Yr actor o Hollywood a orffennodd ei yrfa fel extra ar Pobol y Cwm

- Cyhoeddwyd
Fe aeth Ioan Gruffudd o chwarae rhan Gareth Wyn ar Pobol y Cwm yn ei arddegau i serennu yn Hollywood mewn ffilmiau fel Titanic a Fantastic Four.
Yn fwy diweddar, mae'r actor Hans Obma wedi dod o Hollywood i Gwmderi er mwyn chwarae rhan y dihiryn Kyle ar yr opera sebon eiconig.
Ond tybed a wyddoch chi am Jim Mills – yr actor o dras Gymreig oedd yn ffrindiau gyda James Dean, Sammy Davis Jr a Bobby Darin, a symudodd o Hollywood i Gaerdydd yn yr '80au, ac a oedd yn un o lymeitwyr cyson Y Deri Arms am flynyddoedd?
Mab i Gymro Cymraeg a seren show-biz o Ddulyn
Ganwyd Jim Mills ar 18 Ebrill 1925 yn Manhattan, Efrog Newydd. Roedd ei dad Thomas yn Gymro Cymraeg o Lerpwl a'i fam Mollie Phillips o Ddulyn yn wreiddiol, ac yn siarad Gwyddeleg – bu i'r ddau gwrdd yn Efrog Newydd ar ôl mudo i'r Unol Daleithiau i chwilio am waith.
Roedd tad Jim yn beiriannydd awyrennau ac roedd Mollie yn ddawnswraig talentog, ac yn aelod o gwmni dawnsio enwog y Rockettes yn y Roxy Theatre yn Efrog Newydd yn yr 1920au a'r '30au.
Yna, fe aeth ymlaen i fod yn gantores nodedig ar orsaf radio WOR. Roedd hi'n ffrindiau gyda nifer o actorion a cherddorion enwog Efrog Newydd ar y pryd.

Grŵp dawnsio eiconig y Rockettes yn y '30au – mae'n debyg mai mam Jim oedd 'y Rockette gwreiddiol... cafodd y Rockettes eu llunio ar ei phryd a'i gwedd hithau'
Yr Ail Ryfel Byd
Roedd Jim yn aelod o lynges America yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daeth draw i Gymru yn 1943, wrth i'r llynges baratoi at laniadau D-Day. Treuliodd gyfnod yn Abertawe gyda'i fflyd, yn aros i gael eu hanfon draw at draethau gogledd Ffrainc.
Yn y pendraw, fe wnaeth Jim lanio ar draeth Omaha yn ystod D-Day, ac fe fu'n rhan o'r ymladd ffyrnig ar lannau Normandi ym Mehefin 1944.

"Dwi ddim yn hoffi siarad am D-Day", dywedodd mewn cyfweliad yn 1993.
"Ond fe ddyweda i hyn... Ro'n i'n un o'r dynion ar y landing crafts bach yn hwylio at lan Omaha. Ac fe wnaeth y cwch o'n blaenau ni fwrw un o'r mines. Ac fe wnaeth y cwch ffrwydro o'n blaenau – wnaeth y cyfan ddod lawr mewn bits and pieces.
"Wedyn dyma ni'n hwylio i mewn at y lan, ac fe daron ni mine arall. Ond wnaeth y mine ddim ffrwydro, ond fe wnaeth e rwygo gwaelod y cwch.
"Ac fe ges i fy nhaflu oddi ar y cwch ar y traeth – ac roedd angen imi gael fy hedfan nôl i'r Deyrnas Unedig gydag anafiadau.
"Wnai fyth anghofio gweld y dŵr yn troi'n frown gyda'r holl waed."
Dechrau ei yrfa actio
Ar ôl dychwelyd i America yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, penderfynodd Jim ei fod am ddod yn actor.
"Symudais allan i Hollywood pan o'n i'n 21, ac fe ges i screen test gyda stiwdios Paramount.
"Roedd e'n disaster! Fe ges i actio gyda'r actores enwog, Diana Lynn yn y prawf. A doedd hi ddim yn help o gwbl!
"Roedd hi'n casáu'r ffaith ei bod hi'n gorfod actio gyda'r unknown yma – fi!"
Cafodd Jim ei wrthod gan Paramount, ond ni wnaeth hynny ddiffodd fflam ei uchelgais. Penderfynodd ddychwelyd i Efrog Newydd er mwyn derbyn hyfforddiant actio ffurfiol.

Stiwdios Paramount yn Hollywood
Dod yn ffrindiau gyda James Dean
Tra'r oedd Jim yn derbyn hyfforddiant ac yn chwilio am waith actio yn Efrog Newydd, fe ddaeth i nabod rhai o actorion ifanc eraill y ddinas.
Cafodd Jim ran fawr gyntaf ei yrfa yn chwarae rhan y llofrudd, Danny, yn nrama Emlyn Williams, Night Must Fall ar Broadway.
Byddai nifer o ffrindiau Jim yn y cyfnod hynny'n mynd ymlaen i fod yn sêr Hollywood – actorion a diddanwyr fel James Dean, Bobby Darin, Sammy Davis Jr., James Coco a Michael Landon.

