Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori ger Caersŵs

A489Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 10:00 fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i ddyn farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ym Mhowys dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A489 ger Caersŵs tua 10:00 fore Sul yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car Honda Civic a lori Renault.

Cafodd gyrrwr y car ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr, ond bu farw'n ddiweddarach.

Mae teulu'r dyn yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig