Dim bwriad gan Jeremy Miles i ddychwelyd i fyd gwleidyddiaeth

Jeremy Miles yn 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pan ofynnwyd i Mr Miles os y byddai'n mynd yn ôl i wleidydda un dydd, ateb Jeremy Miles oedd: "Na"

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-Weinidog Iechyd Cymru, Jeremy Miles, wedi dweud nad oes bwriad ganddo fynd yn ôl i fyd gwleidyddiaeth.

Cyn etholiad y Senedd yn 2026, fe gyhoeddodd y cyn-aelod Llafur na fyddai'n sefyll fel ymgeisydd.

Mae bellach yn brif weithredwr ar y Gronfa Gwaddol Ieuenctid (YEF).

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio, dywedodd Mr Miles fod "newid byd wastad yn gallu bod yn rhywbeth sydd yn peri meddwl", ond bod "ceisio sicrhau y cychwyn gorau mewn bywyd i bobl ifanc wastad wedi bod yn gymhelliad mawr".

Vaughan Gething a Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Miles yn y ras i olynu Mark Drakeford yn 2024 fel arweinydd Llafur Cymru ond Vaughan Gething a gafodd ei ethol

Ym mis Medi 2025 fe gyhoeddodd Mr Miles - oedd yn Weinidog Iechyd o fewn Llywodraeth Cymru ar y pryd - na fyddai'n sefyll yn yr etholiad ym mis Mai 2026.

Dywedodd ei fod yn "chwilio am her newydd a gwahanol... un sy'n caniatáu i mi gael cydbwysedd gwell rhwng gwaith a'r rhai yn fy mywyd rwy'n eu caru".

Yn ogystal â'i swydd fel Gweinidog Iechyd bu hefyd yn Weinidog yr Economi, yn Weinidog Addysg a'r Gymraeg ac roedd yn y ras yn erbyn Vaughan Gething i olynu Mark Drakeford yn 2024.

Ers Gorffennaf 2026 mae wedi bod yn brif weithredwr y Gronfa Gwaddol Ieuenctid - corff sydd wedi ei ffurfio ar y cyd rhwng elusen Impetus a'r Swyddfa Gartref.

Y nod yw ymchwilio a chynnal rhaglenni er mwyn lleihau lefelau trais ymysg pobl ifanc.

"Pan r'ydych chi'n gorffen bod yn weinidog mae'n anodd meddwl beth allwch chi wneud nesaf.

"Roedd y cyfle i fod yn rhan o gorff gyda chenhadaeth mor bwysig â'r Gronfa Gwaddol Ieuenctid yn demtasiwn i fi.

"Swyddogaeth y gronfa yw datblygu'r dystiolaeth i weithio allan beth sydd yn wirioneddol yn helpu i atal trais ac wedyn sicrhau bod y wybodaeth honno nid just yn aros mewn adroddiadau yn casglu dwst ar silffoedd, ond bod y wybodaeth honno yn cyrraedd y bobl sy'n gallu defnyddio e' ar gyfer mynd i'r afael gyda thrais ymysg pobl ifanc, pobl sy'n gwneud penderfyniadau polisi, ysgolion, heddlu, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymdeithasol."

'Dod â thrais i ben'

Dri mis wedi'r etholiad mae Jeremy Miles bellach yn canolbwyntio ar ei swydd newydd sy'n canolbwyntio ar heriau cymdeithasol ymysg pobl ifanc.

"Dau o'r pethau rydw i'n credu sydd yn ddatblygiadau sydd yn gynyddol yn rhywbeth ry' ni'n poeni amdano fe yw'r twf o ran y bobl ifanc sy'n gweld trais ar-lein.

"A ni'n gwybod hefyd os ydy pobl yn gweld trais ar-lein, mae hynny'n gallu golygu bod nhw'n fwy tebygol o ymwneud gyda thrais.

"Ond hefyd aflonyddu rhywiol a thrais o fewn perthnasau - ni'n gweld cynnydd yn y rhifau sydd yn adrodd hynny hefyd. Felly mae 'na ddatblygiadau sydd yn peri gofid.

"Ond mae wir yn bwysig i ni gadw mewn golwg bod trais mewn rhai meysydd yn dod lawr ac mae hynny wrth gwrs yn beth positif.

"Dyna sydd wrth wraidd a phwrpas y gronfa - hynny yw bod ni'n gallu dod â thrais i ben."

Pan ofynnwyd i Mr Miles os y byddai'n mynd yn ôl i wleidydda un dydd, ei ateb yn syml oedd: "Na".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig