Crynodeb
Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi marw yn 78 oed
Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn 1974, ac yntau ond yn 27 oed - yr ieuengaf o'r 635 o aelodau
Bydd y baneri yn cael eu gostwng y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Gwener, mewn teyrnged - ef oedd llywydd cyntaf y sefydliad a bu'n aelod tan 2021
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod "colli Dafydd yn ergyd drom i wleidyddiaeth Cymru", tra bod ei gyfaill, Dafydd Wigley wedi sôn am ei "sioc" o glywed y newyddion
Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan hefyd wedi rhoi teyrnged i "gawr yng ngwleidyddiaeth Cymru... a ffrind annwyl"
Yn 2021, siaradodd Elis-Thomas yn agored gyda Cymru Fyw am genedlaetholdeb, ei berthynas gyda Phlaid Cymru a delio gyda beirniadaeth