Dydy'r pwysau ar Dîm Achub Mynydd Llanberis 'ddim yn gynaliadwy'

Tîm Achub Mynydd LlanberisFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw i 59 o ddigwyddiadau ym mis Awst

GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Dydy'r pwysau cynyddol sydd ar dîm achub mynydd prysuraf Cymru "ddim yn gynaliadwy", yn ôl y sefydliad.

Ym mis Awst, profodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu mis prysuraf erioed, gyda 59 o ymgyrchoedd achub, ac maen nhw bellach yn galw am newid mewn diwylliant ymhlith cerddwyr.

Mae Caradoc Jones, y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest, hefyd wedi awgrymu y dylid ystyried gwneud timau achub yn wasanaeth cenedlaethol sy'n cael eu hariannu gan y llywodraeth.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw "mewn cysylltiad â'r timau achub mynydd i drafod pa gymorth y gellir ei gynnig".

Tîm Achub Mynydd LlanberisFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn gweithredu gyda thua 70 o wirfoddolwyr, ar ôl recriwtio tua 30 yn rhagor eleni

Ers 2020, mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi profi cynnydd o tua 15% i 20% bob blwyddyn yn nifer y galwadau mae'n eu derbyn.

Er eu bod wedi recriwtio tua 30 o wirfoddolwyr yn rhagor eleni, gan ddod â'r cyfanswm i tua 70, maen nhw'n dweud fod y pwysau sy'n wynebu'r tîm yn ormod a bod rhaid i rywbeth newid.

"Cychwyn y flwyddyn yma, oeddan ni'n ei weld o ac yn rili stryglo fel tîm," meddai Tom Carrick, un o'r gwirfoddolwyr.

"Oeddan ni'n cael galwadau yn dod mewn ym mis Chwefror ac yn gorfod galw ar dimau eraill yn yr ardal i gefnogi ni.

"Yn barod y flwyddyn yma, 'da ni ar tua 350 o alwadau, a rhai dyddiau yn yr haf yn derbyn 10 galwad mewn diwrnod."

Ychwanegodd nad yw'n hyderus y byddai'r tîm yn gallu ymdopi pe bai'r pwysau yn dal i gynyddu yn yr un modd.

Tom Carrick
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Carrick yn dweud eu bod wedi gorfod gofyn am gymorth timau achub eraill ar brydiau

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi cael ei rannu degau o filoedd o weithiau, mae'r tîm yn dweud mai'r prif bryder yw'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld heb baratoi ar gyfer yr amodau.

"Mae llwybrau a oedd unwaith yn cael eu mentro'n bennaf gan gerddwyr mynydd profiadol bellach yn denu mwy o bobl sydd ag ychydig iawn neu ddim profiad o gwbl," meddai Tom Carrick.

"Gall llun neu fideo o Grib Goch wneud i'r ddringfa radd 1 agored ymddangos fel pe bai'n ddim mwy na llwybr arferol i'r copa.

"Ond yr hyn nad yw'n ei ddangos yw pa mor frawychus y gall y grib honno fod mewn cwmwl, glaw neu wyntoedd cryfion, na pha mor gyflym y gall sefyllfa reoledig droi'n argyfwng difrifol."

Caradoc Jones
Disgrifiad o’r llun,

Caradoc Jones oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest yn 1995

Yn 1995, Caradoc Jones oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest, ac ers hynny mae wedi dringo rhai o fynyddoedd prysuraf a pheryclaf y byd.

Tra'n croesawu'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n mentro ac yn chwilio am antur, mae hefyd yn dweud fod angen newid mewn diwylliant ymhlith y rheini sy'n teithio i'r mynyddoedd heb brofiad.

Gan ddweud fod nifer yn cael eu denu a'u swyno gan ddelweddau ar gyfrifon cymdeithasol, mae'n credu bod angen negeseuon cyson i rybuddio pobl am y peryglon.

'Rhaid newid rhywbeth'

"Mae'n rhaid bod 'na ryw fath o newid yn digwydd, a byswn i'n gobeithio os fysa swyddog social media gyda'r timau achub hyn, y byddai 'na ryw interception," meddai Caradoc Jones.

Yn y bôn, mae'n dweud bod angen rhybuddio pobl yn fwy cyson am y peryglon.

Pan holwyd a fyddai'n croesawu newid yn y model ariannu ac i'r llywodraeth ariannu'r timau, dywedodd: "Yn sicr... ac i hynny ddod law yn llaw efo'r system addysg i roi'r wybodaeth i bobl.

"Os allwn ni wneud hynny dros social media, allwn ni gael pobl i baratoi yn well."

Storfa Achub Mynydd Llanberis

Yn ôl Tîm Achub Mynydd Llanberis, tra bod eu gwirfoddolwyr wrth eu boddau â'u gwaith, mae'n bwysig cydnabod y straen mae'r gwaith yn ei gael hefyd, gyda nifer yn gorfod wynebu sefyllfaoedd heriol a delio gyda thrawma.

"'Dan ni 'di cael 30 o wirfoddolwyr yn ychwanegol yn ymuno â'r tîm," meddai Tom Carrick.

"'Dan ni ym mis Medi 'wan, ac yn barod 'dan ni'n gweld lot fawr o burnout rhwng aelodau sydd 'di bod yma ers blynyddoedd a rhai newydd hefyd."

"Y pwynt yma, ydy faint yn fwy allwn ni gadw hwn i fynd?"

Dros yr haf, cyhoeddodd Heddlu'r Gogledd eu bod am sefydlu tîm newydd i wella eu hymateb i ddigwyddiadau tebyg, y cyntaf o'i fath yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu "timau achub mynydd yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi pobl ledled Cymru, yn aml mewn amgylchiadau anodd a heriol, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu hymroddiad a'u gwaith caled".

"Rydym yn cydnabod yn ein rhaglen lywodraethu y rhan bwysig mae'r sector gwirfoddol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ac rydym mewn cysylltiad â'r timau achub mynydd i drafod pa gymorth y gellir ei gynnig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.