James Dean – un o gyfoedion Jim Mills yn Efrog Newydd yn y 40au
"Roedden ni i gyd yn edrych am waith gyda'n gilydd, ac yn cwrdd yn aml yn siop goffi Cromwell's yn Radio City i ddal fyny a 'chymharu nodiadau'," eglurodd Jim.
"Roedd yn gyfnod hynod o gyffrous.
"Roedd James Dean yn fewnblyg – yn foi tawel iawn ac yn cymryd ei yrfa actio'n ddifrifol iawn. O'dd e'n eitha byr ac yn gwisgo sbectol.
"Roedd 'nabod e fel ffrind yn gwrthgyferbynnu'n llwyr gyda'r personoliaeth roeddech chi'n gweld ar y llwyfan neu ar y sgrîn."
Bobby Darin yn gofyn am gyngor

Y canwr enwog, Bobby Darin
Roedd Jim hefyd yn ganwr o fri, yn ysgrifennu a pherfformio ei ganeuon ei hun, ac ysgrifennodd And The Bells Began To Chime ar gyfer Perry Como.
Wnaeth talentau cerddorol Jim danio perthynas rhyngddo ef a Bobby Darin, oedd yn actor ifanc pan ddaeth i'w adnabod – ond yn breuddwydio am fod yn ganwr a chyfansoddwr llwyddiannus.
"Roeddwn i ar daith canu gyda Bobby Darin unwaith," meddai Jim.
"Roedd e'n gwybod 'mod i wedi ysgrifennu caneuon. Fe ganodd e'r gân yma i mi i weld be roeddwn i'n meddwl ohono, ac ishe help gyda'r geiriau... Splish splash, I was takin' a bath.
"Fe ddwedes i wrtho am anghofio hi – bod hi'n gân anobeithiol! Wel, aeth y gân i frig y siartiau ar draws y byd ac ni fu Darin byth yn actio ar ôl hynny."
Actio yn Hollywood
Am flynyddoedd, roedd Jim yn cael gwaith cyson yn Hollywood yn y '50au gyda stiwdios mawr gwahanol – ac yn byw ar Hollywood Boulevard.
Chwaraeodd rannau yn y ffilmiau enwog Belles on Their Toes gyda Myrna Loy a Hoagy Carmichael yn 1952, a Pat and Mike yn yr un flwyddyn – un o gomedïau enwog Spencer Tracy a Katharine Hepburn. Wnaeth e hefyd chwarae rhannau mewn sawl ffilm arall gyda Tracy yn ogystal â Lana Turner.

Pat and Mike – un o gomedïau Spencer Tracy a Katharine Hepburn
Bu'n ganwr yn y Gateway Theatre ar Hollywood Boulevard am gyfnod, a theithiodd yr Unol Daleithau, Canada a Mecsico fel perfformiwr ar ei ben ei hun ac hefyd fel aelod cynnar o grŵp gwerin y Limeliters.
Ymddangosodd hefyd droeon ar sioe deledu Dick Clark, American Bandstand, yn canu ei ganeuon ei hun.
Symud i Gymru... ac i Gwmderi

Jim Mills yng nghefndir tafarn Y Deri Arms ar bennod o Pobol y Cwm yn Nhachwedd 1990
Gwaith olaf Jim yn yr Unol Daleithau oedd fel DJ ar orsaf radio yn Florida yn y '70au.
Symudodd i Gymru yn 1982, i fyw gyda modryb yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, lle fu'n byw am weddill ei fywyd.
Cafodd waith cyson fel extra ar Pobol y Cwm trwy gydol yr '80au a'r '90au. Roedd Jim fel arfer i'w weld yn sipian cwrw yn y cefndir yn nhafarn Y Deri Arms.
Ac er nad oedd yn siarad Cymraeg, mae'n debyg y daeth i ddeall yr iaith yn iawn trwy wrando ar ei gyd-actorion yn actio yn yr iaith bob dydd.
'Cymru yn gartref'

Jim Mills mewn golygfa yn y ffilm Morphine and Dolly Mixtures yn 1991, a gynhyrchwyd gan BBC Cymru
Roedd Jim yn parhau i gael gwaith actio cyson tra'r oedd yn byw yng Nghymru. Yn ogystal â bod yn extra ar gyfres Pobol y Cwm, roedd yn actio mewn ffilmiau hefyd, gan gynnwys ffilm lwyddiannus BBC Cymru, Morphine and Dolly Mixtures yn 1991.
Roedd hefyd yn aml yn actio rhan Americanwr ar gyfresi teledu Prydeinig.
"Cwympais i mewn cariad gyda Chymru yn syth bin pan 'nes i ddod yma am y tro cyntaf," dywedodd mewn cyfweliad gyda Radio Wales.
"Mae pobl mor gyfeillgar yma. 'Swn i byth yn mynd nôl i'r Unol Daleithiau. Mae Cymru yn gartref i mi."
Bu farw Jim yng Nghaerdydd ar Ragfyr 24 2000 yn 73 oed.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Mehefin

- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
