'Ail-fyw blynyddoedd o ofn' oherwydd cynllun rhyddhau carcharorion

Mae Karen Haynes yn dweud ei bod hi a'i phlant wedi profi rheolaeth drwy orfodaeth am flynyddoedd yn ystod perthynas a barodd 26 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Abertawe yn dweud ei bod yn "ofni am ei bywyd" ar ôl cael gwybod bod ei chyn-ŵr yn cael ei ryddhau o'r carchar yn gynharach na'r disgwyl, wrth i gynllun newydd i ryddhau carcharorion ddechrau ddydd Iau.
O 1 Hydref bydd rheolau newydd yng Nghymru a Lloegr yn golygu y bydd rhai carcharorion yn treulio llai o'u dedfryd dan glo cyn cael eu rhyddhau ar drwydded.
Dywedodd Karen Haynes, 54, fod cael gwybod y gallai ei chyn-ŵr, Christopher Haynes, gael ei ryddhau'n gynnar wedi achosi iddi hi a'i phlant deimlo fel eu bod yn ail-fyw blynyddoedd o ofn.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Alex Norris, mae Llywodraeth y DU yn deall pryder dioddefwyr, ac mae mesurau newydd yn cael eu cyflwyno i fonitro a rheoli troseddwyr ar ôl iddyn nhw adael y carchar.
Beth yw'r cynllun newydd?
Bydd rhai troseddwyr - a fyddai wedi cael eu rhyddhau ar ôl cwblhau 40% neu 50% o'u dedfryd - yn gallu cael eu rhyddhau ar ôl treulio traean ohoni yn y carchar.
Bydd rhai eraill a fyddai wedi cael eu rhyddhau ar ôl dwy ran o dair o'u dedfryd yn gallu cael eu rhyddhau ar ôl treulio 50% ohoni dan glo.
Bydd tua 700 o garcharorion yn cael eu rhyddhau ar ddiwrnod cyntaf y cynllun, yn ôl amcangyfrifon Llywodraeth y DU, gyda'r newidiadau yn cael eu cyflwyno fesul cam.
Nid yw'r newidiadau yn berthnasol i bob carcharor.
Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd troseddwyr sy'n cael eu rhyddhau yn gorfod dilyn rheolau llym, ac y gallan nhw gael eu galw'n ôl i'r carchar os ydyn nhw'n torri'r amodau hynny.

Cafodd Christopher Haynes ei ddedfrydu i 21 mis o garchar ddechrau'r flwyddyn
Dywedodd Karen iddi hi a'i phlant brofi rheolaeth drwy orfodaeth am flynyddoedd yn ystod perthynas a barhaodd 26 mlynedd.
Cafodd Christopher Haynes, 58, ei ddedfrydu i 21 mis yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe ym mis Mawrth ar ôl pledio'n euog i ymddygiad sy'n rheoli a gorfodi.
Dywedodd Karen fod y broses gyfreithiol wedi cymryd dros bedair blynedd, a bod y posibilrwydd y gallai gael ei ryddhau'n gynnar wedi gwneud iddi gwestiynu sut y bydd hi a'i phlant yn cael eu diogelu.
Disgrifiodd Karen sut y dechreuodd yr ymddygiad gyda sylwadau am ei dillad, cyn datblygu dros y blynyddoedd i ynysu, bygwth a cheisio rheoli bywydau hi a'i phlant.

