Arestio pedwar mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ym Môn yn 1994

Doreen MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu'r Gogledd wedi bod yn adolygu achos Doreen Morris ers 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ar Ynys Môn 32 mlynedd yn ôl.

Cafodd Doreen Morris, 64 oed, ei chanfod yn farw yn ei chartref ger Caergybi ym mis Mawrth 1994.

Cafodd Joseph Carl Westbury ei ganfod yn ddieuog o'i llofruddio mewn achos llys yn 1995, ac roedd hefyd yn gwadu bod yn ei thŷ ar noson ei llofruddiaeth.

Bu farw Mr Westbury yn 2016 drwy hunanladdiad.

Daeth cadarnhad ddydd Mercher fod dyn a thair dynes o ogledd Cymru wedi eu harestio ar amheuaeth o newid cwrs cyfiawnder.

Daeth cwest i farwolaeth Ms Morris yn 2023 i'r casgliad iddi gael ei lladd yn anghyfreithlon.

Clywodd y cwest iddi gael ei thrywanu ar ôl iddi darfu ar ladron oedd yn ei thŷ, ac fe gafodd ei chorff a'r tŷ wedyn eu llosgi.

Cafodd y cwest i farwolaeth Ms Morris ei ailagor yn dilyn ymgyrch gan ei merch, Audrey Fraser.

Mae'r teulu yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf.

Doreen MorrisFfynhonnell y llun, Crimestoppers
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Doreen Morris ei chanfod yn farw yn ei chartref ger Caergybi ym mis Mawrth 1994

'Wastad yn gweithio i sicrhau cyfiawnder'

Mae tîm adolygu troseddau mawr Heddlu'r Gogledd wedi bod yn adolygu'r achos ers 2024.

Dywedodd yr uwch-swyddog adolygu Mark Pierce: "Mae data fforensig, ynghyd ag adolygiad manwl o dystiolaeth tystion wedi rhoi digon o reswm i ni holi pedwar o bobl ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

"Drwy gydol yr adolygiad mae'n meddyliau wedi bod gyda theulu Ms Morris, a dwi'n gobeithio y bydd yr achos yma'n dangos y byddwn ni wastad yn gweithio i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr a'u teuluoedd, dim ots faint o amser sydd wedi pasio."

Mae'r heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r tîm sy'n adolygu'r achos i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.