![]()
![]()
- Y Sêr: Aled Pugh a Rhys Ap Hywel.
- Cyfarwyddo: Rhys Powys.
- Sgwennu: Meic Povey.
- Hyd: 70 munud
Adolygiad Kate Crockett
Mae'r sianel deledu ddigidol BBC4 wedi arbenigo dros y blynyddoedd diwethaf mewn cynhyrchu dramâu sy'n portreadu cymeriadau o fyd y sgrin fach.
Yn eu plith dramâu am Hughie Green, Tony Hancock, Frankie Howard, Kenneth Williams a'r actorion a oedd yn serennu yn y gyfres Steptoe and Son.
Er mai drama lwyfan Saesneg, The Life of Ryan...and Ronnie, oedd gwreiddyn y ffilm newydd hon, Ryan a ronnie, gan Boom Films mae hi'n ffilm sydd yn llinach y rhaglenni teledu llwyddiannus hyn a bydd gan y sawl sydd wedi gwylio perlau BBC4 syniad o'r hyn sydd i'w ddisgwyl.
Perfformiad olaf
Mae'r ffilm wedi'i gosod ar ddiwrnod perfformiad byw olaf un y ddeuawd gomedi ac oni bai am y pum munud olaf, un lleoliad sydd.
Prin yw'r cymeriadau, gan mai perthynas Ryan a Ronnie yw craidd y cyfan. Shots tynn yn canolbwyntio ar wynebau'r ddau sydd yma, ac mae naws glawstroffobig i'r cyfan, sy'n adlewyrchu'r teimlad o gaethiwed sydd wrth wraidd eu partneriaeth.
Cyfrinachau
Mae gan y ddau gyfrinachau - Ronnie wedi cael cyngor gan ei feddyg i roi'r gorau iddi er mwyn ei iechyd a Ryan yn disgwyl asiant o'r Unol Daleithiau i'w gwylio'r noson honno. Wrth i'r cyfrinachau hyn gael eu datgelu, daw'n amlwg bod eu perthynas fregus ar fin chwalu.
Bydd canran helaeth o'r gynulleidfa am weld y ffilm hon oherwydd eu hoffter o Ryan a Ronnie. Mae'r cynhyrchiad yn gwneud cyfiawnder â chaneuon Ryan, sydd wedi'u trefnu yn gyfoethog ac yn gynnes gan ei fab, Arwyn Davies.
Fodd bynnag, mae gen i amheuon ynglŷn â'r penderfyniad i gael Arwyn Davies ei hun i ganu rhan Ryan. Er tebyced lleisiau'r ddau, mae'r ffaith fod Aled Pugh yn meimio rhan Ryan yn ein pellhau oddi wrth ei berfformiad rywsut.
Rhywbeth yn eisiau
Ni allwn chwaith ond teimlo bod rhywbeth yn eisiau wrth i ni wylio Aled Pugh a Rhys ap Hywel yn cyflwyno act Ryan a Ronnie ar y llwyfan hefyd. Er bod perfformiadau'r ddau i'w canmol, ni allwn anghofio mai ail gread oedd hwn ac roedd rhyw sbarc ar goll.
Mae'r caneuon yn swnio cystal ag erioed, ydyn, ond nid oedd yr hyn a welwn yn y ffilm yn llwyddo i egluro'n llawn pam bod y ddeuawd yma mor annwyl gan gynifer o Gymry, bron i ddeugain mlynedd ers iddyn nhw fod ar eu hanterth.
Er bod y gynulleidfa i'w gweld yn ystod y rhannau hyn, nid oedd eu hymateb i'r cyfan yn ymddangos yn naturiol. Yn aml, swniai eu chwerthin fel chwerthin ar dâp mewn comedi sefyllfa eilradd.
Fodd bynnag, mae rhinweddau'r ffilm yn goresgyn ei brychau.
Mae'r ddeialog yn gynnil ac yn bwrpasol, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan Meic Povey.
Priodas anhapus yw'r un rhwng "Mrs Defis" a "Mrs Wilias", fel mae'r ddau'n galw ei gilydd, ond erbyn y diwedd, cawn wybod mai yn y briodas roedd y ddau ar eu gorau .
Yn ddirdynnol
Mae'r olygfa gronolegol olaf o Ronnie yn ddirdynnol. Nid ar y llwyfan mae'n perfformio ond wrth eistedd ar gasgen yn seler ei dafarn, ac mae'n anodd peidio meddwl am y diweddglo trist i'w fywyd.
Gellid dadlau ei bod yn ystrydeb bellach i sôn am y trasig ym mywydau pob comig, ond dyna sydd wrth wraidd y ffilm hon, ac mae'r elfen honno'n arbennig o effeithiol.
Braf o beth yw gweld bod y ffilm hon yn cael ei dangos mewn sinemâu ledled Cymru. Gobeithio y caiff gynulleidfa dda, a gallwn ddisgwyl y bydd yn cynyddu'r galw am weld perfformiadau teledu go iawn y ddeuawd arbennig hon unwaith yn rhagor.
Mae cenhedlaeth gyfan yng Nghymru nawr na welodd Ryan a Ronnie ar y sgrin fach erioed - byddai'n braf meddwl bod lle yn yr amserlen yn rhywle i ni fwynhau blas o'u goreuon unwaith eto.



