Episode details

Available for 29 days
Wrth ryddhau ei halbym unigol cyntaf, UMA, mae Gwenllian Anthony yn trafod y rhyddid creadigol sydd wedi dod yn sgil dilyn ei llwybr ei hun wedi treulio degawd fel aelod o Adwaith. Wedi'i recordio yng Nghaffi Lolfa, lleoliad sy'n agos iawn at galon Gwen, cawn hefyd glywed am yr hwb celfyddydol sydd wedi rhoi bywyd newydd i Borth Tywyn. Gyda chyfraniadau gan un o berchnogion gweithgar Lolfa, Lee Weston-Zygadlo, Bethan Mai yn trafod ei phrosiect newydd sy'n cyfuno byd Rogue Jones â chanu opera, a Louis O'Hara yn rhannu manylion ei albym newydd sbon.
Programme WebsiteTracklist
- TrackArtist
- 1.PwysauPwysauAdwaith
- 2.POP!POP!GWEN
- 3.GothGothGWEN