Cyllideb plismona Caerdydd yn 'amhosib ei gyfiawnhau' - Jo Stevens

Roedd Jo Stevens yn Ysgrifennydd Cymru fel rhan o lywodraeth Syr Keir Starmer
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi arian penodol i blismona prifddinasoedd i Gaerdydd, gan alw'r sefyllfa bresennol yn "annheg".
Dywedodd yr aelod Llafur dros Ddwyrain Caerdydd, Jo Stevens mai "Caerdydd yw'r unig brifddinas Brydeinig heb arian penodol i'w phlismona".
Galwodd ar y llywodraeth i ganfod datrysiad "unwaith ac am byth" i'r anghysondeb hanesyddol sy'n "amhosib ei gyfiawnhau".
Dywedodd Andy Burnham ei fod yn deall ei phwynt a bod adolygiad ar waith.
Reform UK yn 'hapus i edrych ar y datrysiad cywir' i blismona yng Nghymru
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Burnham yn 'agored i'r sgwrs' am ddatganoli plismona i Gymru
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid plismona yng Nghymru a Lloegr
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
Yn ei chwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog ers gadael Swyddfa Cymru, dywedodd Jo Stevens fod y sefyllfa yn golygu bod y tîm plismona bro yn cael eu tynnu oddi wrth eu gwaith arferol er mwyn delio gyda'r gwaith ychwanegol.
Dywedodd Andy Burnham ei fod yn deall bod prifddinasoedd yn wynebu "pwysau ychwanegol sydd ddim yn wynebu lluoedd heddlu eraill," a bod adolygiad i'r fformiwla ariannu yn digwydd fel rhan o adolygiad ehangach i ddiwygio'r heddlu".
Yn ogystal, yn ei sesiwn gyntaf o Gwestiynau i'r Prif Weinidog, fe wnaeth Mr Burnham roi teyrnged i Jo Stevens am ei gwaith yn cynrychioli Cymru tra'n Ysgrifennydd Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Fe wnaeth y prif weinidog newydd benodi Stephen Kinnock i'r rôl ym mis Gorffennaf.

Ddydd Mercher oedd y tro cyntaf i Andy Burnham wynebu sesiwn Gwestiynau i'r Prif Weinidog
Galwodd Jo Stevens ar Andy Burnham i "sicrhau bod y broblem yma yn cael ei datrys unwaith ac am byth trwy roi ariannu plismona prifddinas" yn benodol i Gaerdydd.
Caerdydd yw'r "unig brifddinas yn y Derynas Unedig sydd heb arian plismona penodol i brifddinasoedd, sy'n golygu bod timau heddlu bro yn cael eu tynnu oddi ar y gwaith y dylen nhw ac sydd angen iddyn nhw ei wneud," meddai.
"Mae'r anghysondeb hanesyddol yma yn annheg ac yn amhosib ei gyfiawnhau."
Datganoli mwy lleol 'yn gyffrous iawn'
Yn ystod y sesiwn cafodd Andy Burnham ei holi hefyd ynglŷn â datganoli'r grym dros blismona i Gymru.
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, iddo gadarnhau y byddai datganoli plismona ar yr agenda trafod gyda Phrif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth pan fyddan nhw'n cyfarfod fis nesa.
Dywedodd Mr Burnham y byddai'n rhoi "ystyriaeth deg" i gynigion gan Lywodraeth Cymru, ond awgrymodd hefyd ei fod yn awyddus i drafod "datganoli grym yn fwy lleol ar draws Cymru" i hyrwyddo'r economi.
Yn gynharach yn Nhŷ'r Cyffredin, wrth ateb cwestiynau Cymru fel Ysgrifennydd Cymru diweddaraf San Steffan, dywedodd Mr Kinnock fod y syniadau i ddatganoli grym "tu hwnt i Fae Caerdydd a Holyrood (Senedd yr Alban) yn gyffrous iawn".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.