Y ddynes o Danygrisiau sy'n rhoi darn o dir yn ôl i'w chymuned

Catrin RobertsFfynhonnell y llun, Catrin Roberts
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

O weithdy creu ysgub, i ddysgu am rinweddau meddyginiaethol planhigion, i helpu i dacluso darn o dir gwyllt, mae Catrin Roberts yn cynnig nifer o ffyrdd y gallai pobl ddod yn un â natur.

A hithau'n berchen ar ddarn o dir sydd "yn rhy fawr iddi", mae hi'n brysur yn ei drawsnewid yn hafan er lles ei chymuned yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog.

Yn y pendraw, bydd Caeau Ennyd yn "maze byw" o ardaloedd o blanhigion bwytadwy a meddyginiaethol, llwybrau troellog a lleoedd i gymryd hoe, meddai.

Ond am nawr, mae yna lawer o waith clirio...

Rhai o'r gwirfoddolwyrFfynhonnell y llun, Catrin Roberts

Adfer hen arferion

Fel un sydd bob amser yn "ysu i fod allan" ymysg natur, eglura, mae Catrin wrth ei bodd yn dysgu ac addysgu eraill am y byd natur o'n cwmpas.

Mae hyn wedi arwain ati'n rhannu ei gwybodaeth am y gwahanol ddefnyddiau sydd i blanhigion gwyllt, a chynnal gweithdai am hen sgiliau sy'n defnyddio'r hyn sydd o'ch cwmpas.

"Dwi'n arwain teithiau a gweithdai am blanhigion a'u defnydd er lles y corff, fel gwneud eli neu goginio efo planhigion gwyllt, neu wneud ysgub, neu raff gyda dail poethion.

creu ysgubFfynhonnell y llun, Catrin Roberts

"Mae 'na dipyn o ddiddordeb rŵan – dwnim os ydy o jyst yn trendy, neu mae pobl yn gweld yr angen. Diolch i'r drefn fod 'na lyfrau wedi eu sgwennu yng Nghymru yn ogystal ag ar draws y byd, efo meddyginiaeth neu sut oedden nhw'n defnyddio planhigion.

"Ond mae 'na lot wedi cael ei golli, a hen enwau Cymraeg sydd wedi mynd yn angof."

'Cwtsh bach' gan natur

Felly mae Catrin yn gwahodd pobl i ddod i'r erw a hanner o dir sydd ger ei chartref i fynychu gweithdai, er mwyn i'r wybodaeth yma gael ei rhannu ymhellach a'i rhoi ar gof a chadw.

Mae pobl hefyd yn galw draw i helpu i glirio'r gordyfiant sydd yno, gan gymryd y cyfle i gael ychydig o oriau o seibiant yng nghanol natur; rhywbeth mae Catrin yn ei weld sy'n "llesol i bawb".

"Dwi wrth fy modd pan dwi'n mynd i gasglu planhigion ar gyfer yr eli, pan dwi'n rhoi fy nwylo yn y gwyrddni, teimlo bach o wres o'r ddaear; mae o fath â rhyw cwtsh bach i ti.

dwylo budrFfynhonnell y llun, Catrin Roberts

"Dwi'n tueddu i ddeud fod pobl wedi gwella o ran cyswllt natur – un positif o Covid oedd fod pobl yn gwerthfawrogi lot mwy.

"Dyna sy'n neis am y gweithdai a'r creu – mae pawb yn arafu i lawr, dyda ni'm yn rhedeg i'r siop i nôl rhywbeth. Mae iechyd meddwl pawb yn gwella hefyd. Dyna ti'n ei gael o arafu lawr a mynd allan i'r gwyrddni – mae o'n llesol ar bob math o lefelau, ac yn andros o bwysig.

"Mae pobl yn dweud 'mae o wedi bod mor braf, dwi ddim wedi meddwl am ddim byd'. Jyst yr amser allan, ac mae hynny'n hyfryd."

Cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg

Mae hyn i gyd yn cael ei blethu â swydd Catrin fel tiwtor Cymraeg. Sylweddolodd fod pobl yn hyderus i siarad Cymraeg gyda hi yn y stafell ddosbarth, ond yn llai cyfforddus i wneud ar y stryd.

Dyma felly gynnig cyfle iddyn nhw ddefnyddio'r iaith mewn awyrgylch mwy anffurfiol.

"Mae'n haws i bobl siarad Cymraeg pan 'da ni'n g'neud rhywbeth ymarferol. Mae o fel pan ti'n mynd am dro, mae'n haws siarad, achos ti'm yn sbio llygad yn lygad efo rhywun.

"Be' bynnag ydy lefel eu Cymraeg nhw, dwi'n rhoi 20 munud ar y dechrau i fynd dros yr eirfa a phatrymau fyddan ni'n eu defnyddio yn y sesiynau garddio gwyllt neu'r gweithdy.

"Wedyn mynd iddi, a phawb yn defnyddio'r lefel o Gymraeg maen nhw'n hapus efo fo. Cyn belled â bod nhw'n defnyddio un gair o Gymraeg, dwi'n hapus!

gweithdy creu rhaffFfynhonnell y llun, Catrin Roberts

"Yn ddiweddar dwi 'di cael gweithdai gan Nick i greu brwsh llaw, a Jo sy'n g'neud rhaff o ddail poethion a mieri. Mae'r ddau yn dysgu Cymraeg, a'r deal 'da ni 'di 'neud ydy dwi'n eu helpu nhw efo'r Gymraeg maen nhw angen ac maen nhw'n rhedeg y gweithdy cyntaf am ddim.

"Mae hynny'n gweithio'n dda, ac mae'n codi'u hyder nhw i fynd gam ymhellach. Ac yn rhoi gwên ar wyneb i'w gweld nhw'n mynd amdani."

'Bwyd gwyllt fel bwyd arferol'

Mae gan Catrin gynlluniau mawr ar gyfer y Caeau, meddai, gan gynnwys cael patshys o blanhigion gwyllt sy'n tyfu er mwyn eu bwyta.

"Mae pobl angen defnyddio bwyd gwyllt fel bwyd arferol unwaith eto, achos felly oedd hi ers talwm, ond 'da ni 'di colli'r cyswllt. Dwi'n meddwl fod hynny, yn enwedig y dyddiau hyn, yn bwysig i gael dan y belt fath â sgil."

planhigionFfynhonnell y llun, Catrin Roberts

Yn cael ei ystyried yn niwsans i lawer, mae dail poethion yn enghraifft berffaith o rywbeth sydd yn gallu cael ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd, eglurai Catrin, ac mor hawdd i gael gafael arno.

"Mae'n debyg i sbigoglys, mae o'n tyfu mor hawdd, yn dŵad lle ti ddim isho iddo fo ddŵad, mae o'n flasus. Mae bob math o wahanol fanteision – ffres, syth o'r cae, dim plastig...

dailFfynhonnell y llun, Catrin Roberts

"Gobeithio ddaw pobl i weld, yn eu gerddi eu hunain, fod y gornel dail poethion yn ddefnyddiol, 'san nhw ond yn ei ddefnyddio fo. Pwt bach o wybodaeth ydy o 'de, a hyder i'w ddefnyddio fo."

Ochr-yn-ochr â'r dail poethion, mae mieri, milddail, suron y coed, y ddraenen wen a gwyddfid yn tyfu ar y llecyn, sy'n addas i'w bwyta. Bydd hefyd adrannau i ddail all gael eu defnyddio i wneud te, yn ogystal â phlanhigion meddyginiaethol, meddai.

garddio yn y glawFfynhonnell y llun, Catrin Roberts

Lle i enaid gael llonydd

Mewn amser, bydd y Caeau yn hafan i'r gymuned alw draw i arddio, dysgu neu i gymryd seibiant o'u bywydau prysur.

Yn ddiweddar enillodd Catrin goeden ifanc a ddaeth o goeden y Sycamore Gap, a fydd yn cael ei phlannu ar y tir. Y gobaith yw y bydd hwn yn fan i bobl ymgynnull. Mae hefyd cais am ardal goffa yn y gornel bellaf; encil heddychlon lle mae'r afon i'w chlywed.

Mae Catrin yn hapus ei bod hi'n gallu rhoi a datblygu'r tir yma er lles pobl ei chymuned.

"Mae'n neis cael g'neud. Mae o rhy fawr i mi – a hunanol uffernol deud 'fi bia', achos jest ei warchod o dwi 'de. Dwi'm yma am byth nacdw!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig