Es i o wirfoddoli gyda Pontypridd United i weithio gyda thîm cenedlaethol Cymru

Part of Careers

Wyt ti erioed wedi gwylio cynhadledd i’r wasg bêl-droed, neu wedi gweld chwaraewr yn ymweld ag ysgol neu glwb lleol? Mae digwyddiadau o’r fath yn gofyn am gynllunio gofalus i sicrhau bod popeth yn mynd yn iawn, a bod neges y clwb yn cyrraedd y cefnogwyr yn y ffordd gywir.

Mae Rhianna yn swyddog gweithredol cyfathrebu ac ymgysylltu i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW). Yn ei rôl, mae Rhianna yn ymwneud â llawer o wahanol dasgau, felly mae’n dweud bod y swydd, “ychydig fel bod yn swyddog y wasg.” Mae’n rheoli unrhyw gysylltiadau â’r cyfryngau ar gyfer tîm merched Cymru, gan weithio gyda darlledwyr i godi proffil y tîm.

Mae gweld wyneb merch ifanc yn goleuo a bod ganddi hi’r cysylltiad hwnnw â’r tîm cenedlaethol… yn gwneud y cyfan yn werth chweil.
Back to top

Llwybr gyrfa Rhianna

  • Roedd ganddi angerdd dros bêl-droed ers pan oedd hi’n ifanc. Aeth ei thad-cu â hi i’w gêm bêl-droed gyntaf i wylio tîm dynion Cardiff City.
  • Yn yr ysgol astudiodd hanes, addysg grefyddol a ffotograffiaeth, gan ddewis pynciau yr oedd yn eu mwynhau yn hytrach na phynciau gyda chysylltiad penodol â’i gyrfa yn y dyfodol.
  • Astudiodd newyddiaduraeth chwaraeon yn y brifysgol.
  • Tra oedd hi’n astudio, cymerodd ran mewn gwaith gwirfoddol. Bu’n gwirfoddoli gyda radio’r brifysgol, gyda chlwb pêl-droed lleol Pontypridd United, ac enillodd brofiad gyda chynghreiriau domestig merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn gweithio ar bodlediadau a chyfryngau cymdeithasol.
  • Ymunodd â rhaglen fentora ar gyfer merched a menywod ifanc oedd am ddilyn gyrfa ym myd pêl-droed.
  • Gwnaeth gais am ei swydd ddelfrydol a sicrhaodd rôl gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) fel cydlynydd cyfryngau a chynnwys, cyn symud ymlaen i’w rôl bresennol yn adran gweithrediadau’r cyfryngau.
Back to top

Beth yw’r cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ym maes cyfathrebu pêl-droed?

Mae llawer o wahanol ffyrdd o ddatblygu gyrfa ym maes cyfryngau a chyfathrebu pêl-droed.

Mae Rhianna yn gweithio yn adran gweithrediadau’r cyfryngau. Dyma’r llwybr y mae hi wedi ei ddilyn i ddatblygu ei gyrfa:

cydlynydd cyfryngau a chynnwys --> swyddog gweithredol cyfathrebu ac ymgysylltu

Gall rolau cyfathrebu gynnwys ysgrifennu, cynllunio ymgyrchoedd, deall gwahanol gynulleidfaoedd a gwerthuso pa gynnwys sy’n gweithio orau. Gall hefyd gynnwys diogelu neu ddatblygu enw da sefydliad. Yn ogystal â goruchwylio diwrnodau’r cyfryngau, cynadleddau’r wasg a chyfweliadau cyn neu ar ôl gemau, gallet ti hefyd fod yn canolbwyntio ar y cyfryngau cymdeithasol neu ddarganfod dy fod yn mwynhau ochr gyfathrebu’r swydd yn fwy.

Hoffai Rhianna symud i rôl lle byddai’n gwneud ychydig mwy o reoli rhyw ddiwrnod. “Hoffwn allu rhannu’r hyn rydw i wedi’i ddysgu a pharhau i ddatblygu.”

Back to top
A hand holding a lightbulb against a yellow background.
  • Bydda’n gyfforddus gyda’r anghyfforddus: Efallai bydd rhywun yn gofyn i ti wneud rhywbeth anghyfarwydd neu rywbeth nad wyt ti’n gyfforddus ag ef. Mae Rhianna yn credu ei bod yn bwysig herio dy hun gan y byddi di’n dysgu llawer wrth wneud hyn.
  • Dyweda ie i bob cyfle: Os bydd cyfle yn codi mewn maes rwyt ti’n angerddol amdano, rho gynnig arni. Gallai roi profiad gwerthfawr i ti.
  • Gwirfoddola gymaint ag y galli di: Gall gwaith gwirfoddol roi mwy o brofiad i ti, a dy wneud yn well yn yr hyn rwyt ti’n ei wneud?
A hand holding a lightbulb against a yellow background.

Faint alli di ei ennill ym maes cyfryngau a chyfathrebu pêl-droed?

Mae amryw o rolau gwahanol ym myd cyfryngau a chyfathrebu pêl-droed. Gall cyflogau amrywio, ond o’i phrofiad ei hun, mae Rhianna yn dweud, “Gall cyflogau cychwynnol fod rhwng £24,000 a £30,000, ond gall hyn gynyddu yn dibynnu ar lefel y swydd. Er enghraifft, byddai’n uwch na hynny ar gyfer rôl rheolwr.”

Mae Rhianna yn swyddog gweithredol cyfathrebu ac ymgysylltu, ond mae rhai cyflogwyr yn rhannu’r cyfrifoldebau hynny rhwng gwahanol swyddi. Gall yr holl wahanol rannau o’i rôl gael teitlau swydd eraill, megis rheolwr cyfryngau cymdeithasol neu swyddog y wasg. Mae mwy o wybodaeth am rôl swyddog y wasg isod.

This is a decorative purple line to separate and organise content on the page.

Beth i’w ddisgwyl os hoffet ti fod yn swyddog y wasg

  • Cyflog cyfartalog swyddog y wasg: £24,000 i £45,000 y flwyddyn
  • Oriau gwaith arferol swyddog y wasg: 37 i 42 awr yr wythnos

Pa gymwysterau sydd eu hangen i fod yn swyddog y wasg?

Gallet ti fynd i mewn i’r rôl hon drwy wneud cwrs prifysgol, cwrs coleg, prentisiaeth neu gyrsiau arbenigol sy’n cael eu cynnal gan gorff proffesiynol.

Ffynhonnell: Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol

Canllaw yn unig yw’r wybodaeth hon ac mae’n newid yn barhaus. Edrycha ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol am y wybodaeth ddiweddaraf a'r holl gymwysterau sydd eu hangen.

Back to top

Darganfydda ragor gan Bitesize Careers Follow Your Passion

Mae Bitesize Careers, mewn partneriaeth â’r Brifysgol Agored, wedi lansio ymgyrch Follow Your Passion, sy’n edrych ar sut y galli di ddefnyddio dy ddiddordebau a dy frwdfrydedd i ddod o hyd i swyddi i’w gwneud yn y dyfodol.

O greu cynnwys i ddylunio gemau cyfrifiadur, o faethiad i weithio gyda rhifau, cymer olwg ar gasgliad llawn Bitesize Careers Follow Your Passion i weld llwyth o gynnwys ysbrydoledig am yrfaoedd.

Bitesize Careers Follow Your Passion

Find more careers in football on the Bitesize Careers Follow Your Passion page.

Bitesize Careers Follow Your Passion

Five moves to get started in football External Link

Discover steps you can take now to build useful skills for a career in football.

Five moves to get started in football
Back to top