Main content
GWEN : UMA
Wrth ryddhau ei halbym solo cyntaf, Gwenllian Anthony sy'n trafod rhyddid creadigol newydd. An eclectic selection of music.
Wrth ryddhau ei halbym unigol cyntaf, UMA, mae Gwenllian Anthony yn trafod y rhyddid creadigol sydd wedi dod yn sgil dilyn ei llwybr ei hun wedi treulio degawd fel aelod o Adwaith. Wedi'i recordio yng Nghaffi Lolfa, lleoliad sy'n agos iawn at galon Gwen, cawn hefyd glywed am yr hwb celfyddydol sydd wedi rhoi bywyd newydd i Borth Tywyn. Gyda chyfraniadau gan un o berchnogion gweithgar Lolfa, Lee Weston-Zygadlo, Bethan Mai yn trafod ei phrosiect newydd sy'n cyfuno byd Rogue Jones â chanu opera, a Louis O'Hara yn rhannu manylion ei albym newydd sbon.
Ar y Radio
Dydd Mawrth
19:00
BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
Darllediad
- Dydd Mawrth 19:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru