Gwrthod rhoi pryd i fam babi mewn gofal dwys gan nad oedd hi'n bwydo ar y fron

Sophie a FlorenceFfynhonnell y llun, Sophie Price
GanDanielle Herbert a Manon WiliamBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae mam newydd wedi dweud nad oedd hi'n cael prydau bwyd yn yr ysbyty tra roedd ei babi yn "brwydro am ei bywyd", gan nad oedd hi'n bwydo ar y fron.

Dywedodd Sophie Price, sy'n 22 oed, ei bod wedi cael sioc pan wrthododd staff roi pryd o fwyd iddi tra roedd ei merch Florence yn cael triniaeth ar ward blant yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân, Torfaen.

Er iddi roi genedigaeth yn yr ysbyty bum niwrnod ynghynt, dywedwyd wrthi nad oedd hi bellach yn cael ei hystyried yn glaf gan nad oedd hi'n bwydo ar y fron, ac felly doedd hi ddim yn gymwys i gael prydau bwyd.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eu bod yn "flin o glywed am brofiad Sophie" a'u bod "wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd drwy gydol y cyfnod y mae eu plentyn yn yr ysbyty".

Florence - babi Sophie a Ryli Price yn cael triniaethFfynhonnell y llun, Sophie Price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sophie iddi hi a'i gŵr, Ryli gael gwybod y gallai Florence "orfod cael ei rhoi mewn coma ar unrhyw adeg" yn ystod ei thriniaeth

"Roedd yn brofiad ofnadwy. Roedd jyst angen pryd o fwyd poeth arna i er mwyn i fi allu dal ati ar gyfer fy merch," meddai Sophie, o Gasnewydd.

Dywedodd ei theulu eu bod wedi gwario mwy na £1,000 ar fwyd o gaffi'r ysbyty a bwyd tecawê yn ystod eu harhosiad o dair wythnos yno tra roedd Florence yn cael triniaeth.

Roedd Sophie ond wedi bod adref am 24 awr ar ôl gadael yr ysbyty cyn iddi hi a'i gŵr Ryli Price orfod dychwelyd pan sylweddolon nhw nad oedd Florence yn gallu anadlu a bod "y lliw'n dechrau diflannu ohoni".

"Dechreuodd Florence wneud synau grwgnach caled iawn," meddai.

Rhedodd Sophie i'r adran damweiniau ac achosion brys gan sgrechian "dydy hi ddim yn anadlu", a chanmolodd ymateb cyflym y staff meddygol a helpodd i achub bywyd ei merch.

Cafodd Florence ddiagnosis o bronciolitis, rhinofeirysau - sy'n achosi'r annwyd cyffredin - a haint yn y gwaed, a olygai nad oedd ei hysgyfaint yn gallu gweithio ar eu pennau eu hunain.

Cafodd ei rhoi ar beiriant a oedd yn pwmpio aer i'w hysgyfaint drwy fwgwd.

Sophie yn gorwedd wrth wely Florence yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Sophie Price
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd y rhieni newydd dair wythnos yn yr ysbyty gyda'u merch Florence

Dywedodd Sophie, tra roedd hi "yn llwglyd ac wedi blino'n lân", iddi gael ei gwrthod pryd o fwyd tra roedd ei merch "mewn gofal dwys yn brwydro am ei bywyd".

"Dychmygwch fod mewn ysbyty gyda'ch babi sy'n ddifrifol wael, ar gymorth anadlu ac yn cael ei monitro, yn teimlo mor bryderus, gofidus a dan straen, dim ond i gael gwybod nad oes gennych hawl i bryd o fwyd am eich bod yn bwydo â fformiwla yn hytrach na bwydo ar y fron."

Dywedodd Sophie ei bod yn gwaedu drwy ei dillad ac mewn "llawer o boen" gan fod angen rhoi ei chluniau yn ôl yn eu lle yn dilyn yr enedigaeth.

Roedd hefyd wedi datblygu oedema, sef cronni hylif yn ei thraed, a dywedodd: "Roedd fy nhraed maint trynciau eliffantod, i'r graddau nad oeddwn i hyd yn oed yn gallu cerdded o un coridor i'r llall."

Sophie a Ryli Price gyda'u babi, FlorenceFfynhonnell y llun, Sophie Price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sophie a Ryli eu bod wedi gwario tua £1,000 ar brydau bwyd o gaffi'r ysbyty neu o siopau tecawê tra roedd Florence yn yr ysbyty

Dywedodd Sophie ei bod hi a Ryli wedi cael gwybod y gallai Florence orfod cael ei rhoi mewn coma ar unrhyw adeg, a bod y sefyllfa "mor ansicr drwy'r amser".

Ar un adeg, sylweddolodd Sophie nad oedd wedi bwyta ers tua 28 awr a chofiodd weld troli bwyd yn cael ei gludo o amgylch y ward i'r mamau.

"Rwy'n cofio nhw'n dweud wrtha i, 'O, helo mam, gobeithio dy fod di'n iawn, wyt ti'n llwglyd?' a fi'n dweud, 'O ydw, rwy'n hollol lwglyd, dwi ddim wedi bwyta ers oesoedd, beth sydd gennych chi?'"

Gofynnwyd i Sophie a oedd hi'n bwydo ar y fron - rhywbeth nad oedd wedi gallu ei wneud ar ôl 24 awr gyntaf bywyd Florence gan nad oedd Florence bellach yn cymryd ei llaeth.

Esboniodd hyn i'r staff gan ddweud bod Florence yn cael fformiwla, ond mewn ymateb fe ddywedodd y staff: "'O sori, alla i ddim rhoi bwyd i ti felly.' Rwy'n cofio teimlo cymaint o sioc, roedd e'n erchyll."

Ychwanegodd Sophie ei bod yn barod yn teimlo'n "siomedig" am nad oedd hi'n gallu bwydo ar y fron.

Sophie PriceFfynhonnell y llun, Sophie Price
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Sophie ddim wedi bwyta ers tua 28 awr pan ddywedodd fod staff yr ysbyty wedi gwrthod rhoi pryd o fwyd poeth iddi

Gan fod cyfnod tadolaeth ei gŵr yn dod i ben, dywedodd Sophie nad oedd "erioed wedi bod mewn sefyllfa mor fregus", a'i bod wedi dibynnu ar deulu i orffen eu gwaith a dod â bwyd iddi tra roedd hi wrth ochr gwely Florence.

Mae mamau'n cael prydau bwyd pan fydden nhw o dan ofal gwasanaethau mamolaeth yr ysbyty, gan fod y fam a'r babi yn cael eu hystyried yn gleifion, p'un a yw'r fam yn bwydo ar y fron ai peidio.

Ar wardiau plant, dim ond y plentyn sy'n cael ei ystyried yn glaf, ond polisi'r ysbyty yw darparu prydau bwyd i famau sy'n bwydo ar y fron gan fod hynny'n cefnogi bwydo a maeth y babi yn uniongyrchol.

Ar gyfer babanod sy'n cael ei fformiwla mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod yn darparu "fformiwla yn ôl yr angen", ond dywedodd Sophie iddi gael gwybod y byddai'n rhaid iddi hi ddod â'r fformiwla ei hun.

Cysylltodd mam Sophie â'r ysbyty ynghylch y mater, ac yna fe barhaodd yr ysbyty i ddarparu fformiwla i Florence.

Sophie Price a FlorenceFfynhonnell y llun, Sophie Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie yn galw ar bob ysbyty i ddarparu prydau bwyd i famau sy'n bwydo eu babanod â fformiwla

Dywedodd Sophie ei bod yn credu bod y polisi'n "hen ffasiwn" ac yn "gwahaniaethu yn erbyn mamau sy'n bwydo â fformiwla ac sy'n gwneud eu gorau glas mewn amgylchiadau anodd".

Ychwanegodd ei bod yn credu y dylai pob ysbyty ddarparu prydau bwyd i famau, waeth sut maen nhw'n bwydo eu babanod.

"Pam ddylai dewis mam ynghylch sut i fwydo ei babi benderfynu a yw hi'n cael bwyd ei hun pan mae mewn sefyllfa mor ddifrifol, llawn straen a gofid?"

Diolchodd y bwrdd iechyd i Sophie am ei hadborth a dywedon nhw eu bod yn deall "pa mor anodd a llawn straen y gall fod i rieni pan fydd eu plentyn yn yr ysbyty".

Ychwanegon nhw: "Pan nad yw rhieni'n gallu cael mynediad at gaffi'r ysbyty, pan nad oes ganddyn nhw lawer o gefnogaeth, neu pan nad ydyn nhw'n gallu gadael ochr gwely eu plentyn, gall timau'r ward ddarparu bwydydd sylfaenol a lluniaeth i helpu i ddiwallu anghenion uniongyrchol.

"Gall rhieni hefyd gael pryd o fwyd am bris gostyngol yn yr ysbyty drwy gynllun talebau'r ward, ac os yw teulu'n wynebu caledi ariannol, gellir trafod cymorth gyda thîm y ward.

"Mae ceisiadau'n cael eu hystyried fesul achos er mwyn sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu'n deg ac yn briodol, gan ystyried amgylchiadau'r teulu ac anghenion y plentyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig