Colledion Undeb Rygbi Cymru wedi cynyddu i £18m

- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi bod eu colledion ariannol yn £18m yn y flwyddyn ariannol hyd at Fehefin 2026 - mae'r golled yn £10.8m yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.
Bum mis yn ôl fe awgrymodd URC bod eu sefyllfa ariannol yn "lled dda" ond ddydd Iau dywedodd y pennaeth ariannol Gavin Marshall bod y ffigyrau yn siomedig.
Roedd trosiant yr Undeb wedi codi o £10m i £116.2m ond er hynny maen nhw'n dweud bod yna golledion yn sgil costau tanwydd a staffio uwch, gostyngiad yng ngwerthiant tocynnau a'r hyn y mae cefnogwyr yn ei wario.
Mae'r Undeb yn dweud eu bod eisoes yn rhagweld colledion tebyg y flwyddyn nesaf ac yn dweud bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos nad yw'n bosib parhau â phedwar tîm proffesiynol.
"Dyw hi ddim yn bosib cario 'mlaen fel hyn," meddai Marshall.
"Dyw'r ffigyrau ddim lle ni eisiau iddyn nhw fod ond mae wedi bod yn flwyddyn heriol.
"Fel tîm gweithredol, rydym yn atebol am y colledion hyn; felly, mae'n rhaid i ni edrych ar ein perfformiad a ble gallwn wneud yn well."

Mae URC yn dweud bod y colledion yn dangos nad oes modd parhau â phedwar tîm proffesiynol
"Fe wnaethom ni gynnal saith gêm ryngwladol gyda'r dynion o gymharu â phump y flwyddyn flaenorol ond dim ond £2m ychwanegol a gafwyd mewn incwm o'r gemau," meddai Marshall.
"Roedd hyn yn heriol, ac yn adlewyrchu prisiau tocynnau is ar gyfartaledd, niferoedd is o wylwyr, a'r pwysau economaidd byd-eang o ran gwariant defnyddwyr."
Yn ystod y cyfnod dan sylw mae Undeb Rygbi Cymru wedi ysgwyddo colled rhanbarth Caerdydd o £1.2m.
Cymerodd yr Undeb reolaeth ar y rhanbarth, yn sgil trafferthion, ym mis Ebrill 2025.
Yn Ebrill 2026 dywedodd URC na fydd perchnogion y Gweilch nawr yn prynu rhanbarth Caerdydd wedi i'r trafodaethau ddod i ben heb gytundeb.
Ddydd Iau cadarnhaodd Marshall y bydd rhanbarth Caerdydd yn cael ei roi ar werth eto ond na fydd hynny'n digwydd nes bydd y broses ad-drefnu bresennol wedi'i chwblhau.
Gallai hynny olygu cadw Caerdydd tan 2028 o leiaf.
Trafodaethau URC a pherchnogion y Gweilch i brynu Caerdydd wedi dymchwel
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
URC i dorri nifer y rhanbarthau rygbi o bedwar i dri erbyn 2027
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2025
Nod yr Undeb yw cynyddu nifer ac amrywiaeth y digwyddiadau sy'n gysylltiedig â rygbi yn Stadiwm y Principality.
Er nad yw cyngherddau yn codi ond symiau cymedrol o arian maen nhw'n cael eu gweld fel cyfleoedd da gan fod y trefnwyr yn talu rhent am y lleoliad a'r Undeb yn elwa o werthu bwyd a diod.
Ond maen nhw'n wynebu costau cynyddol a mwy o gystadleuaeth gan leoliadau eraill – gan gynnwys arena gerddoriaeth newydd sy'n cael ei hadeiladu ym Mae Caerdydd.
Bydd y stadiwm yn cynnal gornest focsio pwysau trwm y byd rhwng Tyson Fury ac Anthony Joshua ym mis Rhagfyr ac yna cyngherddau haf gan Andrea Bocelli a Sam Fender.
Flwyddyn nesaf mae yna ddarogan y bydd y colledion yn £16m.
"Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod cyflwr ariannol rygbi Cymru yn gynaliadwy unwaith eto," ychwanegodd Marshall.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.