Pen Talar

 Defi Lewis a Doug yn y ddrama - Samuel Davies a Daniel Leyshon

10 Medi 2010

Gyda ffilmiau Cymraeg wedi mynd yn bethau mor brin aeth i Lowri Haf Cooke i gael golwg ar y dewis arall - cyfres newydd ar S4C, Pen Talar.

Ro'n i'n llawn cyffro wrth groesawu cyfres newydd o'r ddrama gyfnod Americanaidd Mad Men yn ôl i BBC4 yr wythnos ddwetha ond roeddwn ar ben fy nigon rai dyddiau'n ddiweddarach pan brofais bennod gyntaf cyfres yr un mor epig ac epoc-ddiffiniol ar S4C, Pen Talar

.

Gosodwyd Mad Men mewn asiantaeth hysbysebu ar Madison Avenue droad y 1960au ac mae'n cyflwyno cyfres o gymeriadau sy'n byw eu bywydau bob dydd gyda daeargrynfeydd gwleidyddol a chymdeithasol yn gefnlen iddynt.

Fe'm lloriwyd gan bob munud o'r ddrama honno a rhaid dweud imi gael yr union yr un profiad rôl gwylio pennod gyntaf Pen Talar sy'n addo cyfres swmpus ag iddi sglein sylweddol.

Fy narbwyllo

Rhaid cyfadde, cyn ei gweld, imi deimlo y byddai hon yn enghraifft o raglen fyddai'n taclo themâu gorgyfarwydd yng nghwmni actorion gorgyfarwydd, ond cefais fy narbwyllo o'r eiliadau cyntaf fod hon yn ddigwyddiad o ddarllediad i'w fwynhau'n arw.

Cartre' bachgen o'r enw Defi Lewis (Sam Davies) yw Pen Talar, ym mhentre gwledig ffuglennol Rhydycaeau yn Sir Gaerfyrddin ddechrau'r Chwedegau.

Mae Defi yn fab i'r athro lleol John Lewis (Aneirin Hughes) a'i wraig Enid (Eiry Thomas) - merch fferm gefnog.

Mae ganddo chwaer fawr gariadus, Siân (Llinos McCann), ac mae e wrth ei fodd yn chwarae yn y coed gyda'r ffrind penna y mae ei fam braidd yn ddrwgdybus ohono, Doug (Daniel Leyshon), mab i'r glôwr Albert Green (Dafydd Hywel).

Yn gefnlen i'w giamocs bachgennaidd y mae argyfwng taflegrau Ciwba, darllediad darlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, a thwf Plaid Cymru yn lleol, ond yn ddeg mlwydd oed, mae'n well gan Defi anwybyddu'r cymylau duon uwchben a syllu'n freuddwydiol ar Lorraine (Lisa Marged) - merch perchennog y siop losin leol.

Fodd bynnag, erbyn i'r bennod gyntaf ddod i ben, mae Defi a Doug yn profi diwedd eu diniweidrwydd wrth dystio i drosedd ddychrynllyd, a hynny ar yr un diwrnod â saethu JFK.

Gorlawn o gymeriadau

Fel nifer o benodau cyntaf, roedd hon yn orlawn o gymeriadau a manylion, ac yn fuan iawn teimlais fy mod yn drysu'n lan rhwng enwau'r prif gymeriadau.

Ond buan iawn y dois i adnabod y ddau fachgen, diolch i berfformiadau syfrdanol gan yr actorion ifanc naturiol iawn, a sgript amlhaenog gan ddau o ddramodwyr amlyca Cymru, Siôn Eirian ac Ed Thomas, sydd yma'n plethu themâu dwys gyda hiwmor ysgafn yn llwyddiannus iawn.

Yn wir, erbyn diwedd y bennod gyntaf, llwyddodd pob cymeriad i ennill ei blwy, diolch i actio caboledig gan bawb, yn cynnwys Aneirin Hughes, Eiry Thomas a Rhodri Evan fel "Brwmstan" y Blaenor, ond yn arbennig efallai un wyneb oedd yn gwbl anghyfarwydd imi, Lisa Marged, roddodd berfformiad ysgytwol fel cymeriad annwyl ond trasig Lorraine.

Mae'n wir fod na na nifer o "deips" Cymreig yma - o'r athro ysbrydoledig, i'r Fam draddodiadol a'r glöwr gwerinol - ond yn wahanol i ambell gyfres gyfoes, mae nhw'n gymeriadau sydd yn gwbl driw i'w cyfnod.

Gellid dweud fod popeth am y bennod hon - o'r gerddoriaeth adleisiol, gan Cian Ciaran a Dafydd Ieuan, i'r cyfarwyddo celfyddydol gan Martyn Doust, gan gynnwys y gwisgoedd a chelfi o'r cyfnod, a'r teitlau trawiadol gan gwmni Bait - yn sgrechian safon, ac yn gwahodd y gwyliwr i feddwi ar y manylion.

Nid y gyntaf

Mae'n wir nad dyma'r gyfres gyntaf o'i bath ar y teledu - gadawodd Our Friends in The North argraff ddofn ar wylwyr canol y Nawdegau wrth ddilyn criw o ffrindiau o ogledd ddwyrain ddiwydiannol Lloegr o ganol y Chwedegau hyd at gyfnod gwawrio Llafur Newydd.

Anelodd drama wleidyddol Llafur Cariad Gareth Miles wneud 'run peth ar S4C ar droad y Mileniwm wrth grisialu'r profiad Cymreig rhwng 1979 a 1997.

Mae cyfresi o'r fath yn apelio'n aml at gynulleidfa dorfol am iddynt chwarae ar elfennau grymus fel "hiraeth" a'r synnwyr annelwig hwnnw o "berthyn".

Yn achos Pen Talar, estynnwyd y cyfnod dan sylw i gynnwys yr hanner canrif ddwetha ond mae'r gyfres yn addo llawer iawn mwy na gwers hanes hynod amserol.

Mae'r bennod gynta'n addo taith emosiynol, ddirdynnol iawn.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.