Taith Cymru i Euro 2020
- Cyhoeddwyd

Bydd carfan t卯m p锚l-droed Cymru'n mwynhau'r Nadolig gan wybod y byddant yn chwarae ym Mhencampwriaethau Euro 2020 yr haf nesaf.
Ar 13 Mehefin bydd Cymru'n wynebu'r Swistir yn Baku, yna gemau yn erbyn Twrci a'r Eidal, cyn gobeithio ennill lle yn rownd yr 16 olaf.
Ond nid oedd cyrraedd y rowndiau terfynol yn hawdd i'r t卯m cenedlaethol, cafwyd dechreuad digon anodd i'r ymgyrch. Felly dyma ail-fyw'r daith i Euro 2020.

Cymru 1-0 Slofacia
24 Mawrth, 2019
Dechreuodd ymgyrch Cymru gyda buddugoliaeth yng Nghaerdydd yn erbyn Slofacia. Dan James sgoriodd unig g么l y g锚m yn y pum munud cyntaf, ac roedd rhaid i Hennessey wneud arbediadau yn y 10 munud olaf i atal Slofacia rhag unioni'r sg么r.

Dan James yn dathlu sgorio ei g么l gyntaf dros Gymru

Croatia 2-1 Cymru
8 Mehefin, 2019
Dwy g锚m oddi cartref mewn tri diwrnod oedd hi wedyn, gan golli'r gyntaf yn y gwres tanbaid yn Osijek. Cododd y tymheredd i dros 30C gradd yn Stadion Gradski, a th卯m ifanc Cymru'n ei chael hi'n anodd dal 'mlaen yn erbyn chwaraewyr o safon Luka Modri膰 ac Ivan Peri拧i膰.
Sgoriodd James Lawrence i'w g么l ei hun, ac fe sgoriodd Peri拧i膰 i ddyblu mantais Croatia. Sgoriodd yr eilydd David Brooks ei g么l gyntaf dros Gymru i'w gwneud hi'n 2-1, ac felly arhosodd hi am weddill y g锚m er i Gymru gael cyfleoedd i hawlio g锚m gyfartal.

Chwaraewyr Cymru wedi'r golled yn Osijek

Hwngari 1-0 Cymru
11 Mehefin, 2019
Colli oedd hanes Cymru yn Budapest hefyd, a hynny o 1-0 diolch i g么l gan M谩t茅 P谩tkai yn hwyr yn y g锚m. Roedd hi'n noson rwystredig iawn i garfan Cymru, a adawodd eu gobeithion o gyrraedd Euro 2020 mewn cyflwr bregus iawn.

Yr ymosodwr 脕d谩m Szalai (rhif naw) a gweddill carfan Hwngari yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Cymru

Cymru 2-1 Azerbaijan
6 Medi, 2019
Roedd y fuddugoliaeth yn erbyn Azerbaijan gartref mis Medi yn un gwbl angenrheidiol. Dyma g锚m a oedd, ar bapur, yr hawsaf un o holl ymgyrch Cymru. Gareth Bale oedd yr arwr gan sgorio gydag ond chwe munud o'r g锚m yn weddill i roi'r fuddugoliaeth i Gymru.

Gareth Bale yn dathlu cipio buddugoliaeth i Gymru

Slofacia 1-1 Cymru
10 Hydref, 2019
Fe brofodd y pwynt yma yn Trnava yn hollbwysig er mwyn cadw'r gobaith o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020 yn fyw.
Eiliadau wedi i Gareth Bale daro trawst y g么l gydag ergyd fe sgoriodd ymosodwr Wigan, Kieffer Moore ei g么l gyntaf dros Gymru. Sgoriodd Juraj Kucka dros Slofacia yn gynnar yn yr ail hanner ac oni bai am arbediad gwych gan Wayne Hennessey fe fyddai wedi cael ail g么l.

Kieffer Moore yn dathlu ei g么l gyntaf dros Gymru

Cymru 1-1 Croatia
13 Hydref, 2019
Gyda tair g锚m o'r ymgyrch ar 么l, yr amcan i Gymru oedd peidio 芒 cholli g锚m arall. Roedd wynebu Croatia, a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan y Byd y llynedd, yn dasg anodd.
Sgoriodd y chwaraewr ganol cae Nikola Vla拧i膰 yn gynnar i roi Croatia ar y blaen. Ond fe sgoriodd arwr Cymru, Gareth Bale, unwaith eto i unioni'r sg么r a sicrhau pwynt gwerthfawr i Gymru.

Gareth Bale yn gwibio heibio Ivan Rakiti膰

Azerbaijan 0-2 Cymru
16 Tachwedd, 2019
Os oedd Azerbaijan yn cael ei ystyried fel t卯m p锚l-droed s芒l fe ddylai'r fuddugoliaeth agos 2-1 yng Nghaerdydd ym mis Medi wedi bod yn agoriad llygaid i gefnogwyr Cymru.
Roedd yr Azeri'n drefnus a gweithgar, ond llwyddodd Cymru i ennill gyda buddugoliaeth gyfforddus. Kieffer Moore a Harry Wilson oedd y sgorwyr, gyda'r canlyniad yn golygu bod y cyfan yn y fantol yn y g锚m olaf yn erbyn Hwngari.

Harry Wilson yn dathlu sgorio ail g么l Cymru yn Baku

Cymru 2-0 Hwngari
19 Tachwedd, 2019
Ac felly i g锚m ola'r ymgyrch, Hwngari gartref. Roedd Cymru'n gwybod bod eu tynged yn eu dwylo'u hunain, ac y byddai buddugoliaeth yn erbyn Hwngari yn sicrhau lle yn Euro 2020.
Seren Juventus, Aaron Ramsey oedd yr arwr gan sgorio dwy g么l i'r cochion, un ym mhob hanner. Dyma oedd cyfle cyntaf Ryan Giggs i ddewis Ramsey a Gareth Bale i ddechrau g锚m gyda'u gilydd ers cymryd yr awenau fel rheolwr.
Roedd dathlu mawr yng Stadiwm Dinas Caerdydd wedi i Gymru sicrhau eu lle ym Mhencampwriaethau Ewrop am yr ail waith yn olynol.

