Y chwiorydd Metcalfe i ddechrau gêm brawf gyda'i gilydd am y tro cyntaf

Fe chwaraeodd y chwiorydd gyda'i gilydd i Gymru yn erbyn Canada yng Nghwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y chwiorydd, Branwen a Nel Metcalfe, yn dechrau gêm brawf gyda'i gilydd am y tro cyntaf pan fydd Cymru'n wynebu Japan ddydd Sadwrn.
Bydd Branwen, 20, yn dechrau yn yr ail reng am y chweched gêm brawf yn olynol tra bod Nel, 21, yn dychwelyd i chwarae ar yr asgell ar ôl gwella o anaf.
Fe chwaraeodd y chwiorydd o ardal Nant Conwy gyda'i gilydd yn y crys coch am y tro cyntaf pan ddaeth Branwen oddi ar y fainc yn erbyn Canada yng Nghwpan y Byd 2025.
Maen nhw eisoes wedi dechrau gêm gyfeillgar gyda'i gilydd - yn erbyn y Barbariaid - ond dyma fydd y tro cyntaf mewn gêm gystadleuol.
Y chwiorydd o Ysbyty Ifan fydd yn wynebu Lloegr gyda'i gilydd
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2025
Y chwiorydd mewn coch: Dathlu dwbl yn Nant Conwy
- Cyhoeddwyd14 Awst 2025
Bod yn rhan o garfan Cymru i Gwpan y Byd yn 'sioc' i un o ddwy chwaer
- Cyhoeddwyd12 Awst 2025
Mae prif hyfforddwr Cymru, Sean Lynn wedi gwneud tri newid i'r tîm a gollodd yn erbyn yr Unol Daliaethau ym mis Medi.
Yn ogystal â chynnwys Nel Metcalfe ar yr asgell, mae Seren Lockwood yn dychwelyd i safle'r mewnwr tra bod Jorjfa Aiono wedi ei dewis yn yr ail reng.
Fe fydd y blaenasgellwr Alex Callender yn ennill ei 50fed cap yn erbyn Japan yn y WXV yn Tokyo fore Sadwrn.
Mae Callender wedi ei henwi yn gyd-gapten gyda Kate Williams, tra bod Carys Cox yn symud i safle'r canolwr a Keira Bevan yn dechrau fel maswr.
Tîm Cymru i wynebu Japan
Neumann; N Metcalfe, Cox, Bell, A Williams; Bevan, Lockwood; M Davies, K Jones, Tuipulotu, B Metcalfe, Aiono, K Williams (cyd-gapten), Callender (cyd-gapten), King.
Eilyddion: Reardon, Pyrs, E Jones, Crabb, G Evans, B Lewis, George, Keight.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.