Prinder radiolegwyr yn bryder i gleifion canser y gogledd

Fe gafodd Tony Williams o Bwllheli ddiagnosis o ganser y prostad yn 2021
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Tony Williams o Bwllheli ddiagnosis o ganser y prostad yn 2021

GanGarry Owen
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae teithio'n bell i gael triniaeth canser yn bryder cyson i grŵp cefnogi cleifion canser Pwllheli a Phen Llŷn.

Yn sgil prinder radiolegwyr a meddygon canser arbenigol yng Nghymru mae nhw hefyd yn poeni y bydd oedi cyn cael canlyniadau a thriniaeth ac felly'n galw am weithredu brys.

Fe gafodd Tony Williams o Bwllheli ddiagnosis o ganser y prostad yn 2021. Fe arweiniodd hynny at nifer o sganiau ac yna triniaeth robotig yn Llundain.

"Fel ysgrifennydd y grŵp dwi yn cael straeon o hyd gan aelodau am y trafferthion oherwydd bod diffyg radiolegwyr a meddygon canser arbenigol yng ngogledd Cymru," meddai.

"Mae nifer yn gorfod mynd i Fanceinion neu Lerpwl, neu i Lundain hyd yn oed am driniaeth."

Disgrifiad,

'Dim chwarae teg' i gleifion canser y gogledd oherwydd diffyg radiolegwyr

Mae Cymru angen 88 yn rhagor o radiolegwyr er mwyn cwrdd â'r gofyn, yn ôl data newydd - mae hynny'n ddiffyg o 28%.

Dywed Coleg Brenhinol y Radiolegwyr fod y prinder yn gallu achosi i gleifion wynebu "oedi peryglus" cyn cael triniaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn "gweithio ar strategaeth gweithlu hirdymor gyffredinol ar gyfer GIG Cymru".

Mae grŵp cleifion canser Pwllheli a Phen Llŷn yn cwrdd yn gyson i gefnogi ei gilydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp cleifion canser Pwllheli a Phen Llŷn yn cwrdd yn gyson i gefnogi ei gilydd

Mae pob aelod o grŵp cefnogi cleifion canser Pwllheli a Phen Llŷn wedi cael profiad o fynd am brofion a sganiau canser ac yn dweud mai disgwyl y canlyniadau yw un o'r pethau mwyaf anodd iddyn nhw.

Mae'r ffaith bod y diffyg bron ddwywaith yn waeth yn y gogledd nag yn y de yn ofid ychwanegol.

"Mae yna deimlad yn gyffredinol nad ydyn ni yn cael chwarae teg y pen yma," ychwanegodd Tony Williams.

"Mae yna dipyn o gwyno hefyd bod pobl yn aml yn mynd i Ysbyty Glan Clwyd am radiotherapi, yn enwedig os ydych chi'n dod o Ben Llŷn.

"Dwi'n meddwl fod y prinder radiolegwyr a meddygon canser yn rhan o'r rheswm pam eu bod yn canoli pethau yn Ysbyty Glan Clwyd"

Dywedodd Clara Day, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod y "bwrdd yn mynd ati'n weithredol i recriwtio i faes oncoleg a radioleg a bod yr amseroedd aros wedi gostwng yn drawiadol ers mis Ebrill."

'Dim digon o swyddi ar gael'

Un o'r problemau mawr o ran prinder gweithlu yn ôl Coleg y Radiolegwyr yw fod swyddi yn cael eu rhewi.

Dywed y coleg bod digon o feddygon yn dymuno bod yn radiolegwyr - roedd 11 cais am bob un swydd hyfforddi arbenigol radioleg yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn 2025.

Y broblem yw bod dim digon o swyddi hyfforddi ar gael i greu y gweithlu sy' angen a dim digon o swyddi arbenigwyr oncoleg a radioleg ar eu cyfer ar ddiwedd yr hyfforddiant.

Mae hynny yn siom i Tony Williams.

"Dydy e ddim yn neud sens ein bod ni yn eu dysgu nhw a wedyn does dim swyddi ar gael - mae hynny yn eu gorfodi nhw i fynd i rywle arall i weithio.

"Pam rhoi nhw drwy cyrsiau os nad oes swyddi iddyn nhw? Dyle fod swyddi ar gael yn y gogledd. Mae galw yma yn bendant."

Byddai mwy o oedi cyn cael canlyniad yn bryder i gleifion, medd Haydn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Byddai mwy o oedi cyn cael canlyniad yn bryder i gleifion, medd Haydn Jones

Un arall sydd wedi cael triniaeth am ganser y prostad yw Haydn Jones o bentre Trefor ger Pwllheli. Fe gafodd ddiagnosis tua chwe blynedd yn ôl.

Mae'r posiblrwydd o oedi cyn cael canlyniadau sganiau a diagnosis yn bryder iddo.

Wrth sôn am ei brofiad ei hun mae'n teimlo fod y cyfnod rhwng cael sgan a disgwyl canlyniadau yn un anodd i bob claf

"Mae yn deimlad hollol wahanol. Roedd fy hyder i lawr a doeddwn i ddim yn cysgu fel o'n i cynt a hyn ar fy meddwl," meddai.

"Roeddwn i yn bryderus mwy nag ofnus gan bod yr ateb ddim yna i fodloni y meddwl a fuaswn i'n meddwl bod lot o bobol eraill yn mynd drwy rywbeth tebyg."

Mewn ymateb i ganlyniadau data Coleg y Radiolegwyr fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cynyddu capasiti diagnostig ym maes radioleg, gan gynnwys cefnogi Academi Delweddu Genedlaethol ac ehangu capasiti hyfforddi mewn radioleg.

"Rydym hefyd yn gweithio ar strategaeth gweithlu hirdymor gyffredinol ar gyfer GIG Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.