Episode details

Available for 30 days
Sara Elan Jones sy'n ymweld â Bragdy Torri Syched yn Nhregaron, gan sgwrsio am y fenter gyda'r perchennog, y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan. Hefyd, hanes gwasanaeth coffa go arbennig yn Eglwyswrw, wrth i'r ceffyl brenhinol Willa Rose ddod nôl i Sir Benfro i gael ei chladdu, ar ôl cyfnod gyda'r Cafalri Brenhinol. Aled Morgan o Gastellnewydd Emlyn sy'n sgwrsio am y profiad o fod yn feirniad ym Mhencampwriaeth Aredig y Byd yn Croatia y penwythnos nesaf. Hefyd, rhagolygon y tywydd am y mis i ddod gyda Megan Williams, a'r ffermwr bîff a defaid, Wyn Evans o Dynygraig, Ystrad Meurig sy'n pori drwy'r straeon gwledig yn y wasg.
Programme Website