Reform UK yn 'hapus i edrych ar y datrysiad cywir' i blismona yng Nghymru

- Cyhoeddwyd
Mae dirprwy arweinydd Reform UK wedi dweud y byddai ei blaid yn "hapus i edrych ar y datrysiad cywir" i blismona yng Nghymru.
Ond yn ôl Richard Tice "nid datganoli grym yw'r prif fater" wrth wella plismona, ond yr "arweinyddiaeth a synnwyr cyffredin".
Daw ei sylwadau wedi i Brif Weinidog y DU, Andy Burnham, ddweud y byddai'n "agored i sgwrs" am ddatganoli'r grymoedd dros blismona i Gymru.
Mae arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, wedi gwrthwynebu'r syniad o ddatganoli'r grym i Gymru.
Burnham yn 'agored i'r sgwrs' am ddatganoli plismona i Gymru
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Rhun ap Iorwerth yn annog Burnham i 'weithredu' ar fwy o ddatganoli
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
AS Reform yn dweud iddi gael ei beirniadu am fynd i'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mewn cyfweliad â BBC Cymru ar drothwy cynhadledd Reform UK, dywedodd Richard Tice fod ei blaid yn "hapus i edrych ar y datrysiad cywir, ac mewn gwirionedd nid datganoli grym yw'r prif fater - y prif fater yw arweinyddiaeth a synnwyr cyffredin i gadw'r strydoedd yn ddiogel".
Mae Reform yng Nghymru wedi gwrthwynebu'r syniad o ddatganoli rhagor o rymoedd dros blismona i Gymru, gyda'u harweinydd Dan Thomas yn dweud ym mis Awst bod "record Plaid Cymru ar ddatganoli, mewn cydweithrediad â Llafur dros y 27 mlynedd diwethaf, yn un o fethiant ac anrhefn..."
"Gallwch chi ddychmygu beth fyddai Plaid yn gwneud i blismona yma yng Nghymru?" meddai.
Mae Richard Tice hefyd wedi disgrifio esgyniad ei blaid yng Nghymru i rôl yr wrthblaid swyddogol yn y Senedd fel proses o esblygiad, gan gyfeirio ato fel "work in progress".
Ond mynnodd fod ei blaid yn gwneud "gwahaniaeth go iawn" yn y Senedd ac yn herio'r drefn yno trwy gynnig "trafodaeth go iawn" yng Nghymru, gan ganmol arweinyddiaeth Dan Thomas dros ei blaid ym Mae Caerdydd.
"Mae'n rhan iach o'r holl broses, a dwi'n meddwl bod yna rai agweddau o gwmpas mewnfudo a sero net lle mae pobl Cymru eisiau gweld trafodaeth ac arbedion arian," ychwanegodd.
Enillodd Reform 34 o'r 96 sedd yn y Senedd yn etholiad fis Mai, gan ddod yn brif wrthblaid ym Mae Caerdydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.