Ateb y Galw: Zach Mutyambizi

- Cyhoeddwyd
Un o Gaerdydd yw Zach Mutyambizi. Mi fydd yn wyneb cyfarwydd i unrhywun sydd wedi gweld y rhaglenni Stwnsh neu BOOM! BANG! ar S4C - ag yntau'n gyflwynydd ar y rhaglenni rheiny.
Ond beth am ddod i ei adnabod yn fwy wrth i Zach ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Beth yw dy atgof cyntaf?
Fi a fy chwaer yn 'stafell gwely Mam a Dad pan o'n ni'n iau yn rasio i weld pwy all gael ei wisg ysgol ar yn gyflymach. Ni'n efeilliaid felly byddai'r boreau yma'n mynd yn gystadleuol iawn!

Mae Zach a'i chwaer Katie yn efeilliaid
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hwyliog, gweithiwr-caled ac uchelgeisiol.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Mae'n anodd dweud ond un sydd o hyd yn gwneud i fi chwerthin oedd yr arbrawf 'Past Dannedd Eliffant' yn ystod BOOM BANG!
Aeth y past i bobman ac mi odd o'n hollol hilarious... efallai ddim i Dr Peri Jones a bennodd lan gyda lot ohono yn ei gwallt!
Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?
Traeth Newgale yn Sir Benfro. Bydde Taid yn mynd â fi a fy chwaer yno i chwarae a nofio - o hyd yn adrodd straeon am y ddraig oedd yn byw yn yr ogofâu ar hyd y traeth. Daethon ni byth o hyd iddo ond cawsom ni lot o hwyl yn chwilio!

Zach a'i chwaer ar draeth Newgale yn Sir Benfro
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?
Yn ystod clyweliadau ar gyfer Eisteddfod ein ysgol gynradd wnaeth fi ac un o fy ffrindiau gorau, Owen, benderfynu cymryd rhan. Er bo llais canu fi yn warthus, wnaeth Owen berswadio fi i wneud er mwyn cefnogi'r ysgol.
Tua 30 eiliad i fewn i gân... torrodd fy llais ac, er gwaetha trio cario mlaen, bennais i lan yn gadael y dosbarth i fynd i'r tŷ bach. (Yn dibynnu ar bwy chi'n gofyn - 'falle odd cwpl o ddagrau yn llifo).
Y peth gwaetha oedd, ar ôl i fi ddod nôl, wedodd Owen bod e nawr yn rhy ofn i ganu ei hunain! Fi dal heb faddau iddo.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Mae'n embarrassing i ddweud ond siŵr o fod yn ystod rhyw ffilm wnaeth neb arall ffeindio'n drist!
Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?
Ma' hwn yn un anodd, ond i ddewis un - ennill ffeinal rygbi ar Stadiwm y Principality i Ysgol Glantaf yn y chweched ddosbarth.
Y tro olaf i ni chwarae 'da'n gilydd fel grŵp mawr o ffrindiau ar ôl blynyddoedd o wneud. Bydda i byth yn anghofio'r teimlad o ryddhad a balchder.

Dathlu wedi buddugoliaeth yn Stadiwm y Principality
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n gystadleuol dros ben, ac mae colli mewn unrhyw gêm yn hala fi mewn i hwyliau drwg.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Fy hoff lyfr ydy The Power of One, llyfr am fachgen bach o De Affrica a dyfodd fyny i oresgyn plentyndod caled, hiliaeth a cholled ei deulu agos, i fod yn baffiwr llwyddianus a symbol ar gyfer hawliau dynol.
Hoff lyfr fi a Mam yw e; wnaethon ni enwi ein ci, Peekay, ar ôl y prif gymeriad.

Ci y teulu, Peekay, sydd wedi ei enwi ar ôl cymeriad yn y llyfr The Power of One gan yr awdur Bryce Courtenay
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?
Y chwaraewr pêl fasged Michael Jordan. Hoffwn wybod be' gymerodd hi i fod y gorau yn y byd am gyfnod mor hir ac i weld os yw e mor gystadleuol â ma' pawb yn dweud.
Dyweda rywbeth amdanot ti eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gyda fi black belt yn Tae Kwon Do.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?
Gwahodd teulu a ffrindiau i lawr i gaeau Llandaf i gicio pêl o gwmpas. Bydde barbeciw a picnic yn wych hefyd os oedd rhywyn yn fodlon treulio eu horiau olaf yn coginio!
Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?
Y llun yma o fi a Mam - y fenyw mwya' pwysig yn fy mywyd!

Zach a'i fam
Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Bydda i'n dewis rhywun fel Brian Cox. Wir hoffwn ni wybod a deall y pethau sy'n mynd rownd ei ben e am ein byd a'r bydysawd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Mawrth

- Cyhoeddwyd23 Chwefror

- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2025
