Pobl Cymru ddylai benderfynu ar ddyfodol teitl Tywysog Cymru - Michael Sheen

"Dwi'n meddwl y byddai'n braf cael ein holi," meddai Michael Sheen am ddyfodol teitl Tywysog Cymru
- Cyhoeddwyd
Pobl Cymru ddylai benderfynu beth fydd yn digwydd i'r teitl Tywysog Cymru y tro nesaf y mae'n dod yn rhydd, yn ôl Michael Sheen.
Dywedodd yr actor fod y teitl, sy'n cael ei ddal ar hyn o bryd gan y Tywysog William, "yn symbol o rywbeth a oedd yn y bôn yn ffordd o roi Cymru i lawr".
"Yn amlwg roedd hynny'n amser maith yn ôl, ond mae gan y pethau 'ma bŵer dal i fod," meddai.
Mae'r actor o Bort Talbot yn chwarae Owain Glyndŵr mewn cynhyrchiad theatr newydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.
Gwrthododd Palas Kensington wneud sylw.

Daeth William a Catherine yn Dywysog a Thywysoges Cymru yn 2022
Mae'r teitl yn cael ei roi i'r aelod o'r Teulu Brenhinol a fydd yn etifeddu'r goron, gyda William a'i wraig Catherine, Tywysoges Cymru, yn cael y teitlau gan y Brenin Charles yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth yn 2022.
Y brenin neu'r frenhines sy'n gwneud y penderfyniad terfynol ar bwy fydd yn cael y teitlau.
Llywelyn ap Gruffydd, neu Llywelyn ein Llyw Olaf, oedd tywysog olaf Cymru annibynnol. Cafodd ei ladd mewn brwydr yng Nghilmeri ar 11 Rhagfyr 1282.
Ers hynny mae enwi etifedd y goron yn Dywysog Cymru yn draddodiad sydd wedi parhau am ganrifoedd, gydag Edward I yn urddo ei fab yn Dywysog Cymru yn 1301.
Fe wnaeth Owain Glyndŵr gychwyn 15 mlynedd o wrthryfela yn erbyn rheolaeth y Brenin Harri IV ar ddechrau'r 15fed ganrif, ac ef yw'r Cymro olaf i hawlio'r teitl.

Owain Glyndŵr yw'r Cymro olaf i hawlio'r teitl
Dywedodd Michael Sheen, sy'n chwarae Glyndŵr yn y cynhyrchiad Owain & Henry ym mis Tachwedd, ei fod wedi bod yn meddwl mwy am hanes Gymru ers cael y rôl, a'i fod yn gobeithio y bydd yn "cychwyn trafodaeth" - gan gynnwys cwestiynau am ddyfodol y teitl.
Dywedodd fod y teitl "yn symbol o rywbeth a oedd yn y bôn yn rhoi Cymru i lawr", gan nodi bod y penderfyniad gan Edward I i wneud ei fab yn Dywysog Cymru yn ymgais i gadw Cymru "yn ei lle".
Mae Sheen o'r farn y dylid gofyn i bobl Cymru beth sy'n digwydd i'r teitl pan fydd yn wag nesaf.
Ychwanegodd: "Gallai pobl Cymru benderfynu nad ydyn nhw eisiau i deitl Tywysog Cymru ddychwelyd i Gymru, a'u bod yn hapus gyda'r sefyllfa fel y mae.
"Ond dwi'n meddwl y byddai'n braf cael ein holi."
Yr actor Michael Sheen wedi dychwelyd ei OBE
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2020
Pwy oedd Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru?
- Cyhoeddwyd16 Medi 2024
Yn 2017, dychwelodd Sheen ei OBE am ei wasanaeth i ddrama ar ôl dysgu mwy am hanes Gymru.
Mae Owain & Henry yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru – lle mae Sheen yn gyfarwyddwr artistig – a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Bydd Linus Roache yn chwarae rhan Harri IV, tra bydd Sheen yn cyd-gyfarwyddo'r ddrama gyda Steffan Donnelly.
Er bod y stori yn un sy'n "agos i galon" llawer o Gymry, dywedodd Donnelly nad "sleis sych o hanes" ydy'r cynhyrchiad newydd, ond "ail-ddychmygiad cyffrous... amlhaenog o bwy ydy'r dyn y tu ôl i'r eicon, Owain Glyndŵr".

Mae arweinyddiaeth Glyndŵr a'i weledigaeth yn ddiddorol yng nhyd-destun y byd heddiw, meddai Steffan Donnelly
Mae'r cynhyrchiad yn un amserol hefyd, meddai Donnelly, sy'n teimlo bod y byd yn "hollti" o'n cwmpas.
"Da ni mewn rhyw foment, dwi'n meddwl, lle da ni'n archwilio be' ydy arweinyddiaeth, be' ydy pwrpas cymuned yn ein bywydau dydd i ddydd, a pa fath o weledigaeth sydd gennym ni ar gyfer dyfodol ein gwlad ac ein byd?
"Ac wrth gwrs, mae mynd yn ôl i hanes yn gallu bod yn addysgol iawn yn hynny o beth."
Ychwanegodd: "Mae hefyd meddwl am weledigaeth Glyndŵr i Gymru yn ddiddorol yn y cyd-destun sydd ohoni, a felly dwi'n meddwl mae archwilio pŵer, arweinyddiaeth a sut mae cymuned yn ymdopi o dan heriau, fel oedd cymuned Glyndwr, efo lot o gwestiynau felly yn cael eu codi ar gyfer Cymru, ar gyfer y byd heddiw."
Mae Owain & Henry yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 5-28 Tachwedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.