Mae Karen yn poeni y gallai ei chyn-ŵr geisio cysylltu gyda hi neu'r plant, Tom (chwith) ac Ella (canol)
Esboniodd Karen fod y sefyllfa wedi cyrraedd y pwynt fwyaf difrifol ar ddydd Nadolig 2021.
Ar ôl cysylltu â gwasanaeth 111, dywedodd fod ei merch wedi recordio bygythiad gan ei thad i saethu Karen.
Ar ôl i'r gwasanaeth gael gwybod bod gwn yn y tŷ, gadawodd Karen yr adeilad a chuddiodd y tu ôl i wal gyfagos cyn i swyddogion arfog gyrraedd.
"Ro'n i'n sefyll yna'n meddwl, 'heddiw, dwi'n mynd i farw. Mae rhywun yn mynd i farw'," meddai.
Dywedodd mai'r hyn ddilynodd oedd blynyddoedd o ymchwiliadau, achosion cyfreithiol a'r hyn mae hi'n ei ddisgrifio fel "cam-drin a stelcio ar ôl gwahanu".
'Dim gwarant y byddwn ni'n cael ein cadw'n ddiogel'
Dywedodd Karen fod cael gwybod am y posibilrwydd o ryddhau ei chyn-ŵr yn gynharach wedi gwneud iddi gwestiynu sut y bydd hi a'i phlant yn cael eu diogelu.
Mae hi'n dweud ei bod yn poeni am ba mor gyflym y gallai'r heddlu ymateb os fydd Haynes yn ceisio cysylltu gyda hi gan fod y teulu'n byw mewn ardal wledig.
"Does dim gwarant gan neb y byddwn ni'n cael ein cadw'n ddiogel," meddai.
Mae'r posibilrwydd o'i ryddhau'n gynharach yn golygu dychwelyd at fywyd o larymau panig, cynlluniau diogelwch ac edrych dros ei hysgwydd, meddai Karen.

Roedd Karen wedi edrych ymlaen at gael treulio'r Nadolig gyda'r plant heb orfod poeni am y posibilrwydd y gallai ei chyn-ŵr geisio cysylltu
Mae'r amseru yn arbennig o anodd i'r teulu oherwydd yr hyn ddigwyddodd ar ddydd Nadolig 2021.
Dywedodd Karen nad yw hi na'i phlant wedi cael Nadolig lle maen nhw wedi gallu bod yn sicr na allai ei chyn-ŵr gysylltu â nhw.
"Roedden ni eisiau un Nadolig yn unig," meddai.
"Byddai wedi bod yn arbennig gallu agor y drws ar ddydd Nadolig, mynd allan, mynd i'r eglwys, gwneud beth bynnag roedden ni eisiau ei wneud yn rhydd - heb edrych dros ein hysgwyddau."
Nic Parry: 'Gwarthus' nad oes carchar i fenywod yng Nghymru
- Cyhoeddwyd16 Awst
Comisiynydd y Gymraeg eisiau mwy o rym wedi 'pryderon difrifol' carchardai
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2025
Mae'r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Alex Norris, yn dweud bod y llywodraeth yn deall y pryder y gallai dioddefwyr ei deimlo wrth i ddyddiadau rhyddhau troseddwyr agosáu.
Dywedodd fod mesurau newydd yn cael eu cyflwyno i fonitro a rheoli troseddwyr ar ôl iddyn nhw adael y carchar, gyda'r nod o ddiogelu'r cyhoedd yn well.
Yn ôl Mr Norris, byddai gadael i garchardai redeg allan o le ar gyfer troseddwyr peryglus yn peri mwy o risg i ddioddefwyr.
Esboniodd fod y llywodraeth yn bwriadu creu 14,000 o leoedd carchar ychwanegol, ochr yn ochr â chyflwyno rheolaeth llymach i droseddwyr sy'n cael eu rhyddhau.
Mae'r llywodraeth hefyd yn ehangu'r defnydd o fonitro electronig ar gyfer troseddwyr sy'n gadael y carchar.
Ond dywedodd Karen fod blynyddoedd o geisio sicrhau cyfiawnder yn golygu bod rhaid iddyn nhw baratoi unwaith eto ar gyfer yr hyn allai ddigwydd nesaf.
"Rydyn ni wedi gorfod defnyddio pob modfedd o'r system i gael cyfiawnder," meddai, "ac am beth?"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.