Gall methiannau'r heddlu olygu 'risg sylweddol' i fywyd yn ôl crwner

Bu farw Eddie Hill a Jayden Long ar ôl mynd ar goll mewn amodau gaeafol eithafol yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Fe allai mwy o bobl farw ar fynyddoedd oni bai bod yr heddlu'n gwella'r ffordd y maen nhw'n delio â galwadau 999 sy'n cael eu datgysylltu meddai crwner.
Cafodd cyrff dau gerddwr ifanc o Norfolk, Eddie Hill, 20, a Jayden Long, 19, eu canfod yn farw ar Grib y Ddysgl yn Eryri ym mis Chwefror diwrnod ar ôl i alwad gan Mr Long gal ei ddatgysylltu.
Er i swyddogion geisio ei ffonio'n ôl, dywedodd y crwner cynorthwyol Sarah Riley mai ychydig iawn o ymdrechion pellach cafodd ei wneud i adnabod pwy oedd yn defnyddio'r ffôn.
Dywedodd hefyd ei fod wedi cymryd mwy na thair awr i roi gwybod i dimau achub mynydd am yr alwad.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud eu bod wedi cymryd camau i gryfhau eu polisïau a'u gweithdrefnau.
Teyrngedau i ddau ddyn ifanc 'rhyfeddol' fu farw ar Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
Dau ddyn ifanc wedi marw ar ôl mynd ar goll ar Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
Bu farw'r bechgyn ar ôl treulio noson mewn amodau gaeafol eithafol.
Dywedodd adroddiad allanol, 'A Prevention of Future Deaths' fod Mr Long wedi gwneud galwad 999 i Heddlu'r Gogledd am 16:27 ar 18 Chwefror.
Cafodd y cysylltiad ei golli ar ôl iddo ddweud "helo" ac "allwch chi fy nghlywed?".
Dywedodd y tîm achub mynydd wrth y cwest i farwolaethau'r bechgyn nad oedd ganddyn nhw ddigon o wybodaeth am y lleoliad na natur galwad 999 Mr Long er mwyn gallu ymateb yn syth.
Yn dilyn ymholiadau pellach, gan gynnwys cysylltu ag aelodau'r teuluoedd, aeth timau achub mynydd ati i chwilio o gwmpas y safle diwethaf i'r bechgyn cael eu gweld ond welon nhw ddim byd.
Fe benderfynon nhw barhau â'r chwilio y bore canlynol.
Daeth y gwasanaethau achub o hyd i gyrff y ddau ar 19 Chwefror, ddiwrnod ar ôl i'r alwad gael ei gwneud.
'Risg sylweddol o farwolaethau pellach'
Mewn adroddiad i atal marwolaethau yn y dyfodol, nododd Ms Riley bryderon ynghylch diffyg canllawiau a hyfforddiant i staff sy'n delio â galwadau brys o ardaloedd mynyddig anghysbell, yn ogystal â diffyg trefniadau i rannu gwersi a ddysgwyd.
Dywedodd: "Os na chaiff y pryderon hyn eu datrys, mae perygl gwirioneddol y gallai mwy o bobl golli eu bywydau."
Mewn ymateb, dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi diwygio gweithdrefnau eu canolfan gyfathrebu ers hynny.
Mae'r newidiadau'n cynnwys canllawiau penodol ar gyfer delio â galwadau 999 distaw neu alwadau sy'n cael eu datgysylltu mewn ardaloedd anghysbell neu fynyddig.
Dywedodd y llu hefyd fod newidiadau wedi'u rhoi ar waith yn sgil y digwyddiad, a bod y pryderon a gafodd eu nodi gan y crwner bellach wedi cael sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.