Elfyn Evans yn gobeithio cyrraedd 'y pinacl' drwy ddod yn bencampwr byd

Elfyn EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Evans 17 o bwyntiau o flaen Sami Pajari yn nhabl y WRC cyn dechrau rali Sardinia

GanConnor Owen
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Ag yntau bellach un rali i ffwrdd o ennill pencampwriaeth y byd am y tro cyntaf, mae Elfyn Evans yn mynnu nad yw'n teimlo mwy o bwysau ar ei 'sgwyddau na'r arfer.

Y rali yn Sardinia, Yr Eidal y penwythnos hwn yw'r olaf yn y bencampwriaeth yn sgil canslo rali Saudi Arabia oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Mae gan Evans fantais o 17 o bwyntiau ar frig tabl y WRC ar hyn o bryd, ac felly yn ffefryn clir i gipio'r tlws.

"Dwi 'di cael gyrfa hir yn y gêm 'ma, wrth gwrs mae o be' 'dan ni'n gweithio tuag ata fo, ond 'dio'm yn mynd i newid bywyd adre', 'dio'm yn mynd i newid bywyd day to day yn diwedd," meddai'r gyrrwr o Ddinas Mawddwy ger Dolgellau.

"Mae o'n fwy o nice to have i fi ar y pwynt yma yn hytrach na bod rhaid."

Car Elfyn Evans yn rali ChileFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Evans wedi ennill dwy rali y tymor hwn, yn Sweden ac yn Japan

Mae'r Cymro wedi gorffen yn ail yn y bencampwriaeth ar bum achlysur, gan gynnwys y llynedd pan oedd ar y brig cyn y rali olaf yn Saudi Arabia.

Mae uchafswm o 35 o bwyntiau ar gael yn y rownd olaf yn Sardinia, ac ar hyn o bryd mae Evans 17 pwynt o flaen Sami Pajari a 21 o flaen Oliver Solberg.

Ar hyn o bryd mae Evans ar 230 o bwyntiau, a byddai 19 pwynt arall yn Sardinia yn ddigon i sicrhau ei le ar frig y tabl.

Pe bai Evans yn llwyddo draw yn Yr Eidal, fe fyddai ond y trydydd pencampwr byd o wledydd Prydain erioed, gan ddilyn Colin McRae a Richard Burns.

Tlws y WRC ydi'r 'holy grail'

Dywedodd Edwyn Evans, perthynas a chyd-yrrwr Gwyndaf Evans, tad Elfyn, fod "pinacl" ei yrfa o fewn cyrraedd.

"Mae o'n yrrwr da, mae o'n gwybod be' ydi'r grefft, mae o'n gwybod be' 'di anghenion y grefft, mae ganddo wybodaeth fecanyddol gre' iawn, ac mi fyddai wrth ei fodd yn ennill y bencampwriaeth," meddai.

"Dyna ydi'r pinacl, hwnna ydi'r holy grail os lici di.

"Ond dydi o ddim yn rhoi gormod o bwysau ar ei hun, mae o'n rhedeg pob un rali i'r gorau gallith o, ac os daw'r bencampwriaeth, mi ddaw."

Elfyn EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd cyn dechrau'r rali olaf y llynedd, ond fe orffennodd yn chweched yn Saudi Arabia

Yn ôl y sylwebydd ralïo, Mark James, mae pethau'n gallu newid yn sydyn iawn mewn cystadlaethau fel hyn.

"Nawr yw'r achlysur gorau iddo falle i ennill y bencampwriaeth a 'neud beth mae e wedi bod yn chwilio am ers sawl blwyddyn," meddai.

"Ond wrth gwrs, nid dim ond beth mae fe'n 'neud fydd yn bwysig dros y penwythnos ond beth fydd Sami Pajari ac Oliver Solberg yn 'neud.

"Ac wrth gwrs pethau fel punctures, welon ni yn Chile beth sy'n gallu digwydd, yn anffodus, gyda punctures i Elfyn - yn cwympo o'r ail safle i bumed ar y diwrnod olaf."

Ychwanegodd: "Croesi bysedd dros y penwythnos fydd Elfyn yn dod 'nôl i Gymru fel pencampwr y byd."

'Mae'n haeddu hwn'

Mewn cyfweliad ar Radio Cymru, cyfeiriodd cyflwynydd Ralïo ar S4C, Emyr Penlan at ba mor anlwcus y mae Evans wedi bod ers 2020.

Roedd Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd cyn dechrau'r rali olaf y llynedd, ond fe orffennodd yn chweched yn Saudi Arabia.

Cyfeiriodd hefyd ar ddigwyddiad ym Monza pan lithrodd Evans oddi ar y ffordd ac fe gollodd fantais o 14 pwynt i Sébastien Ogier.

Ond mae'r cyflwynydd yn ffyddiog y gallai Evans gipio'r bencampwriaeth am y tro cyntaf eleni.

"Mae'n haeddu hwn, mae wedi bod yn gyson trwy'r flwyddyn," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig