Matt Tebbutt: Bwyd cysur a chynhwysion Cymreig

Matt Tebbutt
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Matt Tebbutt yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, yn bennaf yn cyflwyno rhaglenni coginio ar y BBC ar y penwythnosau.

Yn frodorol o dde-ddwyrain Cymru, mae Matt yn i'w weld ar y rhaglen Saturday Kitchen, ac mae newydd gyhoeddi llyfr sy'n cyfuno ei gariad tuag at fwyd a phrofiadau personol gyda galar.

Yn siarad gyda Cymru Fyw, mae Matt yn trafod ei fywyd a'i yrfa, a'i fenter ddiweddara' gyda'r llyfr newydd.

Plentyndod yng Nghymru

Er iddo gael ei eni yn Lloegr, symudodd teulu Matt i Gwmbrân pan oedd yn fabi, cyn iddynt symud i Gasnewydd ac yna i'r brifddinas.

"'Naeth fy nhad ein symud ni i Gymru pan o'n i tua tri mis oed. 'Nes i dyfu fyny yn ardal Cwmbrân ac o'n i'n byw yno am rhyw 10 i 12 mlynedd.

"Yna 'naethon ni symud i Gasnewydd, ble o'n i'n byw am y 10 i 12 flynedd canlynol."

Dywed Matt iddo gael plentyndod hapus yng Nghymru gyda bwyd bob amser yn chwarae rhan ganolog ym mywyd y teulu.

"Doedd gennym ni erioed lawer o arian, gan fynd ar wyliau yn y garafán - y pedwar ohonom ni a'r ci. Roedd fy nhad wrth ei fodd yn pysgota, ac roedd paratoi a bwyta prydau da'n bwysig iddo.

"Roedd fy rhieni'n anturus, ac oedden ni wastad yn bwyta rhyw gawsiau cryf, cawl pysgod neu bara garlleg... roedd e'n dod â chysur i ni, ac roedden ni gyd yn eistedd rownd y bwrdd bach."

Matt Tebbutt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Matt yn cyflwyno Saturday Kitchen yn achlysurol ers 2009, ac yn gyflwynydd parhaol ar y gyfres ers 2017

Ysgrifennu am fwyd a galar

Yn ei fenter ddiweddara' mae Matt wedi sgrifennu llyfr, Legacy Kitchen, sy'n edrych ar sut mae bwyd yn ein cysylltu â phobl yr ydym wedi eu colli. Mae Matt yn agor ei galon am ei atgofion o dyfu i fyny yng Nghymru, a pham fod bwyd cysur mor bwerus.

Wedi blynyddoedd o gyhoeddi teyrngedau ar ei raglen deledu i gogyddion a oedd wedi marw, mae Matt yn sylweddoli cymaint y mae pryd o fwyd yn gallu cysuro rhywun mewn amseroedd anodd fel galar.

"Dwi'n troi at y 'clasuron' - y bwyd cysur 'dyn ni'n ei 'nabod. Mae bwyd yn cynhesu'r galon ac rwy'n hoffi slow cooks.

"Rwy'n cofio mynd i dŷ fy mam-gu a hithau wedi paratoi oxtail stew, ac rwy'n cofio meddwl mai dyna'r bwyd mwyaf blasus i mi fwyta erioed. Pwdin gludiog llawn siwgr, cwstard, jam... dim byd rhy ffansi, jest bwyd da safonol."

I Matt, mae pwysigrwydd bwyd mewn amser galar neu hiraeth yn ymwneud â'r aroglau a'r atgofion sy'n ein tynnu yn ôl i amser mwy diogel a hapus:

"Mae arogl yn gallu bod fel trigger i rai pobl... pan chi'n arogli rhywbeth mae'n gallu eich anfon chi i ryw amser neu le, gan eich codi o ble bynnag ydych chi ar y pryd."

Yn y llyfr mae Matt yn cydweithio gyda phobl sydd wedi profi galar, a thrafod beth yw'r bwydydd sydd wedi eu helpu drwy gyfnodau anodd.

Angen 'gweiddi mwy' am gynhwysion Cymru

Er bod pryd traddodiadol fel cawl neu gocos a bara lawr yn bethau arbennig, mae Matt yn credu mai cynhwysion crai Cymru yw ein cryfder.

"Rwy'n credu bod Cymru'n ofnadwy o lwcus o ran y cynhwysion sydd yma, ond 'dy'n ni ddim yn dda am ddathlu beth sydd gennym... mae Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon wedi gwneud hyn ers blynyddoedd, ac ry'n ni braidd yn swil o wneud hyn yng Nghymru.

"Alla' i brynu bowlen o gregyn gleision yn Llundain a ddaeth o Ynys Mon, ac wrth gwrs mae ganddon ni gig oen sydd yn bendant ymysg y gorau yn y byd."

Saturday kitchen medi 2026
Disgrifiad o’r llun,

Matt ar Saturday Kitchen ar 26 Medi eleni. Ar y rhaglen gydag o oedd y ddau chef John Chantarasak a Anna Haugh, yr actorion Vicky McClure a Jonny Owen, gyda Olly Smith yn dewis y gwinoedd

Diwylliant bwyd Caerdydd

Mae Matt, sydd bellach yn byw yn Sir Fynwy, yn gweld newid sylweddol yn niwylliant bwyd yn y brifddinas dros y degawdau diwethaf.

O'i gymharu â phan agorodd ei fwyty ei hun tua throad y mileniwm, meddai, mae'n disgrifio'r ddinas heddiw fel un sy'n cynnig opsiynau di-ri.

"Mae'r sin fwyd ac adloniant yng Nghaerdydd wedi newid yn aruthrol. Mae gymaint o ddewis yma bellach... y farchnad, ble mae 'na gymaint o fwydydd Cymreig da ar gael - mae'n rhesymol yno a gymaint o stondinau a bwydydd blasus. Yn amlwg, mae'r stondin cacennau cri yno'n chwedlonol!"

Mae Matt yn dweud ei fod i ble bynnag mae'n teithio yn y byd, a bwyta'r bwydydd mwya' crand, does unman yn dod agos i'r bwydydd syml o adref, ac mae ei atgofion o'i blentyndod yng Nghymru, a chynhwysion Cymreig, mor fyw ag erioed.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig