'Fi'n talu'n ôl i bobl Caernarfon am dderbyn outsider fel fi'

Dylan Glyn o flaen ei siopFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Glyn o flaen ei siop yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae gŵr o dde Cymru wedi gwneud Caernarfon yn rhan ganolog o'i fusnes er mwyn diolch i'r Cofis am y croeso.

Wyth mlynedd yn ôl fe symudodd Dylan Glyn o bentref Gorslas, Cwm Gwendraeth, i'r gogledd er mwyn astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Ar ôl graddio fe arhosodd yn yr ardal gan agor busnes gwerthu dillad vintage i ddynion a gwneud hunaniaeth Gymraeg y dref yn rhan amlwg o'r siop.

Mae Caernarfon i'w weld yn nifer o luniau'r dillad sydd ar ei gyfryngau cymdeithasol. Mae diwylliant poblogaidd y dref hefyd yn cael ei ddathlu yn ei siop yn ogystal â'r hyn sy'n ganolog i Gaernarfon, yr iaith.

Dillad yn cael eu modelu yng NghaernarfonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caernarfon yn amlwg yn rhai o'r lluniau sydd ar gyfryngau cymdeithasol Cymro Vintage

"Sa'i 'di gweld siop fel hyn trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r Gymraeg yn bwysig iawn i hunaniaeth Caernarfon efo rhan fwyaf o'r trigolion yn siarad e - iaith y stryd yw Cymraeg," meddai Dylan.

"So roedd hwnna yn rhan bwysig. O ran y siop fi'n teimlo fel taw Caernarfon sydd wedi rhoi'r cyfle i mi i agor y siop a fi'n talu rhywbeth yn ôl i drigolion Caernarfon - ac am gymryd outsider fel fi i mewn hefyd.

"Mae Caernarfon yn bwysig iawn i hunaniaeth y siop ac mae stamp lleol ar y paintings sydd ar y walie a'r posters a phethe sy'n digwydd yma.

"Dwi'm eisiau bobl teimlo fel bod fi jest wedi dod fyny o dde Cymru neu'r gorllewin - fi'n ystyriol o'r hanes lleol a'r pop culture lleol hefyd."

Dylan Glyn yn ei siopFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Glyn yn trafod ffasiwn yn rhaglen gyntaf cyfres newydd Y Sîn ar S4C

Ond er mai dillad o'r 80au, y 90au a dechrau'r 00au sy'n mynd â'i ddiléit - a bellach yn dod â chyflog iddo - mae Dylan yn cyfaddef nad oedd agor siop yn rhan o'i gynlluniau o gwbl pan oedd o'n iau.

Chwarae rygbi oedd ei brif ddiddordeb a thrwy hynny dechreuodd ymddiddori mewn crysau pêl-droed a rygbi. Roedd yn gwirioni pan oedd y Scarlets yn rhyddhau cit newydd, meddai, ond heblaw am hynny doedd dim llawer o ddiddordeb ganddo mewn dillad.

"Fi fase'r person diwetha' 'sa chi'n meddwl fyddai'n mynd i mewn i'r diwydiant ffasiwn," meddai.

Fe ddechreuodd ei ddiddordeb ar ôl mynd i siop ddillad retro yn Abertawe rai blynyddoedd yn ôl. Yn ei bedwaredd flwyddyn yn y coleg fe ddechreuodd fusnes gwerthu dillad vintage, gan gynnwys crysau chwaraeon, siacedi, crysau a siwmperi.

Roedd yn gwneud y cyfan fel hobi a ffordd o wneud ychydig o bres poced ond fe wnaeth llwyddiant siop 'pop-yp' yn Nhafarn y Glôb, Bangor Uchaf, ei synnu.

Felly pan ddaeth adeilad yn wag ar Stryd y Plas yng Nghaernarfon fe fachodd ar y cyfle i symud ei fusnes i leoliad parhaol - a tydi o heb ei siomi.

Siop Vintage Cymro a Dylan yn y siopFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe sefydlodd Dylan ei fusnes yn 2022 ac agor ei siop yng Nghaernarfon yn 2024

Mae'n dweud ei fod yn elwa o boblogrwydd prynu dillad ail-law, wrth i bobl symud i ffwrdd o 'ffasiwn cyflym' am resymau amgylcheddol ac oherwydd pryderon am hawliau'r gweithwyr sy'n gwneud rhai o'r dillad.

Mae'n credu hefyd bod ansawdd dillad gafodd eu gwneud cyn cyfnod economaidd llwm y ddau ddegawd diwethaf yn well gan nad oedd cwmnïau yn ceisio arbed arian ar ddefnyddiau.

A gyda chyn lleied o siopau tebyg yn yr ardal mae wedi cael cefnogaeth gan bobl leol a thwristiaid – ac mae o hefyd wedi dod i ddeall y math o ddillad sy'n apelio.

Mae crysau polo a chrysau chwys gan frandiau oedd yn boblogaidd yn yr 1990au yn gwerthu'n dda, yn ogystal â chrysau chwaraeon.

Meddai: "Mae tipyn o ogleddwyr definitely yn big fans o bêl-droed so mae'n eitha' cŵl gallu cael casgliad o hen grysau pêl-droed o'r 90au ar 80au yma.

"Dwi'n credu mae rhai'n dod mewn i jest edrych arnyn nhw!

"Ond mae crysau rygbi yn gwneud yn rili dda hefyd a ni wedi sylwi'r haf yma maen nhw wedi gwneud yn well na rhai football, sy'n grêt 'cos gallai mwydro pobl am rygbi!"

Gallwch wylio Dylan yn trafod ffasiwn ar gyfres newydd Y Sîn ar Clic S4C, dolen allanol neu BBC iPlayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.