'Amser am atebion' i'r 'argyfwng' o brinder athrawon cyfrwng Cymraeg y dyfodol

Myfyrwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pwysau ar athrawon a chyfleoedd gyrfa eraill yn dylanwadu ar benderfyniadau rhai myfyrwyr i beidio â mynd i fyd addysg

GanAnest Eirug
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae yna bryder nad oes digon o bobl yn cael eu denu i fod yn athrawon cyfrwng Cymraeg, gyda rhai sy'n gweithio yn y maes yn dweud ei bod hi'n "amser am atebion".

Yn ôl Dr Lowri Mair Jones, cyfarwyddwr y cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) uwchradd ym Mhrifysgol Bangor, roedd y sefyllfa y llynedd yn "dorcalonnus", gyda dim ond naw myfyriwr yn hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel uwchradd.

Mae rhai myfyrwyr yn dweud bod cyfleoedd gyrfa eraill a phwysau'r swydd addysgu yn dylanwadu ar eu penderfyniad i beidio â mynd i ddysgu.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi cynyddu'r grant hyfforddi i athrawon mewn rhai pynciau, gan gynnwys Cymraeg, o £5,000 i £20,000 o fis Medi 2026.

'Dyfodol ein plant yn y fantol'

Er bod nifer y myfyrwyr ar gwrs TAR uwchradd cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor wedi codi o naw i 20 eleni, dywedodd Dr Jones ei bod yn parhau i fod yn bryderus.

Dywedodd bod dros hanner rheiny yn astudio'r pwnc addysg gorfforol, ond "pan mae'n dod i bynciau mae'r llywodraeth yn eu blaenoriaethu, mae'r niferoedd yn is".

Ar hyn o bryd, mae dau fyfyriwr yn hyfforddi i addysgu Cymraeg fel pwnc, un ar gyfer mathemateg ac un arall mewn dylunio a thechnoleg.

 Dr Lowri Mair Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Lowri Mair Jones, mae'r niferoedd sy'n hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn rhai pynciau yn peri pryder

Mae'n ymddangos bod niferoedd y rhai sy'n astudio Cymraeg fel pwnc yn isel mewn rhai prifysgolion eraill yng Nghymru hefyd.

Gan ddweud bod y sefyllfa yn argyfyngus, ychwanegodd Dr Jones fod y niferoedd isel yn creu "cylch dieflig".

"Mae'r pynciau prin yn golygu ein bod ni'n ei chael hi'n anoddach lleoli myfyrwyr gydag arbenigwyr pwnc mewn ysgolion. Yn aml, mae ysgolion yn dweud nad oes ganddyn nhw'r staff i'w cefnogi nhw," meddai.

Ychwanegodd: "Da ni wedi bod yn trafod yr heriau yma dro ar ôl tro. Dyw hyn ddim yn newydd.

"Mae'n amser am atebion rŵan oherwydd mai dyfodol ein plant, ein pobl ifanc a gweithlu'r dyfodol sydd yn y fantol."

'Y pwysau'n gwneud i chi feddwl ddwywaith'

Mae Sami Sullivan ac Efa Gwenllian Jones yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Sami ei fod bob amser wedi ystyried gyrfa mewn addysg pan oedd yn yr ysgol, ond bod ei farn wedi newid ers dechrau yn y brifysgol.

"Ers dod i'r brifysgol dwi wedi sylweddoli faint o gyfleoedd eraill sydd ar gael. Pethau fel newyddiaduraeth, cyflwyno, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu."

Sami Sullivan ac Efa Gwenllian Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sami Sullivan ac Efa Gwenllian Jones, mae cyfleoedd eraill a phwysau'r swydd yn golygu bod rhai myfyrwyr yn troi cefn ar addysgu

I Efa, mae addysgu "wastad wedi bod yng nghefn fy meddwl", ac mae hi'n gweithio yn ei hen ysgol yn ystod gwyliau'r coleg.

Ond dywedodd fod gweld effaith y swydd ar ei rhieni, sydd ill dau'n athrawon, wedi gwneud iddi ailystyried.

"Fi 'di gweld y pwysau gwaith arnyn nhw a'r pwysau meddyliol, a faint o effaith mae hynny'n gallu ei gael."

 Siwan Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siwan Matthews yn ystyried gyrfa ym myd y gyfraith, ond mae addysgu yn parhau i fod yn opsiwn ar gyfer y dyfodol

Mae Siwan Matthews, sy'n astudio'r Gyfraith a Chymraeg, hefyd yn ystyried gyrfa y tu allan i addysg.

Ar ôl gwirfoddoli mewn ysgol ym Mhatagonia dros yr haf, dywedodd ei bod wedi gweld diwylliant gwaith gwahanol i'r hyn a geir yng Nghymru.

"Roedd popeth yn llawer mwy hamddenol, gyda llai o straen a gwell cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd."

Er hynny, dywedodd bod addysgu yn parhau i fod yn opsiwn ar gyfer y dyfodol.

'Argyfwng' er gwaethaf y grantiau

Yn ddiweddar, cynyddodd Llywodraeth Cymru y grant sydd ar gael i athrawon dan hyfforddiant mewn pynciau blaenoriaeth, gan gynnwys Cymraeg, o £5,000 i £20,000.

Ond yn ôl Ioan Rhys Jones o undeb addysg UCAC, mae cwestiynau ynghylch pa mor effeithiol yw'r cymhellion hynny.

"Mae 'na gwestiwn os ydy'r cymhelliannau yma yn ddigonol ac ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n effeithiol," meddai.

Ioan Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ioan Rhys Jones o UCAC fod angen gwneud mwy i wneud y proffesiwn yn fwy deniadol

Disgrifiodd y sefyllfa fel "argyfwng", gan ddadlau bod angen gwneud mwy i ddenu darpar athrawon.

Yn ôl Mr Jones, dylid canolbwyntio ar leihau llwyth gwaith, mynd i'r afael ag ymddygiad disgyblion a chynyddu hyblygrwydd yn y gweithle.

"Mae angen i ni sicrhau bod athrawon yn cael yr amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen er mwyn darparu'r addysg orau i blant a phobl ifanc."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynyddu'r grant i athrawon dan hyfforddiant mewn pynciau blaenoriaeth, gan gynnwys Cymraeg, o £5,000 i £20,000 o fis Medi 2026.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd eu bod wedi "ymrwymo i roi cyfle i bob person ifanc ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol a hyderus".

Ychwanegodd eu bod yn darparu cymorth i ysgolion ac ymarferwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, ac y bydd fframwaith newydd ar gyfer addysg Gymraeg yn helpu i sicrhau gweithlu addysg "digonol, medrus a chynaliadwy".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.