio yn y Gwersyll, Glenys Anthony (Jones, gynt), ond efallai mai'r cyfraniad mwyaf dirdynnol yn y ffilm o lai nag awr hon yw'r cyfweliad gyda'r arlunydd ei hun, sydd heddiw'n byw ger y ffin rhwng yr Eidal a'r Swisdir.

Mae'n amlwg bod yr eglwys a'r arlunwaith - sydd yn drysor cudd digon quirky yng ngolwg nifer o bobol Dyffryn Teifi - yn ymgorfforiad poenus o "ieuenctid coll" Mario Ferlito ac yn hynny o beth yn dwyn atgofion cymysg iawn yn ôl iddo.

Wedi dweud hynny, mae e'n amlwg yn rhyfeddu fod yr eglwys a'i waith yn dal i sefyll, sydd rywsut yn coffhau cyfnod o gaethiwed a ddiffiniwyd gan ymdriniaeth ddyngarol y ceidwaid Cymreig.

Adroddir y stori gan droslais Saesneg gan y cyfarwyddwr, Owain Llŷr, ei hun a gwneir defnydd helaeth hefyd o gyfraniadau'r hanesydd lleol, John Meirion Jones, a hynny yn y Gymraeg, sy'n fodd i osod yr hanes rhyfeddol yn ei gyd-destun.

Yn naturiol, yn yr Eidaleg y mae cyfraniadau emosiynol Mario Ferlito ac mae'r cyfuniad o'r tair iaith yn gwneud i'r gwyliwr deimlo'n hyderus y gall y stori leol hon weithio ar lefel ryngwladol.

Cyfoethogir yr hanes llafar gan haenau amrywiol o ddelweddau, gan gynnwys gwaith graffeg cyfoes yn darlunio'r gwersyll sydd bellach yn ystad ddiwydiannol a pharc carafanau ar dir preifat teulu'r diweddar Bob Thomson.

Mae deunydd archif diddorol hefyd wedi'i blethu â gwaith camera a ffotograffiaeth trawiadol y cyfarwyddwr ei hun.

Cerddoriaeth werin

Yn gyfeiliant i'r cyfan y mae cerddoriaeth adleisiol y gyfansoddwraig Daisy Wrightson, a ysbrydolwyd gan alawon Eidalaidd o'r cyfnod ac mae'n gwneud defnydd o'r math o offerynau fyddai gan gerddorfa'r gwersyll ar y pryd.

Er mai fersiwn 'heb ei chwblhau' o'r cynhyrchiad welais i, ynghyd â channoedd o bobol leol, pan ddangoswyd La Casa Di Dio fel rhan o Ŵyl Ffilm Theatr Mwldan 2009 derbyniodd y "rhagolwg" arbennig hwn ganmoliaeth wresog iawn ar ddiwedd pob un o'r pum dangosiad.

Estynnwyd croeso i'r gynulleidfa gyfrannu gwybodaeth bellach fyddai o gymorth wrth hyrwyddo hanes byw y stori anorffenedig hon ac mae na bosibilrwydd y bydd ambell elfen ychwanegol ynghlwm â'r dangosiadau terfynol mewn sinemâu ledled Cymru a thu hwnt yn ystod y flwyddyn.

Yn sicr, mae'r hanes lleol hwn yn cyffwrdd â themâu o bwys mawr, ac yn haeddu cynulleidfa eang.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.