Esther Rantzen: 'Dynes glên oedd yn brwydro a'n trio helpu pobl eraill'

- Cyhoeddwyd
Mae'r ddarlledwraig a'r ymgyrchydd y Fonesig Esther Rantzen wedi marw yn 86 oed. Roedd hi'n un o wynebau mwyaf cyfarwydd teledu Prydain wedi iddi gyflwyno'r rhaglen BBC That's Life am dros 20 mlynedd.
Mi wnaeth hefyd sefydlu Childline, sef gwasanaeth 24 awr yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc.
Yn y blynyddoedd diwethaf, ar ôl cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint, daeth Esther Rantzen yn lais amlwg yn yr ymgyrch dros newid y gyfraith ar gymorth i farw.
Un sy' wedi ei chyfarfod hi yw Alun Clwyd Thomas fu'n rhoi teyrnged iddi ar Dros Frecwast ar Radio Cymru.

Mi wnaeth Alun gyfarfod ag Esther Rantzen pan oedd yn gweithio i BT yn 2004-5 wrth iddo gyflwyno siec iddi ar ran BT oedd yn rhoi adnoddau ar gyfer Childline am ddim.
Ond atgof cynharaf Alun ohoni yw gweld hi ar y teledu fel plentyn: "Pan o'n i'n blentyn yn y saithdegau, oedden ni'n mynd i dŷ nain bob nos Sadwrn.
"A holl bwynt y noson oedd That's Life. Fel teulu oedden ni i gyd yn eistedd yn barod i'w gwylio hi yn fyw.
"Oedd hi'n ddynes arbennig o neis, yn gwneud i fi deimlo'n gyfforddus iawn o'i chyfarfod hi y tro cyntaf.
"Halen y ddaear math o berson. O'n i'n teimlo'n agos ati yn syth ar ôl cyfarfod hi."
Yn 2016 mi wnaeth Alun gyfarfod ag Esther Rantzen eto yn annisgwyl iawn, fel mae'n sôn: "O'n i ym Mhrâg dros y flwyddyn newydd yn 2016 os dw i'n cofio'n iawn. Oedden ni yn y fynwent Iddewig ar ddiwrnod flwyddyn newydd - eira gwyn ac oer a diwrnod hyfryd.
"A wnes i deimlo rhywun yn rhoi llaw ar fy ysgwydd i a wnes i droi rownd a dywedodd hi, 'Hello, Alun.'
A o'n i jyst methu credu bod hi 'di cofio enw fi. Cawsom ni sgwrs sydyn ac oedd hi yno efo 'i merch yn mwynhau'r flwyddyn newydd ym Mhrâg."
'Halen y ddaear'
Erbyn hyn mae Childline wedi helpu miliynau o blant drwy alwadau ffôn, sesiynau cwnsela ac adnoddau ar-lein.
Dywedodd Alun: "Roedd o'n bwysig iawn iddi. Mi oedd hi'n brwydro am flynyddoedd dros blant a sefydlu Childline yn 1986 er mwyn diogelu plant a bod nhw'n gallu ffonio am ddim.
"A hefyd, yn ddiddorol iawn, os oedd plentyn yn ffonio, byddai'r rhiant neu'r gofalwr neu'r aelod o'r teulu ddim yn gweld y rhif ar y bil.
"Roedd o'n neud o hyd yn oed mwy diogel i'r plentyn alw. Ac mae hi 'di neud cymaint o ddaioni o ran diogelwch pobl ifanc dros y blynyddoedd.
"Yn ddiweddar, [mi fydd yn cael ei chofio] am y salwch a roedd hi wedi talu i fynd i Dignitas, ond yn anffodus yn y diwedd roedd hi'n rhy sâl i fynd.
"Dw i'n meddwl [fydd hi'n] cael ei chofio fel dynes glên oedd yn brwydro a trio helpu pobl eraill."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 awr yn ôl
