Oedi hyfforddiant jetiau ar ôl i ddau ddianc o awyren gyda pharasiwtiau

Disgrifiad,

Y foment oedd rhaid i ddau ddianc o awyren gyda pharasiwtiau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Awyrlu Brenhinol (RAF) yn oedi hyfforddiant ar gyfer jetiau ymladd Hawk "dros dro" fel "mesur rhagofalus" ar ôl i ddau beilot ddianc o un o'r awyrennau cyn iddyn nhw daro'r ddaear ar Ynys Môn.

Roedd yr awyren Hawk T2 yn hedfan allan o orsaf RAF Fali pan syrthiodd i'r ddaear yn ardal Pencarnisiog.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y ddau wedi medru gadael yr awyren yn saff, cyn cael eu hedfan i'r ysbyty am driniaeth.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd roedd y peilotiaid yn cael eu trin am fân anafiadau.

Ychwanegodd y weinyddiaeth fod y ddau beilot wedi parasiwtio i'r ddaear, gyda'r awyren yn plymio ar ei thrwyn i gae, gan ffrwydro wrth iddi daro.

Nos Fercher dywedodd yr awyrlu eu bod wedi penderfynu oedi'r hyfforddiant wrth i ymchwiliadau barhau.

Mae'r heddlu'n annog y cyhoedd i osgoi'r ardal.

AwyrenFfynhonnell y llun, Lewis Burgess
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa wedi'r ddamwain yn ardal Pencarnisiog

Dywedodd yr heddlu bod hofrenyddion Gwylwyr y Glannau ac Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyrraedd safle'r digwyddiad sy'n agos at safle RAF Fali.

Yn ôl un llygad-dyst a siaradodd gyda North Wales Live roedd e'n gwylio'r awyren yn codi i'r awyr cyn y ddamwain.

Dywedodd Pete Bennett: "Ro'n i'n gwybod yn syth ei fod mewn trafferth - yn syth wrth i'r awyren godi, roedd 'na fflam oren, ac wrth i'r awyren gyflymu, roedd o wedi mynd ar dân.

"Wrth iddo godi i'r awyr wnaeth y fflamiau fynd ond oedd o'n amlwg mewn trafferth.

"Roedd yn codi i'r awyr ar ongl serth ac wedyn roedd 'na ddau glec mawr a welais y ddau beilot gyda'u parasiwtiau wedi agor."

Neville Evans ac Ollie Zalot
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Neville Evans (chwith) yn falch nad oedd canlyniad y ddamwain yn waeth ac Ollie Zalot yn dweud iddo glywed "sŵn ffrwydrad mawr"

Dywedodd llygad-dyst arall, Ollie Zalot, ei fod yn pryderu i ddechrau y gallai pobl fod wedi cael eu hanafu gan fod y ddamwain wedi digwydd yn agos at adeiladau.

"'Nes i weld y parasiwtiau'n disgyn," meddai "felly 'nes i dybio eu bod nhw [y peilotiaid] yn iawn".

Dywedodd Mr Zalot wrth BBC Cymru ei fod yn gyrru ar yr A55 gerllaw pan glywodd "sŵn ffrwydrad mawr".

"O'n i'n gweld mwg ym mhobman, ond oedd e'n edrych fel bod e wrth ymyl iard fferm, felly o'n i'n meddwl efallai mai tân o goelcerth oedd e.

"Ac wrth i mi gyrraedd yno, 'nes i weld bod y fflamau yn rhy fawr ar gyfer tân coelcerth.

"Dim ond gobeithio bod pawb yn iawn oeddwn i. Roedd yn edrych yn agos at adeiladau.

"Dyna beth oedd yn fy mhoeni."

Dywedodd y cynghorydd o Ynys Môn, Neville Evans, ei fod yn credu ein bod yn "lwcus iawn" nad oedd y ddamwain yn waeth o ystyried pa mor agos oedden nhw at bentref a safle carafanau.

"Mae'n agos iawn, iawn at ardaloedd poblog a chyfleusterau," meddai.

Disgrifiad,

Ongl arall o'r foment y bu rhaid i ddau beilot ddianc o awyren RAF

Mae'r ddwy ambiwlans awyr a oedd ar y safle wedi glanio yn Ysbyty Queen Elizabeth yn Birmingham, lle mae'r Ganolfan Frenhinol ar gyfer Meddygaeth Amddiffyn.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod y ddau beilot wedi dianc o'r awyren drwy ddefnyddio eu parasiwtiau cyn i'r Hawk T2 daro'r ddaear.

Dywedodd y Llu Awyr Brenhinol fod yr awyren yn hedfan allan o RAF Fali a bod "ymchwiliad wrthi'n cael ei gynnal", gan ychwanegu na fyddai'n "gwneud sylw pellach ar hyn o bryd".

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Wes Streeting fod y ddau aelod o'r criw wedi cael eu cludo i'r ysbyty ac y byddai ymchwiliad yn edrych ar sut a pham y digwyddodd y ddamwain.

Disgrifiad,

'Arogl petrol amlwg' ger safle damwain awyren ar Ynys Môn meddai'r gohebydd Liam Evans

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn "falch ac yn rhyddhad mawr" nad oedd y peilotiaid wedi cael eu "hanafu'n ddifrifol", gan "ddymuno adferiad buan i'r criw."

Dywedodd arweinydd Reform UK Cymru, Helen Jenner, ei bod wedi tyfu i fyny ym Modorgan, ger RAF Fali, a bod y ganolfan yn "rhan o wead Ynys Môn".

Ychwanegodd fod RAF Fali wedi "hyfforddi cenedlaethau o beilotiaid awyrennau jet cyflym" a'i bod yn falch bod yr ynys yn "gartref i'r dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu yno".

Dywedodd yr AS dros Fangor Conwy Môn fod y digwyddiad wedi ei gadael yn "bryderus iawn", gan anfon ei meddyliau at y criw, eu teuluoedd a phawb yn y ganolfan.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig