Clybiau Cymru wedi bod yn prynu a gwerthu chwaraewyr ond wedi gwneud digon?

Mae'r cyfnod trosglwyddo ar ben i Wrecsam, Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfnod trosglwyddo ar ben i'r clybiau sy'n chwarae yn y Gynghrair Bêl-droed yn Lloegr.
Mae Wrecsam, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd i gyd wedi bod yn brysur yn prynu a gwerthu chwaraewyr.
Ond ydy'r pedwar clwb wedi gwneud digon i gael tymhorau llwyddiannus?
Wrecsam

Mae Joe Worrall yn un o saith chwaraewr mae Wrecsam wedi eu harwyddo
Ar ôl dod mor agos at le yng ngemau ail gyfle y Bencampwriaeth y tymor diwethaf mae Wrecsam wedi cryfhau'r garfan yn sylweddol dros yr haf wrth iddyn nhw dargedu dyrchafiad.
Mae'r Dreigiau wedi arwyddo'r golwr Anthony Patterson, yr amddiffynnwr canol Joe Worrall, yr ôl-asgellwyr Danny Imray, Issa Kabore a Jacques Ekomié a'r chwaraewyr canol cae Ben Whiteman a Callum O'Hare.
Mi fydd 'na fwy o ddisgwyliadau arnyn nhw y tymor yma, a mi fydd 'na fwy o bwysau hefyd ar y rheolwr Phil Parkinson.
Mae 'na adroddiadau eu bod nhw â diddordeb arwyddo cyn-ymosodwr Lloegr Jamie Vardy - a gan ei fod heb glwb ar y funud mae'n bosibl iddo ymuno â chlwb tu allan i'r cyfnod trosglwyddo.
Fe sgoriodd saith gôl i Cremonese yn Serie A y tymor diwethaf, ac er ei fod yn 39 oed mae dal yn perfformio ar y lefel uchaf.
Abertawe

Mae Joseph Opoku yn barod wedi sgorio dwy gôl ers ymuno ag Abertawe
Mae Abertawe wedi arwyddo'n effeithiol iawn dros yr wythnosau diwethaf, a hyd yn hyn mae hynny'n talu ar ei ganfed gan eu bod nhw ar frig y Bencampwriaeth.
Mae ganddyn nhw 10 chwaraewr newydd - yn eu plith yr asgellwyr Joseph Opoku, Elijah Just a Moussa Yeo, Stephen Welsh yn yr amddiffyn, Stephen Eustáquio yng nghanol y cae a Ross Stewart yn y llinell flaen.
Ond o bosibl mae'r chwaraewr mwyaf cyffrous maen nhw wedi ei arwyddo ydy Jeremy Monga ar fenthyg o Manchester City. Fe greodd dipyn o argraff i Gaerlŷr yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf - a dyma pam fod City wedi talu dros £10m amdano.
Rhywbeth arall sy'n newyddion da i'r Elyrch ydy eu bod nhw wedi llwyddo i ddal eu gafael ar Zan Vipotnik. Ar ôl i Zipotnik orffen fel prif sgoriwr y Bencampwriaeth y tymor diwethaf fe wrthodon nhw gynnig gan Hull City amdano.
A gyda Zipotnik, Adam Idah a Ross Stewart fel dewisiadau yn y llinell flaen 'sa chi'n disgwyl i Abertawe sgorio digon o goliau i fod yn gwthio am le yn y gemau ail gyfle.
Caerdydd

Fe ymunodd Jack Moylan â Chaerdydd o Lincoln City
Be am fod yn gwbl onest - mi oedd yn gyfnod trosglwyddo siomedig iawn i Gaerdydd.
Dim ond pedwar chwaraewr maen nhw wedi eu harwyddo, a mi oedd dau o'r rhai hynny yn rhan o'r garfan y tymor diwethaf. Mae'r golwr Nathan Trott wedi ymuno'n barhaol o FC Copenhagen ar ôl cyfnod llwyddiannus ar fenthyg, tra fod y cefnwr chwith Calum Scanlon wedi ailymuno o Lerpwl ar fenthyg.
Fel arall maen nhw wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae Jack Moylan o Lincoln City a'r amddiffynnwr canol Krystian Bielik.
Mae 'na ddigon o ddyfnder yn y llinell gefn - pan fydd pawb yn holliach mi fydd gan Brian Barry-Murphy bum amddiffynnwr canol.
Ond mae 'na brinder opsiynau ymhellach i fyny'r cae yn enwedig ar yr esgyll ac yn y llinell flaen.
Be sy'n digwydd os yw Yousef Salech yn dioddef anaf arall y tymor yma? Callum Robinson ydi'r unig opsiwn arall yn y llinell flaen - chwaraewr sydd wedi colli ychydig o gyflymder dros y tymhorau diwethaf.
Ar sail y garfan sydd ganddyn nhw mae'n anodd gweld Yr Adar Gleision yn gorffen yn uwch na chanol y tabl.
Casnewydd

Mae Shaquille Gwengwe yn barod wedi sgorio pedair gôl y tymor yma
Fel pob clwb yn yr Ail Adran mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai prysur dros ben i Gasnewydd.
Ar ôl llwyddo i aros yn y Gynghrair Bêl-droed ar y diwrnod olaf y tymor diwethaf, mi oedd hi'n amlwg fod angen gwneud rhywbeth eithaf sylweddol i'r garfan.
Mae diffyg goliau wedi bod yn broblem fawr i'r Alltudion dros y tymhorau diwethaf, ac er mwyn ceisio datrys hynny mae 'na sawl ymosodwr wedi ymuno.
Yr enw mwyaf cyffrous ydi Kion Etete ar fenthyg o Gaerdydd. Fe dalodd Yr Adar Gleision tua £5m amdano o Tottenham Hotspur yn 2022.
Am wahanol resymau mae ei gyfnod yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi bod yn siomedig, ond os y bydd Hayden Mullins yn gallu cael y gorau allan ohono y tymor yma mi fydd yn gaffaeliad mawr.
Un sy'n barod wedi creu argraff ydi Shaquille Gwengwe - 46 gôl i Poole Town yn y seithfed haen ym mhyramid pêl-droed Lloegr y tymor diwethaf, a mae o'n barod wedi sgorio pedair gôl mewn pedair gêm gynghrair i Gasnewydd.
Os y bydd Etete a Gwengwe yn tanio y tymor yma dwi'n siŵr y bydd Casnewydd yn iawn.