Dau beilot 'yn ôl adref' ar ôl i awyren ddisgyn ar Ynys Môn

Dau beilot yn dianc o awyren gyda pharasiwtiau, a phelen o dân wrth i'r awyren daro'r ddaearFfynhonnell y llun, John Heyworth
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y ddau beilot ddianc o'r awyren gyda pharasiwtiau cyn iddi ddisgyn mewn cae

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Awyrlu Brenhinol (RAF) wedi cadarnhau bod dau beilot wnaeth ddianc cyn i'w hawyren ddisgyn ar Ynys Môn yn ôl adref ac yn gwella o'u hanafiadau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Pencarnisiog ddydd Mercher 23 Medi ar ôl i awyren Hawk T2 oedd wedi hedfan allan o orsaf RAF Fali, syrthio i'r ddaear.

Cyn iddi ddisgyn, roedd y ddau beilot wedi parasiwtio i'r ddaear, gyda'r awyren yn plymio ar ei thrwyn i gae, gan ffrwydro wrth iddi daro.

Wedi'r digwyddiad cafodd hyfforddiant ar gyfer jetiau ymladd Hawk T1 a Hawk T2 ei atal dros dro wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i'r hyn ddigwyddodd.

Disgrifiad,

Y foment pan wnaeth y ddau beilot ddianc o awyren gyda pharasiwtiau

Cafodd y ddau beilot driniaeth yn Ysbyty Queen Elizabeth yn Birmingham, lle mae'r Ganolfan Frenhinol ar gyfer Meddygaeth Amddiffyn.

Wrth gadarnhau ddydd Iau bod y ddau bellach adref ac yn gwella, dywedodd yr RAF bod y peilotiaid eisiau "diolch o galon i'r gwasanaethau brys, a phawb wnaeth eu cefnogi yn union wedi'r digwyddiad".

Maen nhw hefyd yn hynod o ddiolchgar am y caredigrwydd, anogaeth a dymuniadau da y maen nhw wedi eu derbyn gan bobl o bob cwr o'r byd, ac yn enwedig eu cydweithwyr yn yr RAF a phobl Ynys Môn.

Ychwanegodd y datganiad bod y "gefnogaeth sydd wedi ei dangos dros yr wythnos ddiwethaf yn golygu llawer i'r peilotiaid a'u teuluoedd wrth iddyn nhw ddechrau gwella gartref" a'u bod yn gofyn yn garedig am breifatrwydd wrth iddyn nhw wella.

Dywedodd yr RAF bod yr ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd yn parhau.

Straeon Perthnasol

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.