Penodi bardd yn artist cyntaf Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Meleri Davies wedi'i phenodi'n artist cyntaf Parc Cenedlaethol Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae bardd o Feirionnydd wedi'i benodi'n artist cyntaf Parc Cenedlaethol Eryri i helpu cymunedau lleol i gyfrannu at gynlluniau i ddatblygu Plas Tan y Bwlch ger Maentwrog.
Bydd Meleri Davies yn defnyddio barddoniaeth a dulliau creadigol eraill i ymgysylltu â thrigolion fel rhan o brosiect Plas y Bobol, sy'n anelu at ddatblygu pencadlys y parc a chanolfan gymunedol yn y plasty hanesyddol.
"Dwi'n gweld fy hun fel pont, rhwng y Parc a'r cymunedau lleol sy'n amgylchynnu'r Plas," meddai.
"Mae 'na gyfoeth o wybodaeth lleol a chymunedol sydd angen bwydo fewn i'r broses."
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio gweithio gyda thrigolion mewn ffordd greadigol i gyfleu straeon a negeseuon pwysig i'r parc wrth i gynlluniau ar gyfer dyfodol y safle gael eu datblygu.
'Dod nôl adra'
Cafodd Meleri ei magu yng Nghwm Prysor ym Meirionnydd, ac er ei bod bellach yn byw yn Nyffryn Ogwen, mae ganddi gysylltiadau personol â'r ardal.
"Ma'r ardal a'r ganolfan yn bwysig i mi, nesi actually priodi yna!" meddai.
"Hogan o Feirionnydd ydw i a dwi wrth fy modd mod i'n cael dod nôl adra i weithio ar y prosiect yma."
Mae Meleri wedi gweithio ym maes datblygu cymunedol ers blynyddoedd, gan gynnwys fel prif weithredwr Partneriaeth Ogwen am ddeng mlynedd.
Dywedodd y byddai'n defnyddio'r profiad hwnnw i gysylltu â mentrau cymunedol lleol a gweithio gyda'r parc ac artistiaid eraill i drefnu gweithdai creadigol.
"Mae'r hanes o chwarelwyr yn bwysig i fi hefyd. Mi fyddai bendant isio rhoi sylw i hanes y chwarelwyr fel rhan o'r ganolfan hefyd," meddai.
Fel rhan o'i gwaith cychwynnol, bydd Meleri yn rhannu cerdd ar Instagram dros y penwythnos.
'Cryfhau perthynas y Parc â chymunedau lleol'
Dyma'r tro cyntaf i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri benodi artist mewn gwasanaeth, gan ddilyn esiampl sefydliadau eraill yng Nghymru sydd wedi defnyddio creadigrwydd i gefnogi eu gwaith.
Dywedodd Meleri fod creadigrwydd wedi chwarae rhan bwysig yn ei bywyd ei hun, a'i bod am rannu hynny gydag eraill.
"Mae creadigrwydd wedi bod yn rym trawsffurfiol yn fy mywyd i a dwi'n gobeithio gallu rhannu hynny i ymgysylltu ac ysbrydoli yn ystod fy nghyfnod fel Artist Mewn Gwasanaeth," meddai.
"Dwi'n sicr y bydd gwneud hynny yn cryfhau perthynas y Parc â chymunedau lleol wrth iddyn nhw ddatblygu Plas y Bobol."
Bydd yn gweithio am bron i flwyddyn gyda chymunedau Maentwrog, Llanfrothen, Ffestiniog, Talsarnau, Porthmadog a Phenrhyndeudraeth. Bydd y gwaith yn rhoi pwyslais penodol ar gynnwys pobl ifanc a chynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu eu sgiliau creadigol.
Dywedodd Naomi Jones, Cyfarwyddwr Rheolaeth Tir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y bydd cydweithio â chwmni theatr ieuenctid Frân Wen ac artistiaid lleol eraill yn creu cyfleoedd newydd i bobl ifanc.
"Trwy weithgareddau sy'n cyfuno'r amgylchedd naturiol, y Gymraeg a mynegiant creadigol, bydd pobl ifanc yn gallu datblygu sgiliau, meithrin hyder a chryfhau eu cysylltiad â'r dirwedd o'u cwmpas a'u hunaniaeth ddiwylliannol."
Cynllun i droi Plas Tan y Bwlch yn bencadlys - yn hytrach na'i werthu
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2025
Oriel: Harddwch Eryri wrth i'r Parc Cenedlaethol ddathlu'r 75
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
Pum munud gyda Bardd y Mis: Meleri Davies
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2023
Mae prosiect Plas y Bobol yn rhan o gynlluniau i sicrhau dyfodol hirdymor i Blas Tan y Bwlch, plasty rhestredig Gradd II a gafodd ei roi ar werth am £1.2m yn 2024.
Roedd yr awdurdod wedi dweud nad oedd yn gallu parhau i ariannu'r adeilad, ond cafodd y cynlluniau i'w werthu eu gohirio wrth i aelodau gefnogi'r syniad o'i drawsnewid yn bencadlys newydd i'r parc.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys datblygu'r safle fel canolfan gymunedol ac addysgol, yn ogystal â chartrefu swyddfeydd yr awdurdod yno.
Dywedodd prif weithredwr y parc, Jonathan Cawley, fod y prosiect wedi'i sefydlu mewn ymateb i alw gan drigolion a phobl ifanc lleol am fwy o gyfleoedd celfyddydol a diwylliannol yn yr ardal.
"Mae mynediad at gelfyddydau byw a chyfleoedd creadigol mewn ardaloedd gwledig yn gyfyngedig, felly nod y prosiect hwn yw llenwi'r bwlch, gan roi llwyfan i leisiau lleol," meddai.
Ychwanegodd y byddai'r cynllun yn adeiladu ar dreftadaeth Plas Tan y Bwlch fel canolfan addysg sydd wedi ysbrydoli cadwraethwyr ac artistiaid o Gymru a thu hwnt.
Dywedodd Meleri ei bod yn ddiolchgar bod y parc wedi dewis ffordd greadigol o ymgysylltu â'r cymunedau.
"Bydde ddim lot o gyrff cyhoeddus yn gwneud hyn ac yn dewis ffordd creadigol o ymgysylltu â'r cymunedau," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.