Katie Owen a'i chariad newydd at yr iaith a diwylliant Cymraeg

Katie OwenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Katie Owen

GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Y tro cyntaf i'r cyflwynydd a'r DJ Katie Owen glywed y Gymraeg mewn sgwrs oedd yn y BBC fel oedolyn – cyn hynny roedd hi'n ystyried yr iaith yn iaith gwaith ysgol ac arholiadau.

Erbyn hyn mae Katie, sy'n dod o Bontyclun a Merthyr, wedi dysgu Cymraeg ac yn llysgennad i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Yn ei gwaith fel DJ mae wedi cefnogi enwau fel Kasabian, Nile Rodgers, Stereophonics a Billy Ocean.

Dyma pum peth rydyn ni wedi ei ddysgu am Katie o'i sgwrs ar y podlediad dysgu Cymraeg Agor y Drws gyda Nia Parry:

Mi wnaeth y siwrne dysgu Cymraeg gychwyn ar raglen Iaith ar Daith ar S4C pan gafodd Katie y cyflwynydd Huw Stephens fel mentor

Meddai: "Pan o'n i'n byw yn Llundain, baswn i'n cyfarfod pobl ac o'n i'n teimlo'n embarassed achos dw i ddim yn siarad Cymraeg o gwbl. A wedyn o'n i'n meddwl, reit, mae'n amser nawr.

"Iaith ar Daith oedd yr adeg 'nes i ddechrau immersio fy hunan yn Gymraeg.

"Mae'n rili profiad gwych ac mae Huw yn mentor gwych, achos mae e'n DJio hefyd ac yn rhannu llawer o miwsig gyda fi.

"I'd never heard of Dafydd Iwan! Ac fi'n cofio y tro cynta' 'nes i wrando ar Yma o Hyd gyda Huw yn y car.

"Ac o'n i'n meddwl, 'Mae pen fi wedi ffrio'. Nawr fi'n ffan mawr o Dafydd Iwan. Felly dwi mor grateful.

"Ac fe welais i bob ran o Gymru yn iawn am y tro cynta', jyst rili hyfryd."

Fel rhan o'r raglen bu raid i Katie ddarlledu ar Radio Cymru am hanner awr yn Gymraeg: "'Nes i rili caru [y profiad] achos fi'n caru miwsig a'r Gymraeg. Ac fi'n caru'r sialens. Felly oedd e'n brofiad rili hwyl."

Katie Owen gyda'i thad Jonny Owen a'i wraig, yr actores Line of Duty Vicky McClureFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Katie Owen gyda'i thad Jonny Owen a'i wraig, yr actores Line of Duty Vicky McClure

Mae Katie yn cydnabod dylanwad ei thad arni, sef y cynhyrchydd a'r actor Jonny Owen, sy'n briod â actores Line of Duty, Vicky McClure

Meddai Katie: "Mae e'n ysbrydoli fi. Dywedodd e [pan o'n i'n blentyn] 'ti'n mynd i garu The Beatles, Cymru a phêl-droed'.

"A fi'n gobeithio fi'n turned out yn iawn."

Bu Katie yn DJio o flaen cefnogwyr pêl-droed yng Nghwpan y Byd yn Qatar ac mi chwaraeodd Sosban Fach fel rhan o'i set.

Erbyn hyn mae'n lysgennad i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac yn brolio Cymru i un wyneb cyfarwydd o gyfresi fel Line of Duty a Trigger Point: "Fi'n caru dangos Cymru i Vicky ac mae hi'n defnyddio 'cwtsh', 'nos da' a 'cariad'.

"Fi'n meddwl bod fi'n ffeindio fy hunan yn connected gyda fy roots, fy ancestors sy'n siarad Cymraeg a 'nes i gwrdd llawer o ffrindiau newydd sy'n siarad Cymraeg.

"Os fi'n gallu gwneud, dwi'n siarad i bobl yn Gymraeg."

'Gorau Cymro, Cymro oddi cartref'

Mae Katie yn falch iawn i fod yn Gymraes, yn enwedig pan oedd hi'n byw yn Llundain am flynyddoedd: "Fi mor falch ac fi'n caru dod o Gymru. A pan fi'n gallu defnyddio fy Nghymraeg, dw i'n teimlo jyst yn falch i ddod o Gymru.

"Dw i'n caru defnyddio'r Gymraeg. Fi'n byw yng Nghaerdydd nawr. Fi'n colli Llundain, ond mae rhywbeth am Gymru sy' jyst yn wahanol.

"Pryd 'nes i fyw yn Lloegr, [oeddwn i yn] Gymraes x10. 'Nes i wisgo fflag o Gymru pan yn DJio. 'Nes i weithio yn America pythefnos yn ôl ac oedd ddim llawer o bobl yno'n gwybod ble mae Cymru ac felly dw i'n caru siarad am Gymru."

Katie a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Katie a'i theulu

Roedd sgwrs gyntaf Katie yn Gymraeg ar raglen Iaith ar Daith

Meddai: "Cyn hynny, 'nes i ddim rili 'nabod rhywun o gwbl sy'n siarad Cymraeg.

"Nawr, mae gen i sawl ffrind sy'n siarad Cymraeg, ond roedd y sgwrs gyntaf yn Gymraeg gyda Huw Stephens."

Dyw Katie dal ddim yn teimlo'n rhugl yn yr iaith ond wrth wylio tîm pêl-droed menywod Cymru cwpl o flynyddoedd yn ôl roedd hi gyda'i chariad Osian, sy'n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, mewn gofod i ffans yn Lloegr ac roedd hi'n teimlo'n rhugl gan mai nhw oedd yr unig Gymry yno.

Meddai: "Ni jyst yn siarad Cymraeg. O'n i'n teimlo fel diva. Pryd bynnag dwi'n siarad gyda fy nghariad mewn gwlad wahanol, dw i'n teimlo'n rhugl.

"Mae'r iaith fel secret iaith."

Katie a'i mamgu a'i thadcuFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Katie a'i mamgu a'i thadcu

Roedd Iaith ar Daith yn drobwynt i Katie o ran adenill y Gymraeg i'w theulu

Mae teulu ei thadcu yn dod o Wrecsam a Phwllheli, meddai: "Mae'r iaith wedi colli yn y teulu ond mae e'n gwneud Scrabble yn Gymraeg bob dydd.

"Ac mae popeth yn y tŷ yn Gymraeg, mae fel Sain Ffagan yno."

Katie gyda'i thadcuFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Katie gyda'i thadcu

Nid oedd llawer o Gymraeg i'w chlywed pan gafodd ei magu ym Merthyr a Phontyclun, gan fyw gyda'i mamgu a'i thadcu am gyfnod, ond mae dysgu'r iaith wedi agor drysau iddi.

Meddai: "O'n i'n meddwl bod y Gymraeg yn jyst GCSE, iaith y dosbarth, un awr yr wythnos [yn unig].

"Nawr 'dw i'n darganfod cerddoriaeth yn Gymraeg, teledu yn Gymraeg, radio yn Gymraeg...

"Fi'n caru jyst immersio fy hunain yn y Gymraeg. Ac o'n i'n meddwl mai miwsig yn Gymraeg yn just corn, ond nawr rap, pop, roc... mae'n rili gwych i weld."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig