Main content

Sioe Laeth Cymru 2026; a Llywydd newydd y BVA

Terwyn Davies sy'n edrych ymlaen at Brif Sioe Laeth Cymru yng Nghaerfyrddin yr wythnos hon. Terwyn Davies looks ahead to this week's Welsh Dairy Show in Carmarthen.

Terwyn Davies sy'n edrych ymlaen at Brif Sioe Laeth Cymru sydd yn cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin yr wythnos hon. Sgyrsiau gyda Dyfrig Griffiths o'r pwyllgor sy'n trefnu, a hefyd gydag un o'r cystadleuwyr, Rhys Jones.

Hefyd, sgwrs gyda'r Dr Gwenllian Rees sydd newydd ei hethol yn Llywydd newydd Cymdeithas Filfeddygol Prydain, y BVA.

Angharad Davies o Bonterwyd, Ceredigion sy'n sôn am fod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Y newyddion diweddaraf o'r sector cig coch gyda Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru; ac Is-Gadeirydd newydd CFFI Cymru, Elin Lewis sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.

Cynhyrchiad cwmni Telesgop i BBC Radio Cymru.

25 o ddyddiau ar ôl i wrando

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Dydd Sul 15:30

Darllediadau

  • Dydd Sul 07:00
  • Dydd Sul 15:30