'Rhywbeth yn ei llygaid wrth sôn am Robeson'
Cafwyd awgrym o berthynas arbennig, glosiach na'r cyffredin, rhwng yr actores Gymraes, Rachel Thomas, a'r actor Americanaidd, Paul Robeson.
Daeth yr awgrym yn ystod sgwrs rhwng John Hefin - a fu'n cyfarwyddo Pobol y Cwm a nifer o ddramâu teledu Cymraeg pwysig eraill - a Nia Roberts ar BBC Radio Cymru ar achlysur cyhoeddi fersiwn DVD o'r ffilm The Proud Valley, Ionawr 2010 .
Yn y ffilm honno a wnaed yn 1940 yr oedd Rachel Thomas yn actio gyda'r Americanwr, Paul Robeson.
Ac awgrymodd John Hefin bod perthynas glosiach na'r cyffredin rhwng y ddau:
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Yn ei eiriau ef yr oedd gan Rachel Thomas "soft spot mawr" i Robeson.
"Mae'r berthynas rhyngddyn nhw yn ystod y ffilm, ar y sgrin . . .
"A phan fyddwn i'n siarad â hi am Paul Robeson fe fyddai rhyw olwg yn dod dros i llygaid hi a dwi'n amau - [nid] bod dim byd wedi digwydd yn yr ystyr fel yr ydym ni'n edrych heddi ar fywyd, ond bod da hi deimladau cryf iawn at y cawr ma," meddai.
Wrth sôn am ddoniau actio Rachel Thomas dywedodd John Hefin nad oedd neb tebyg iddi am actio rhan 'mam'.
"Yn ei chyfnod," meddai, "doedd dim un actores yn cynrychioli'r fam yn well na Rachel ac roedd hi o flaen ei hamser mewn ffordd."
Ychwanegodd, er i'r actores o'r Alltwen ymsefydlu yng Nghaerdydd byddai'n teithio'r byd i ffilmio.
Roedd hi . . . [yn] un o'r ychydig rai - fel mae Ioan Gruffudd nawr a Matthew Rhys - mae eu traed nhw ar ddaear Cymru ond yn gweithio dros y byd; wel, Rachel oedd un o'r rhai cyntaf i wneud hynna. Roedd hi'n aruthrol," meddai.
Ei rhan yn Proud Valley lle chwaraeai Robeson yr Americanwr du, David Goliath, yn dod i faes glo y de, oedd ei rhan gyntaf erioed mewn ffilm.
"Athrawes oedd hi cyn y gwnaeth hi ran Mrs Parry [yn Proud Valley] - ac roedd hi'n un o'r bobl wych yma," meddai John Hefin.
"Roedd hi wedi cael cefndir mewn radio gyda T Rowland Hughes; roedd hi'n hapus iawn ar y radio ac wedyn [yn ddiweddarach] daeth hi i'r teledu.
"A beth sy'n fy nhiclo i yn The Proud Valley mae yna olygfa rhyngddi hi a Dilys Davids yn chwarae'r bostfeistres ac maen nhw'n cega a'i gilydd yn ddiddiwedd . .
"Weyn mynd mlaen wedyn i Bobol y Cwm a Dilys Davies yn chwarae'r Metron yn y cartref hen bobl a Rachel yn chwarae Bela a'r ddwy yn cega yn ofnadw fel yr oedden nhw yn y ffilm."
Datgelodd John Hefin hefyd mai'r enw gwreiddiol ar Proud Valley oedd David Goliath sef enw cymeriad Paul Robeson.
Cuddio hiliaeth
"Gŵr du oedd yn gawr o ddyn ddim jyst o ran corff ond o ran enaid ac yn cael ei gam-drin. Ac yn sicr, dyna'r ffaith amdani, doedd cymdeithas y de ddim mor hael ag oedden nhw'n ymddangos yn y ffilm.
"Roedd yna hiliaeth yn bod yn y cymoedd yr adeg hynny ac yr oedd hwnna yn brif bwrpas y sgript wreiddiol - dangos pa mor erchyll oedd perchnogion y pyllau yma at y gweithwyr a hiliaeth. Dyna'r ddwy thema fawr wnaeth ddiflannu achos [eu] bod yn llawer rhy chwyldroadol," meddai John Hefin.
- Cliciwch uchod i wrando ar y sgwrs yn gyflawn rhwng John Hefin a Nia Roberts.
Delwedd wahanol
Yn y Pedwardegau y bwriad oedd y byddai The Proud Valley yn ffilm flaengar ei dadansoddiad cymdeithasol ond glastwreiddiwyd themâu radical y ffilm, fel y dywedodd John Hefin, gan golli cyfle mewn gwirionedd i roi darlun cywir o gymdeithas lofaol y cyfnod.
Y canlyniad fu, ffilm boblogaidd ryfeddol yn hyrwyddo'r ddelwedd o Gymru fel gwlad y gân,



