'Wnes i gyfarfod Christa Pike 20 mlynedd yn ôl - ddylai hi ddim cael ei dienyddio'

Fe wnaeth y newyddiadurwr Helen Roberts gyfarfod Christa Pike mewn carchar yn America yn 2006
- Cyhoeddwyd
Mae'r newyddiadurwr Helen Roberts a wnaeth gyfweld â'r llofrudd Christa Pike 20 mlynedd yn ôl yn dweud na ddylai gael ei dienyddio.
Mae Pike wedi bod yn wynebu'r gosb eithaf ers 1996 ar ôl iddi lofruddio ei ffrind ysgol Colleen Slemmer gyda'i chariad pan oedd hi'n 18 oed.
Roedd ei chariad yn 17 oed ar y pryd felly doedd e ddim yn gallu cael y gosb eithaf ond ers 30 mlynedd bellach Pike yw'r ddynes gyntaf yn nhalaith Tennessee i wynebu'r gosb eithaf mewn dros 200 mlynedd.
Roedd yna oedi i'r broses fore Mercher ond y nos fe gafodd Pike ddau chwistrelliad o'r cyffur sydd i fod y angheuol - ond wnaeth hynny ddim gweithio a bu rhaid ei chludo i'r ysbyty ar ôl i'w chalon barhau i guro.

Cafodd Pike ei dedfrydu yn 1996
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Helen Roberts ei bod wedi teithio i America yn 2006 i gyfweld â Pike mewn carchar i fenywod yn Nashville, Tennessee.
Dywedodd Helen ei bod yn ysgrifennu ar gyfer cylchgronau menywod ar y pryd a bod teithio i gyfweld â Pike yn "brofiad gwych".
Wrth ymateb i'r digwyddiadau yn ymwneud â Pike yn y 24 awr ddiwethaf, dywedodd Helen: "Dwi'm yn gallu coelio fo".
"Mae hi'n barod wedi byw 30 mlynedd yn y carchar ac mae cael rhywbeth fel hyn yn y diwedd yn shocking."

"Fysa rhywun yn meddwl bod hi'n anghenfil ond wnes i ddim cyfarfod rhywun fel 'na," meddai Helen
Roedd cyfarfod Pike yn y carchar yn Nashville 20 mlynedd yn ôl yn "brofiad eithriadol" i Helen.
"Fysa rhywun yn meddwl bod hi'n anghenfil ond wnes i ddim cyfarfod rhywun fel 'na," meddai.
"Roedd hi just yn ddynes ifanc, roedd hi eisiau siarad hefo fi - siarad am colur a siarad am wallt. Dwi'n meddwl oedd hi'n mwynhau fy mod i'n dod o women's magazines. Oedd o'n brofiad mor unusual.
"Roedd mynd i'r carchar yn brofiad eithriadol. Doeddwn i erioed wedi bod i garchar o'r blaen heb sôn am death row.
"Ro'n i'n bryderus, yn nerfus ond yn eitha' relaxed hefyd achos oedd hi mor relaxed."

Cafodd Colleen Slemmer ei darganfod gyda phentagram – symbol sy'n gysylltiedig â grwpiau Satanaidd – wedi'i gerfio ar ei brest
Fe wnaeth Pike a'i chariad ar y pryd guro, arteithio a llofruddio Colleen Slemmer, a oedd yn 19 oed, ar ôl ei chyfarfod mewn gwersyll hyfforddiant gwaith ar gyfer pobl ifanc â phroblemau.
Cafodd Ms Slemmer ei darganfod gyda phentagram – symbol sy'n gysylltiedig â grwpiau Satanaidd – wedi'i gerfio ar ei brest. Mae Pike wedi gwadu cerfio'r pentagram ei hun.
Dywedodd Helen fod Pike yn fodlon siarad am y llofruddiaeth yn ystod y cyfweliad ac i'w gweld yn llawn edifeirwch am yr hyn a ddigwyddodd.
"Mae o'n beth mor ddifrifol a wnaeth hi beth mor ddrwg ond ddaru hi siarad amdana fo yn very relaxed. Doedd hi ddim yn defensive o gwbl, oedd hi'n broffesiynol ac yn ateb pob cwestiwn," meddai.
"Roedd hi'n ymateb hefo emosiwn a hefyd yn sori am beth oedd hi wedi gwneud ond roedd blynyddoedd wedi pasio a hi wedi bod yn y carchar."
'Mae hi wedi cael bywyd mor anodd'
Dydi Helen ddim yn meddwl y dylai Pike wynebu'r gosb eithaf am ei throseddau.
"Dwi'm yn meddwl dylai hi fod ar res marwolaeth," meddai.
"Mae hi wedi gwneud rhywbeth drwg iawn, mae hi wedi cyfaddef a dylai hi fod yn y carchar, ond roedd hi mond yn 18.
"Mae hi wedi cael bywyd mor anodd. Doedd dim oedolyn yn ei bywyd hi oedd yn gallu helpu hi.
"Rhaid meddwl a fuasai hi wedi gwneud hyn os fuasai'r cymorth wedi bod ar gael iddi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.