Claudia Winkleman yn darllen stori gan Huw Aaron cyn The Celebrity Traitors

- Cyhoeddwyd
Beth am glywed Claudio Winkleman yn darllen stori fach am fochyn yn byw ymhlith y mwncïod gan yr awdur Cymraeg Huw Aaron, cyn gwylio The Celebrity Traitors ar 1 Hydref?
Mae'n swnio'n freuddwyd go ryfedd, ond nid breuddwyd mohoni.
Am 18:50 ar 1 Hydref, bydd cyflwynydd cyfresi The Traitors, Claudia Winkleman, yn darllen Monkeypig gan Huw Aaron ar raglen Bedtime Story, CBeebies.
Yna am 20:00, â'r plant bach yn eu gwelâu, mae disgwyl i filiynau o bobl wylio Claudia Winkleman yn croesawu'r sêr fydd yn cystadlu yn ail gyfres The Celebrity Traitors, gan gynnwys y Cymro a'r actor Michael Sheen.
"Mae amseru y peth yn gyffrous iawn, a beth sy'n ei wneud yn fwy cyffrous yw bod Y Lolfa newydd gyhoeddi fy addasiad Cymraeg o Monkeypig sef Mwnci Mochyn," eglurodd Huw Aaron.

Huw Aaron gyda Mwnci Mochyn, a Claudia Winkleman gyda Monkeypig - stori ddoniol Huw yn Gymraeg a Saesneg. Y Lolfa sydd wedi cyhoeddi Mwnci Mochyn a Puffin Books sydd wedi cyhoeddi Monkeypig
Mae'r awdur a'r arlunydd llyfrau Cymraeg a Saesneg i blant yn cyfaddef nad yw'n wyliwr ffyddlon o'r gyfres, ond mae'n dweud bod darlleniad o Monkeypig yn ddewis addas.
Yn syml mae The Traitors yn gêm rhwng 21 o gystadleuwyr sy'n cael eu rhoi mewn castell. Bydd Claudia Winkleman yn dewis criw bychan o fradwyr, tra bydd eraill yn ffyddlon - a'r gêm yw penderfynu pwy sy'n dweud celwydd am bwy ydyn nhw.

Claudia Winkleman gyda chystadleuwyr The Celebrity Traitors eleni gan gynnwys Michael Sheen
Felly pam bod y rhaglen i blant, Bedtime Story, sy'n gwahodd gwahanol sêr a wynebau cyfarwydd i ddarllen stori cyn cysgu wedi dewis Monkeypig ar gyfer eu darllenwr gwadd, Claudia Winkleman?
Mae Monkeypig yn stori ddoniol am Molly sy'n byw yn y jwngl gyda'r holl fwncïod eraill, yn dawnsio, ac yn chwaere'n wirion yn uchel ym mrigau'r coed. Ond mae gan Molly gyfrinach. Mae Molly'n fochyn.
Mae un mwnci, Norman, yn amheus ac yn credu bod mwnci ffug yn eu plith, ac felly mae'n dyfeisio tasgau i ddod o hyd i bwy bynnag sy'n esgus bod yn fwnci.
Ychwanegodd Huw: "Bydd yn rhaid i chi wylio neu darllen y llyfr i wybod os y bydd cyfrinach Molly neu Magi yn Mwnci Mochyn yn cael ei ddatgelu, ond wrth feddwl bod y stori yn cynnwys rhyw fath huniaeth gudd a chyfres o brofion, mae'n amlwg bod tîm y rhaglen wedi rhoi bach o feddwl i mewn i hwn a wedi dewis y llyfr yma wrth i'r Traitors ddod yn ôl.
"Dwi wrth fy modd achos dyw llyfrau plant ddim yn cael lot fawr o sylw yn y cyfrynga felly'n anffodus mae'n cymryd rhyw fath o gysylltiad gyda'r byd selebriti neu gyfryngau lletach i gael sylw mawr, ond os ydy hynny'n gwneud i fwy o bobl a phlant i ddarllen y stori - yna gwych.
"A dwi'n siŵr y gwneith Claudia jobyn go dda o ddarllen y llyfr."
Cyhoeddi llyfrau plant yn Gymraeg a Saesneg
Nid dyma'r tro cyntaf i un o lyfrau Huw, a gipiodd wobr plant y flwyddyn Waterstones eleni gyda'i gyfrol Sleep Tight Disgusting Blob, ddenu darlleniad gan enw mawr.
"Llynedd 'nath yr actor Hugh Bonneville ddarllen Sleep Tight Disgusting Blob, eto i Bedtime Story, oedd hwnna'n cŵl ac yn gyffrous," meddai.
Gobaith Huw wrth gyhoeddi llyfrau i blant yn Gymraeg ac yn Saesneg yw annog mwy o bobl i brynu ei lyfrau'n Gymraeg, ac i godi ymwybyddiaeth am yr iaith hefyd.
Eglurodd: "Dwi wedi cael fy ysbrydoli gan bobl fel Caryl Lewis a Manon Steffan Ros - mae eu llyfre nhw ar lwyfan ehangach a byd-eang ac mae hwnna wedyn yn annog pobl i feddwl wna i bigo lan y fersiwn Gymraeg - dyna ydi iaith gyntaf yr awduron yma."

Mae Huw yn awdur a darlunydd llyfrau plant toreithiog yn y Gymraeg a Saesneg
The Celebrity Traitors
Ar ôl gwylio Claudia Winkleman yn darllen ei stori ddoniol am fochyn sy'n byw ymhlith y mwncïod, a fydd Huw yn gwylio The Celebrity Traitors hwyrach ymlaen?
"I fod yn hollol onest 'sa i wedi gwylio Traitors o'r blaen, dwi'n un o'r ychydig bobl yn y wlad sydd heb ac mae pawb yn dweud bod rhaid i mi.
"Gan bod Claudia wedi darllen fy llyfr i, wna i roi cyfle i'w rhaglen hi heno.
"Hefyd chwarae teg i Michael Sheen - rhwng bod yn Owain Glyndŵr a'i ymchwiliadau i ollwng gwastraffion tocsig mae'n ddyn prysur, ac yn cynrychioli Cymru yn dda iawn. C'mon Sheen!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd9 Chwefror

- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd26 Mawrth

- Cyhoeddwyd6 Chwefror